Mae Llesiant Delta wedi ennill contract gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Hywel Dda i gefnogi cleifion mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Prifysgol Cymru (Heath) ac Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.
Bydd y gwasanaeth yn darparu cymorth anghlinigol i gleifion mewn adrannau achosion brys, ochr yn ochr â chludiant diogel adeg eu rhyddhau o'r ysbyty a gwirio llesiant tymor byr pan fydd unigolion yn dychwelyd adref.
Y nod yw gwella profiad cleifion, helpu i ryddhau cleifion yn amserol, a helpu pobl i setlo'n ddiogel gartref gan leihau ar yr un pryd y pwysau ar yr adran damweiniau ac achosion brys.
Mae'r contract newydd yn adeiladu ar berthynas sefydledig Llesiant Delta â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae'n garreg filltir arwyddocaol i'r sefydliad, gan ymestyn i ardal Caerdydd a'r Fro am y tro cyntaf.
Trwy'r gwasanaeth, bydd staff Llesiant Delta yn cynnig sicrwydd a chefnogaeth ymarferol i gleifion sy'n aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, yn cynorthwyo gyda chludiant diogel adref i'r rhai sy'n ffit yn feddygol i'w rhyddhau, ac yn darparu cymorth llesiant dilynol i helpu i nodi unrhyw anghenion sy'n dod i'r amlwg a sicrhau bod pobl yn gwybod am gymorth yn y gymuned.
Mae'r sefydliad yn arbenigo mewn gofal trwy gymorth technoleg (TEC) a bydd yn gallu rhoi cyngor i unigolion a darparu ystod o atebion technoleg gynorthwyol syml ac effeithiol i helpu i gadw pobl yn ddiogel gartref, o linellau gymorth a larymau personol i synwyryddion cwympo a synwyryddion symud.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Llesiant Delta, Samantha Watkins:
"Rydyn ni'n falch iawn o gael lansio'r gwasanaeth hwn ar draws Caerdydd a'r Fro a Hywel Dda. Mae'r contract hwn yn adlewyrchu'r ffydd sydd gan ein partneriaid yn ein dull gweithredu a phrofiad ein timau wrth ddarparu cymorth tosturiol sy'n canolbwyntio ar y person.
"Trwy gynnig cymorth ymarferol, anghlinigol a helpu pobl i ddychwelyd adref yn ddiogel, gallwn wella profiad cleifion ynghyd â chefnogi llif cleifion a lleihau pwysau y gellir eu hosgoi ar wasanaethau ysbyty. Mae'n gadarnhaol iawn adeiladu ar ein partneriaeth gref gyda Hywel Dda, lle rydyn ni'n darparu gwasanaeth gartref o'r ysbyty i gleifion mewnol mewn wardiau ar draws ysbytai Glangwili,y Tywysog Phillip a Dyffryn Aman, yn ogystal â phecynnau cludo cleifion 24/7, a theleiechyd; ynghyd ag ehangu ein gwasanaethau i ardal Caerdydd a'r Fro."
Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
"Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Llesiant Delta dros nifer o flynyddoedd bellach ac mae ein partneriaeth yn mynd o nerth i nerth.
"Mae'r gwasanaeth maen nhw'n ei gynnig wrth alluogi cefnogi a gofalu am gleifion yn ein safleoedd clinigol a'u dychwelyd i'w cartrefi a'u cymunedau yn amhrisiadwy. Mae Llesiant Delta yn helpu i leihau'r pwysau ar ein Hadrannau Achosion Brys ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol fel y gallwn ddarparu'r gofal gorau i'n cleifion gyda'n gilydd."
Bydd y gwasanaeth yn gweithredu trwy gydol yr wythnos, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc, ac mae'n rhan o ddull ataliol ac ymyrraeth gynnar ehangach Llesiant Delta, gan gefnogi pobl cyn i sefyllfaoedd waethygu a helpu systemau iechyd a gofal i weithio'n fwy effeithlon.
Mae Llesiant Delta yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, sy'n darparu technoleg gynorthwyol, monitro rhagweithiol a gwasanaethau ymateb 24/7 er mwyn cefnogi unigolion ar draws Cymru i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel gartref.