14 Awst 2026

Beth yw Delta i Chi? Gwyliwch ein fideo newydd i gael gwybod mwy

Logo Delta i Chi

Gall dewis y gefnogaeth gywir deimlo'n dipyn o dasg, yn enwedig pan fo anghenion pawb yn wahanol. Dyna pam rydyn ni wedi creu fideo byr sy'n esbonio Delta i Chi a sut y gall helpu pobl i gadw'n ddiogel, yn annibynnol ac mewn cysylltiad, gartref ac ar hyd y lle.

Mae Delta i Chi yn caniatáu i gwsmeriaid ddewis y lefel o gefnogaeth sy'n iawn iddyn nhw, o larymau personol a monitro 24/7 i alwadau ffôn ynglŷn â llesiant a gwasanaethau ymateb brys personol.

P'un a ydych chi'n chwilio am sicrwydd i chi'ch hun, cefnogaeth i rywun annwyl, neu'n syml eisiau dysgu mwy am yr opsiynau sydd ar gael, mae ein fideo newydd yn darparu cyflwyniad syml i'r gwasanaeth a sut mae'n gweithio.