text

Ar gyfer unigolion

Croeso i Llesiant Delta – gwasanaeth larwm personol ac ymateb brys 24/7

Os ydych chi'n gofalu am rywun, neu angen cymorth arnoch chi'ch hun, rydyn ni yma i helpu. Mae ein cynnig hyblyg Delta i chi yn golygu y gallwch chi adeiladu pecyn sy'n addas i'ch anghenion, gyda mynediad cyflym at gymorth, cyngor a sicrwydd.

Dewiswch y gefnogaeth sy'n addas i'ch bywyd. Dim asesiadau. Dim rhestrau aros. Dim ond y cymorth sydd ei angen arnoch chi, pan fydd ei angen arnoch chi.

Cymorth i chi, eich teulu neu'r person rydych chi'n gofalu amdano

Os ydych chi'n gofalu am rywun, neu angen cefnogaeth arnoch chi'ch hun, rydyn ni yma i helpu.
  • Technoleg gynorthwyol Technoleg gynorthwyol i helpu pobl i aros yn ddiogel gartref – o linellau achub a larymau personol i synwyryddion cwympo a synwyryddion symudiad
  • Monitro 24/7 Gwasanaeth monitro ac ymateb brys 24/7
  • Gwirio i mewn Galwadau lles a chofrestriadau rheolaidd
  • Cefnogaeth Cefnogaeth wrth ddod adref o'r ysbyty
text

Ar gyfer sefydliadau

Cefnogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau gwell

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cymdeithasau tai a phartneriaid eraill i ddarparu gwasanaethau dibynadwy, graddadwy sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Rydym yn hyblyg, yn brofiadol ac yn barod i weithio gyda chi i gyrraedd eich nodau a gwasanaethu eich cymunedau'n well.

Cefnogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau gwell

Rydym yn cynnig gwasanaethau graddadwy sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gan gynnwys:
  • Monitro Gosod a monitro TEC ar raddfa fawr
  • Ymateb Trin a ymateb i alwadau brys y tu allan i oriau gwaith
  • Cefnogaeth Cymorth rhyddhau o'r ysbyty
  • Galluogi Galluogi digidol ac ailgynllunio gwasanaethau

Pam dewis ni?

Pa bynnag gymorth rydych chi'n chwilio amdano, byddwn ni'n eich helpu i gymryd y cam nesaf.

Mae teuluoedd a gweithwyr proffesiynol yn ymddiried yn Llesiant Delta

Mae teuluoedd a gweithwyr proffesiynol yn ymddiried yn Llesiant Delta

Wedi'i ddarparu gyda gofal, yn Gymraeg ac yn Saesneg

Wedi'i adeiladu o amgylch pobl, nid systemau

Ein hofferyn pecyn cymorth

Dewch o hyd i'r pecyn cymorth cywir i chi

Gallwn ni helpu i ddod o hyd i'r pecyn cywir i chi; dewiswch rhwng Delta yn y Cartref ar gyfer monitro dibynadwy 24/7 yn y cartref, neu Delta Unrhyw Le i'ch diogelu lle bynnag yr ydych chi. Gallwn hefyd weld a fyddech chi'n elwa o ychwanegu Delta Sgwrsio a / neu Delta ar ei Ffordd i gael tawelwch meddwl ychwanegol.

29
13
12
32
Couplewalking
6
Help2women
27
5
Ein hofferyn pecyn cymorth

Question 1

Pe baech chi'n cael argyfwng gartref, fel codwm neu salwch sydyn, a fyddech chi'n teimlo'n hyderus y gallech chi gael help yn gyflym?

Byddwn
Na fyddwn
Ein hofferyn pecyn cymorth

Question 2

Hoffech chi gael galwadau llesiant rheolaidd i wirio sut ydych chi, rhoi unrhyw gyngor a chefnogaeth, neu eich cysylltu â gweithgareddau lleol?

Hoffwn
Na hoffwn
Ein hofferyn pecyn cymorth

Question 3

Ydych chi'n byw ar eich pen eich hun, neu weithiau'n teimlo'n ynysig heb neb gerllaw i weld sut ydych chi?

Ydw
Nac ydw
Ein hofferyn pecyn cymorth

Question 4

Ydych chi'n treulio amser y tu allan i'r cartref a byddech chi'n elwa o gael diogelwch wrth fynd o gwmpas y lle?

Ydw
Nac ydw
Ein hofferyn pecyn cymorth

Question 5

Ydych chi'n poeni am gwympo neu oes gennych chi gyflwr iechyd sy'n eich rhoi chi mewn perygl?

Ydw
Nac ydw
Ein hofferyn pecyn cymorth

Eich Canlyniadau

Choose package

Mae cael eich llinell gymorth mor hawdd ag 1-2-3!

Rydyn ni wedi ei gwneud hi'n syml i gael y gefnogaeth a'r sicrwydd sydd eu hangen arnoch chi neu'ch anwylyd, yn gyflym a heb unrhyw drafferth. Dyma sut mae'n gweithio:
  • 1

    Dewiswch Eich Cynllun

    Dewiswch y pecyn sy'n addas i'ch ffordd o fyw — boed angen system rhybuddio syml neu gefnogaeth barhaus arnoch. Ddim yn siŵr? Rydyn ni yma i helpu
  • 2

    Eich Cyfarpar

    Byddwn yn anfon eich dyfais ddisylw, hawdd ei defnyddio yn syth at eich drws o fewn 3–5 diwrnod gwaith — yn barod i'w defnyddio'n syth allan o'r bocs
  • 3

    Mwynhewch dawelwch meddwl

    Unwaith i chi gael eich sefydlu, bydd gennych fynediad 24/7 i'n tîm arbenigol cyfeillgar, yn barod i helpu gyda chyffyrddiad botwm - unrhyw bryd, dydd neu nos

Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud

Straeon go iawn gan bobl a sefydliadau rydyn ni wedi’u cefnogi — yn rhannu sut mae Llesiant Delta yn eu helpu i fyw gyda hyder, annibyniaeth a thawelwch meddwl.