Mae Llesiant Delta wedi derbyn y gydnabyddiaeth uchaf bosibl gan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) am y gefnogaeth y mae'n ei darparu i helpu pobl i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Cafodd y gwasanaeth ymateb cymunedol ei ddisgrifio fel Rhagorol ym mhob maes yn ei arolygiad diweddaraf.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae'r gwasanaeth yn ei chael ar fywydau pobl a nodwyd bod pobl yn cael eu trin ag urddas, parch a charedigrwydd gan dîm ymroddedig a medrus.
Canmolodd yr arolygwyr staff am fod yn arloesol a gweithio ar y cyd i helpu unigolion i gyflawni eu nodau personol, cynnal eu hannibyniaeth, a pharhau i fyw'n ddiogel gartref.
Roedd adborth a gasglwyd yn ystod yr arolygiad gan gwsmeriaid, teuluoedd a sefydliadau partner yn adlewyrchu'r gwahaniaeth y mae'r gwasanaeth yn ei wneud bob dydd. Disgrifiwyd staff fel gofalgar, parchus a phroffesiynol gydag un person yn disgrifio'r gwasanaeth fel "gwych" ac un arall yn dweud: “Fyddwn i ddim yn gallu bod adref hebddyn nhw.”
Cyfeiriodd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol at Lesiant Delta fel gwasanaeth "sy'n canolbwyntio'n llwyr ar yr unigolyn" ac sy'n darparu "gwasanaeth o ansawdd rhagorol sy'n diwallu anghenion pobl.”
Canfu'r adroddiad nad oedd unrhyw feysydd i'w gwella ac ni chyhoeddwyd unrhyw hysbysiadau camau blaenoriaeth, gan danlinellu'r safonau uchel parhaus sy'n cael eu cyflawni gan y gwasanaeth.
Dywedodd Sarah Poulton, y Rheolwr Cofrestredig: "Rydyn ni mor falch o fod wedi cyrraedd safon Ragorol ym mhob un o'r meysydd a arolygwyd. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn perthyn i'n tîm ymroddedig, sy'n gweithio'n ddiflino bob dydd i gefnogi pobl i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.
“Mae'r arolygiad yn tynnu sylw at yr hyn sy'n bwysicaf i ni; darparu gofal o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n gwella llesiant pobl ac yn eu helpu i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl. Mae'n fraint i ni gefnogi ein cwsmeriaid a hoffem ddiolch iddyn nhw, eu teuluoedd a'n partneriaid am eu hymddiriedaeth a'u hadborth trwy gydol y broses arolygu.”
Mae Llesiant Delta yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, sy'n darparu gofal trwy gymorth technoleg, monitro rhagweithiol a gwasanaethau cymorth ymatebol sy'n helpu pobl hŷn a phobl sy'n agored i niwed i fyw'n annibynnol gartref. Mae'r sefydliad yn gweithio'n agos gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod unigolion yn derbyn cymorth amserol pan fydd ei angen arnynt fwyaf.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd, a Chadeirydd Grŵp Llywodraethu Llesiant Delta: “Mae cyflawni sgoriau Rhagorol ym mhob maes yn gyflawniad aruthrol ac yn adlewyrchiad o'r gwasanaeth rhagorol a ddarperir gan Lesiant Delta.
"Mae'r adroddiad yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae'r tîm yn ei chael ar fywydau'r bobl maen nhw'n eu cefnogi bob dydd. Trwy ymrwymiad i ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, arloesi a gweithio mewn partneriaeth, mae Llesiant Delta yn parhau i helpu pobl i aros yn annibynnol, gwella eu llesiant a derbyn y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn. Rwy'n llongyfarch pawb sy'n ymwneud â chyflawni'r gydnabyddiaeth aruthrol hon.”
Mae'r arolygiad diweddaraf hwn yn atgyfnerthu ymrwymiad Llesiant Delta i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n rhoi pobl wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud, gan helpu cwsmeriaid i fyw'n dda, cadw mewn cysylltiad â'u cymunedau a chynnal eu hannibyniaeth cyhyd â phosibl.