Bydd diffibriliwr sy'n achub bywyd yn cael ei osod mewn cerbydau ymateb cymunedol Llesiant Delta cyn hir diolch i gefnogaeth Achub Bywyd Cymru.
Bydd y rhodd o chwe diffibriliwr yn sicrhau bod tîm ymateb cymunedol 24/7 Llesiant Delta yn cael mynediad at offer hanfodol mewn sefyllfaoedd brys wrth gefnogi pobl mewn cymunedau ledled de Cymru.
Mae'r tîm yn darparu gwasanaeth 24/7 sy'n ymateb i argyfyngau anfeddygol, gan gynnwys cwympo a phryderon lles. Maen nhw'n helpu pobl i aros yn ddiogel gartref, gan osgoi galwadau ambiwlans diangen a derbyniadau i'r ysbyty, a darparu sicrwydd i breswylwyr a'u teuluoedd pan fydd angen cefnogaeth fwyaf.
Er mai prif rôl y tîm o hyd yw ymateb i argyfyngau anfeddygol, mae cael diffibrilwyr ym mhob cerbyd ymateb yn golygu y gallai ymatebwyr wneud gwahaniaeth pwysig os ydyn nhw'n cyrraedd neu'n dod ar draws argyfwng ataliad ar y galon yn y gymuned.
Ar sawl achlysur, mae ymatebwyr wedi cyrraedd cartref cwsmer ar ôl actifadu'r larwm llinell gymorth ac mae angen iddyn nhw ddechrau CPR wrth aros i'r gwasanaethau brys gyrraedd.
Mae Achub Bywyd Cymru yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru a ddarperir gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Drwy annog a sicrhau bod mwy o bobl yn gwybod sut i berfformio CPR a defnyddio diffibriliwr, nod Achub Bywyd Cymru yw cynyddu cyfraddau goroesi ledled Cymru drwy greu cenedl o achubwyr bywydau.
Dywedodd Sarah Poulton, Rheolwr Ymateb Cymunedol Llesiant Delta: "Mae ein tîm ymateb cymunedol yn ein cymunedau 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, yn cefnogi pobl pan fydd angen help arnyn nhw fwyaf. Mae cael diffibriliwr ym mhob cerbyd ymateb yn ychwanegiad teilwng a gallai wneud gwahaniaeth mawr mewn argyfwng.
"Mae pob munud yn bwysig pan fydd rhywun yn dioddef ataliad ar y galon. Er nad yw ein timau yn disodli gwasanaethau meddygol brys, mae cario'r offer hwn yn rhoi ffordd arall i ni gefnogi ein cymunedau ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i helpu pobl i gadw'n ddiogel, yn annibynnol ac yn iach.
"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Achub Bywyd Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am y rhodd hael hon ac am y gwaith hanfodol maen nhw'n ei wneud i helpu mwy o bobl i ennill yr hyder a'r sgiliau i achub bywydau."
Dywedodd yr Athro Len Nokes, Ymgynghorydd Arbennig Annibynnol i Achub Bywyd Cymru: "Mae gweithredu cynnar yn hanfodol pan fydd rhywun yn profi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty. Am bob munud heb CPR a diffibrilio, mae ymchwil yn dangos; bod siawns person o oroesi yn gostwng hyd at 10%. Dyna pam y mae sicrhau bod cael mynediad at ddiffibrilwyr mewn cymunedau lleol ledled Cymru mor bwysig.
"Rydyn ni'n falch o gefnogi Llesiant Delta trwy ofalu bod yr offer achub bywyd hwn yn cael ei osod yn y cerbydau ymateb, gan helpu i sicrhau bod diffibriliwr ar gael pan fo ei angen fwyaf.
"Mae'r fenter hon wedi cael ei chefnogi drwy waith Marc Gower, Cydlynydd Cymunedol Achub Bywyd Cymru, sydd wedi gweithio'n agos gyda thîm Llesiant Delta i helpu i ddatblygu'r prosiect. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wella ymateb cymunedol a helpu i achub mwy o fywydau."
Mae Llesiant Delta yn Gwmni Masnachu Awdurdodau Lleol, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac mae'n cefnogi pobl i fyw'n ddiogel, yn annibynnol ac yn iach yn eu cartrefi eu hunain trwy ystod o wasanaethau gofal trwy gymorth technoleg, monitro, llesiant ac ymateb cymunedol.
Mae Achub Bywyd Cymru yn rhaglen genedlaethol gan GIG Cymru sy'n arloesi dulliau cymunedol gan ddefnyddio data, ymchwil ac arloesi i wneud y gorau o ganlyniadau ar ôl ataliad ar y galon.