Rydyn ni yma pan fyddwch chi ein hangen

Dydd neu nos, gyda llais cyfeillgar a help llaw

Yn Llesiant Delta, rydyn ni'n helpu pobl i fyw'n annibynnol, yn ddiogel ac yn hyderus gartref cyhyd â phosibl. Rydym yn deall bod aros gartref yn bwysig – dyma lle rydych chi'n teimlo'n fwyaf cyfforddus ac mewn rheolaeth. Dyna pam rydym wedi datblygu Delta i Chi, sef ystod syml, hyblyg o wasanaethau gofal trwy gymorth technoleg (TEC) sy'n rhoi tawelwch meddwl i chi, eich teulu neu'ch gofalwyr, gan gynnwys:

  • Larymau personol a synwyryddion codymau er mwyn i chi gael help ar unwaith wrth bwyso botwm
  • Systemau olrhain GPS i'ch cadw'n ddiogel gartref neu wrth fynd o le i le
  • Synwyryddion cartref clyfar i ganfod mwg, carbon monocsid, symudiad, a thymheredd 

Darparwr dibynadwy

Cefnogaeth brofiadol, gyfeillgar a medrus

Fel Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, rydym yn ddarparwr dibynadwy gyda dros 30 mlynedd o brofiad o gefnogi pobl ar draws ein cymunedau. Caiff ein gwasanaethau eu darparu gan dîm cyfeillgar, hynod fedrus a chymwys sydd wir yn gofalu amdanoch. Rydyn ni yma 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn – yn barod i ymateb pan fydd ein hangen arnoch fwyaf.

Rydyn ni'n cefnogi:

  • Oedolion hŷn a phobl agored i niwed sy'n byw gartref
  • Pobl â chyflyrau iechyd hirdymor neu anableddau sydd am gadw'n ddiogel ac aros yn annibynnol
  • Aelodau o'r teulu sy'n ceisio cymorth a thawelwch meddwl ynghylch perthnasau sy'n heneiddio
  • Gofalwyr di-dâl, cymdogion a ffrindiau sydd eisiau tawelwch meddwl
  • Unrhyw un sydd eisiau aros yn annibynnol ond yn ddiogel gartref

Cefnogi unigolion

Diogelwch, annibyniaeth a lles

Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi diogelwch, annibyniaeth a llesiant i unigolion ar bob cam mewn bywyd. P'un a oes angen sicrwydd achlysurol arnoch neu gymorth mwy cynhwysfawr, mae ein gwasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu eich anghenion unigryw. Trwy dechnoleg gynorthwyol, galwadau llesiant a galwadau i wneud yn siŵr eich bod chi'n iawn, a gwasanaeth ymateb brys i gefnogi argyfyngau anfeddygol, rydyn ni'n rhoi'r tawelwch meddwl i chi bod cymorth bob amser ar gael pan fo angen.

Rydym yn deall y gall gofalu am rywun annwyl fod yn heriol. Rydym yn darparu diweddariadau amser real, mewnwelediadau llesiant, ac ymateb brys 24/7 i deuluoedd a gofalwyr, gan gynnig sicrwydd bod eu hanwyliaid yn cael eu cefnogi hyd yn oed pan na allant fod yno yn bersonol.

Sut y gallwn ni helpu

*ar gael mewn rhai ardaloedd yn unig ar hyn o bryd
  • Dyfeisiau Gofal Trwy Gymorth Technoleg Rydym yn darparu ac yn gosod ystod o ddyfeisiau clyfar, gan gynnwys larymau personol, synwyryddion codymau a dyfeisiau olrhain GPS, a synwyryddion yn y cartref i'ch cadw'n ddiogel gartref neu wrth fynd o le i le
  • Monitro a rhybuddion 24/7 Rydym yn monitro galwadau, dyfeisiau a gweithgarwch defnyddwyr, yn canfod cwympiadau ac yn gweithredu'n gyflym – gan gysylltu â theulu, ffrindiau, gofalwyr, ein hymatebwyr ein hunain neu'r gwasanaethau brys yn ôl yr angen
  • Galwadau llesiant a sgyrsiau dal i fyny Sgyrsiau dal i fyny cyfeillgar rheolaidd i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn. Os nad ydym yn clywed gennych, byddwn yn cysylltu â chi
  • Ymateb mewn argyfwng 24/7* Cymorth ar unwaith drwy bwyso botwm, gan sicrhau bod help bob amser ar gael ar gyfer argyfyngau anfeddygol; gall ein hymatebwyr hyfforddedig ddod yn bersonol, gan ddefnyddio offer codi arbenigol i'ch helpu yn ôl i fyny ar ôl codwm
  • Trosglwyddo a rhyddhau o'r ysbyty* Cludiant diogel a dibynadwy i apwyntiadau meddygol ac yn ôl, neu gymorth rhyddhau o'r ysbyty i'ch helpu i fynd adref yn ddiogel a setlo nôl yn iawn
alt

Pam ein dewis ni

Gofal hyblyg, personol

  • Cymorth dibynadwy: Mae gennym flynyddoedd o brofiad o gynorthwyo pobl i fyw'n dda gartref.
  • Gofal wedi'i bersonoli: Rydym yn gwrando ar eich anghenion ac yn eich helpu i adeiladu pecyn gofal sy'n addas i chi.
  • Tawelwch meddwl 24/7: Mae ein tîm bob amser yma – ddydd neu nos – i ymateb i argyfyngau, gwirio eich llesiant, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch teulu.
  • Hyblyg a lleol: Dewiswch osod yr offer eich hun neu gadewch i'n tîm lleol ymweld â'ch cartref i osod yr offer a rhoi cyngor (ar gael mewn rhai ardaloedd). 
alt

Tawelwch meddwl

Byw bywyd eich ffordd

Rydyn ni yma i roi tawelwch meddwl i chi a'ch teulu fel y gallwch fyw bywyd eich ffordd chi, gyda chefnogaeth ar gael bob amser pan fydd ei angen arnoch

  • Rydym yn darparu larymau personol a synwyryddion codymau. Pwyswch fotwm (neu rydyn ni'n canfod codwn) ac rydyn ni'n eich helpu chi
  • Rydyn ni yma 24/7. Ddydd a nos
  • Gallwn ffonio eich teulu neu ddod draw yn bersonol (mewn rhai ardaloedd)
  • Gallwn eich ffonio bob wythnos i wneud yn siŵr eich bod yn iawn
  • Prisiau o £4.85 y mis
Ein teclyn pecyn cymorth

Dewch o hyd i'r pecyn cymorth cywir i chi

Gallwn ni helpu i ddod o hyd i'r pecyn cywir i chi; dewiswch rhwng Delta yn y Cartref ar gyfer monitro dibynadwy 24/7 yn y cartref, neu Delta Unrhyw Le i'ch diogelu lle bynnag yr ydych chi. Gallwn hefyd weld a fyddech chi'n elwa o ychwanegu Delta Sgwrsio a / neu Delta ar ei Ffordd i gael tawelwch meddwl ychwanegol.

29
13
12
32
Couplewalking
6
Help2women
27
5
Ein teclyn pecyn cymorth

Cyn i ni ddechrau

Ar gyfer pwy ydych chi'n awyddus i brynu pecyn?

I fy hun
I rywun arall
Ein teclyn pecyn cymorth

Cwestiwn 1

Pe baech chi'n cael argyfwng gartref, fel codwm neu salwch sydyn, a fyddech chi'n teimlo'n hyderus y gallech chi gael help yn gyflym?

Byddwn
Na fyddwn
Ein teclyn pecyn cymorth

Cwestiwn 2

Hoffech chi gael galwadau llesiant rheolaidd i wirio sut ydych chi, rhoi unrhyw gyngor a chefnogaeth, neu eich cysylltu â gweithgareddau lleol?

Hoffwn
Na hoffwn
Ein teclyn pecyn cymorth

Cwestiwn 3

Ydych chi'n byw ar eich pen eich hun, neu weithiau'n teimlo'n ynysig heb neb gerllaw i weld sut ydych chi?

Ydw
Nac ydw
Ein teclyn pecyn cymorth

Cwestiwn 4

Ydych chi'n treulio amser y tu allan i'r cartref a byddech chi'n elwa o gael diogelwch wrth fynd o gwmpas y lle?

Ydw
Nac ydw
Ein teclyn pecyn cymorth

Cwestiwn 5

Ydych chi'n poeni am gwympo neu oes gennych chi gyflwr iechyd sy'n eich rhoi chi mewn perygl?

Ydw
Nac ydw
Ein teclyn pecyn cymorth

Eich Canlyniadau

Choose package
Ein teclyn pecyn cymorth

Ddim yn siŵr pa gymorth sy'n iawn i chi? Rydyn ni yma i helpu.

Gadewch eich manylion isod, a byddwn yn anfon gwybodaeth ddefnyddiol atoch ac yn cysylltu â chi pan fyddwch yn barod.

Contact Us