Cynhelir Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref, a thema eleni yw "Clywed Profiadau Bywyd: Lleisiau Go Iawn, Newid Go Iawn." Mae'n ein hatgoffa o bwysigrwydd gwrando ar bobl, deall eu profiadau a sicrhau bod y cymorth cywir ar gael pan fo'i angen.
Yn Delta Llesiant, rydyn ni'n gwybod bod amgylchiadau pawb yn wahanol. Weithiau, gall cael rhywun yno i wrando, i roi sicrwydd neu i gysylltu i weld sut mae pethau wneud gwahaniaeth go iawn.
Cefnogaeth pan fydd ei hangen arnoch
Mae ein gwasanaeth Delta i Chi yn cynnig gofal hyblyg wedi'i alluogi gan dechnoleg, gan helpu pobl i aros yn ddiogel, yn annibynnol ac yn gysylltiedig yn eu cartrefi eu hunain. Yn dibynnu ar anghenion unigol, gall y gefnogaeth gynnwys monitro 24/7, larymau personol, technoleg GPS a gwasanaethau ymateb.
I'r rhai a fyddai'n elwa o gyswllt rheolaidd, mae Delta Sgwrsio yn cynnig galwadau llesiant cyfeillgar a galwadau rhagweithiol i weld sut mae pethau. Mae'r sgyrsiau rheolaidd hyn yn gyfle i siarad, i rannu sut rydych chi'n teimlo ac i gael sicrwydd bod rhywun yno.
Am dawelwch meddwl ychwanegol, mae Delta ar ei Ffordd yn darparu gwasanaeth ymateb wyneb yn wyneb 24/7 pan fydd angen cymorth yn y cartref.
Boed yn sgwrs reolaidd, yn sicrwydd mewn argyfwng neu'n gefnogaeth i aros yn annibynnol, mae ein gwasanaethau wedi'u cynllunio o amgylch yr unigolyn.
Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni, rydyn ni'n tynnu sylw at bwysigrwydd gwrando ar brofiadau go iawn a sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u cefnogi, ac yn teimlo'n gysylltiedig.
Mae newid go iawn yn dechrau gyda gwrando, deall a sicrhau bod cymorth ar gael yn hawdd pan fydd ei angen fwyaf ar bobl. Boed yn alwad llesiant reolaidd, yn gymorth brys yn y cartref neu'n sicrwydd o wybod bod rhywun yno, gall cysylltiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.
Dysgwch fwy am sut gall Delta i Chi eich cefnogi chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano. Cysylltwch â'n tîm cyfeillgar heddiw!