Mae Llesiant Delta wedi ennill gwobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, gan gydnabod ei ymrwymiad i gefnogi gofalwyr di-dâl.
Mae'r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn dathlu sefydliadau sy'n dangos ymwybyddiaeth o anghenion gofalwyr ac yn sicrhau bod gofalwyr yn gallu cael mynediad at wybodaeth a chymorth priodol.
Mae achrediad Efydd yn cydnabod sefydliadau sy'n gallu adnabod gofalwyr di-dâl o bob oed a'u helpu i'w cyfeirio at y gwasanaethau a'r canllawiau perthnasol.
Gyda miloedd o bobl ledled Cymru yn darparu gofal di-dâl i aelodau o'r teulu, ffrindiau a chymdogion, mae gofalwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu anwyliaid i aros yn ddiogel, yn annibynnol ac yn iach.
Mae cyflawni'r achrediad yn adlewyrchu ymrwymiad Llesiant Delta i gydnabod y cyfraniad hwn a sicrhau bod gofalwyr yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
Mae'r cynllun yn cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda chefnogaeth gan Gynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ac mae'n darparu fframwaith i sefydliadau ddatblygu eu dealltwriaeth o anghenion gofalwyr yn barhaus.
Dywedodd Rebecca Davies, Pennaeth Gweithrediadau Llesiant Delta: "Mae gofalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad enfawr at lesiant unigolion, teuluoedd a chymunedau bob dydd. Mae ennill y wobr Buddsoddwyr Efydd mewn Gofalwyr yn dangos y gwaith sy'n cael ei wneud ar draws Llesiant Delta i helpu i adnabod gofalwyr a sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth a'r gefnogaeth gywir. Rydyn ni'n falch o dderbyn y gydnabyddiaeth hon ac edrychwn ymlaen at gryfhau ein cefnogaeth eto yn y blynyddoedd nesaf."
Mae'r cyflawniad hwn yn garreg filltir bwysig i Lesiant Delta ac yn adeiladu ar ei waith ehangach i gefnogi pobl i fyw'n annibynnol a gwella llesiant ar draws cymunedau lleol. Yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol, sy'n eiddo llwyr i Gyngor Sir Caerfyrddin, mae Llesiant Delta yn darparu technoleg gynorthwyol, monitro rhagweithiol 24/7 a gwasanaethau ymateb wyneb yn wyneb i helpu pobl hŷn a bregus i fyw'n ddiogel gartref.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd, a Chadeirydd Grŵp Llywodraethu Llesiant Delta: "Rwy'n llongyfarch pawb yn Llesiant Delta ar gyflawni'r achrediad pwysig hwn. Mae'r wobr hon yn cydnabod ymrwymiad Llesiant Delta i gefnogi gofalwyr di-dâl ac yn tynnu sylw at y rôl bwysig y mae gofalwyr yn ei chwarae yn ein cymunedau."