23 Mehefin 2026

Caredig yn cydweithio â Llesiant Delta i lansio gwasanaeth ymateb i godymau ar gyfer preswylwyr

 Swyddog ymateb yn codi cwsmer benywaidd gyda chadair

Mae Cymdeithas Dai Caredig yn gweithio gyda Llesiant Delta i ddarparu gwasanaeth ymateb i godymau ar gyfer ei phreswylwyr yng Nghartref Cynnes, Caerfyrddin a Thŷ Dyffryn, Rhydaman.

Mae'r gwasanaeth ymateb i godymau ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, gan ddarparu cymorth arbenigol, amserol ac ymarferol pan fydd ei angen fwyaf.

Mae preswylwyr yn parhau i gael mynediad at gymorth yn y ffordd arferol, sef drwy ddefnyddio eu larwm gwddf, eu cord tynnu neu eu pwynt galw, sy'n cysylltu'n uniongyrchol â chanolfan fonitro 24/7 Llesiant Delta.

Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio'n benodol ar ymateb i godymau sydd heb achosi anaf. Bydd un o swyddogion ymateb hyfforddedig Llesiant Delta yn mynd i'r cartref i roi cymorth, gan helpu preswylwyr i godi o'r llawr yn ddiogel ac yn gyfforddus, gan olygu’n aml nad oes angen galw am ambiwlans.

Mae tîm ymateb Llesiant Delta wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac mae'n gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth ambiwlans. Mae'r swyddogion wedi cael llawer o hyfforddiant gan gynnwys cymorth cyntaf uwch, codi a chario, protocol codymau iStumble ar gyfer asesu ar ôl codwm, ac arsylwadau clinigol.

Gan ddefnyddio offer arbenigol fel cadeiriau Raizer a chlustogau codi Mangar Camel, mae'r tîm yn gallu helpu unigolion yn ddiogel, gan sicrhau eu cysur a'u hurddas.

Dywedodd Steve Thornton, Rheolwr y Cynllun: “Rydyn ni'n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Llesiant Delta i gyflwyno'r gwasanaeth gwerthfawr hwn i breswylwyr Cartref Cynnes a Thŷ Dyffryn.
“Gall codymau achosi gofid ac effeithio ar hyder ac annibyniaeth pobl. Mae amseroedd aros am ambiwlans yn aml yn hirach nag y bydden ni'n hoffi iddyn nhw fod, ac mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig sicrwydd bod help ar gael yn gyflym, gan sicrhau bod preswylwyr yn cael cymorth amserol ac yn cael eu trin ag urddas a pharch.

“Mae hyn hefyd yn ategu ein dull presennol, pan fydd staff yn canolbwyntio ar gynnal diogelwch ar unwaith, yn ogystal â sicrhau bod cymorth arbenigol priodol yn cael ei drefnu pan fo angen.”

Dywedodd Carla Dix, Pennaeth Datblygu Busnes a Phartneriaethau Llesiant Delta: "Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio gyda Caredig i ddarparu'r gwasanaeth pwysig hwn i breswylwyr. Gall codymau gael effaith sylweddol ar hyder ac annibyniaeth pobl, ac un o'r risgiau mwyaf yw pan nad yw rhywun yn gallu codi ar ôl cael codwm ac yn aros ar y llawr am gyfnod hir, sy'n gallu arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol, dadhydradu a mwy o bryder.

“Mae cael gwasanaeth dibynadwy ac ymatebol ar waith yn golygu bod pobl yn gallu cael help yn gyflym, gan leihau'r risgiau hyn a rhoi tawelwch meddwl i breswylwyr a'u teuluoedd. 

“Mae'r bartneriaeth hon yn sicrhau bod preswylwyr yn cael cymorth proffesiynol ac amserol mewn ffordd sy'n hyrwyddo urddas, yn ogystal â helpu i leihau'r pwysau ar y gwasanaethau brys.”

Mae Llesiant Delta yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae'n darparu technoleg gynorthwyol a gwasanaethau monitro ac ymateb rhagweithiol 24/7 i helpu unigolion i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel gartref.

Mae Caredig yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig di-elw sy'n darparu tai fforddiadwy o safon uchel a gwasanaethau cymorth i ddiwallu anghenion tai teuluoedd, pobl hŷn ac unigolion agored i niwed ar draws Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion a Sir Benfro.