15 Gorffennaf 2026

Mwynhewch wyliau'r haf gan wybod bod eich anwylyd yn ddiogel ac yn cael cefnogaeth

Dyn a menyw yn cerdded ar hyd y traeth

I lawer o deuluoedd, mae'r haf yn amser i fwynhau gwyliau haeddiannol, diwrnodau mas gyda'r plant, a chreu atgofion gyda'i gilydd. Ond os ydych chi hefyd yn gofalu am riant, perthynas, ffrind neu gymydog hŷn, gall y gwyliau ysgol a'r tymor gwyliau ddod â phryder ychwanegol: pwy fydd yno os oes angen cymorth arnyn nhw pan fyddwch chi i ffwrdd neu'n brysur gyda chyfrifoldebau eraill?

P'un a ydych chi'n teithio dramor, yn cael gwyliau bach yn y DU, yn ymdopi â gofal plant a gwaith yn ystod y gwyliau ysgol chwe wythnos, neu'n syml yn treulio mwy o amser oddi cartref, mae'n naturiol meddwl am sut mae eich anwylyd yn ymdopi. 

Dyna lle gallwn ni helpu.

Cymorth sy'n rhoi tawelwch meddwl i bawb

Mae Delta i Chi wedi'i gynllunio i helpu pobl i gadw'n ddiogel, yn annibynnol ac mewn cysylltiad, gan ddarparu sicrwydd i aelodau o'r teulu a gofalwyr.

Gydag ystod o opsiynau cymorth hyblyg, gallwch ddewis y lefel o gymorth sydd orau i anghenion eich anwylyd. 

Delta yn y Cartref: cymorth trwy wasgu botwm 

Os yw eich anwylyd yn byw'n annibynnol ond gallai gael budd o sicrwydd ychwanegol, mae Delta yn y Cartref yn darparu larwm personol a gwasanaeth monitro 24/7.

Trwy wasgu botwm, gallan nhw gysylltu'n uniongyrchol â'n tîm ymroddedig, a fydd yn asesu'r sefyllfa ac yn trefnu'r cymorth priodol. Mae'r cymorth ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, gan gynnwys ar benwythnosau, gwyliau banc a hyd yn oed ar ddydd Nadolig. 

I deuluoedd sy'n mynd i ffwrdd ar wyliau, mae hynny'n un peth yn llai i'w boeni amdano.

Delta Unrhyw Le: hyder yn y cartref ac wrth fynd o le i le

Mae'r haf yn aml yn golygu treulio mwy o amser yn yr awyr agored, ymweld â ffrindiau, mwynhau'r ardd, neu fynd ar deithiau dydd.

Mae Delta Unrhyw Le yn larwm personol symudol gyda thechnoleg lleoliad GPS ac offeryn canfod codwm awtomatig, sy'n darparu cymorth yn y cartref ac wrth fynd o le i le. Os oes angen help, gall defnyddwyr siarad yn uniongyrchol trwy'r ddyfais â thîm Delta, gan gynnig hyder ac annibyniaeth y chwanegol ble bynnag y byddan nhw. 

Delta Sgwrsio: llais cyfeillgar pan fyddwch chi i ffwrdd

Weithiau, daw sicrwydd o wybod bod rhywun yn gofalu eu bod yn iawn yn rheolaidd. 

Gyda Delta Sgwrsio, gall ein tîm hyfforddedig gynnal galwadau llesiant rheolaidd i weld sut mae rhywun, cael sgwrs gyfeillgar, a nodi unrhyw bryderon neu anghenion cymorth sydd ganddyn nhw. Gall y galwadau hyn fod yn arbennig o werthfawr os yw aelodau'r teulu i ffwrdd ar wyliau, yn gweithio oriau hirach yn ystod yr haf, neu'n ymdopi â chyfrifoldebau gofalu ag ymrwymiadau gofal plant. 

Mae'n ffordd syml o gadw mewn cysylltiad a sicrhau bod rhywun yn cadw llygad ar lesiant eich anwylyd pan fyddwch chi'n brysur mewn mannau eraill.

Delta ar ei Ffordd: cymorth personol pan fydd ei angen fwyaf

Er mwyn rhoi sicrwydd ychwanegol, mae Delta ar ei Ffordd yn darparu mynediad at gymorth personol ddydd a nos yn dilyn cwymp neu argyfwng arall.

Yn hytrach na dibynnu ar deulu, ffrindiau neu gymdogion yn unig, gall ymatebwyr hyfforddedig fynd i'r cartref a rhoi cymorth ymarferol pan fydd ei angen fwyaf. Gall hyn yn arbennig roi tawelwch meddwl os ydych chi i ffwrdd o gartref ac yn methu cyrraedd yno yn gyflym eich hun. 

Gwnewch y gorau o'r haf

Dydy gofalu am anwylyd ddim yn stopio pan fydd tymor yr ysgol yn dod i ben neu pan fydd y tymor gwyliau yn cyrraedd. Fodd bynnag, gall cymorth gan Llesiant Delta helpu i leddfu'r pwysau, gan eich galluogi i fwynhau amser gyda'r teulu, cymryd seibiant haeddiannol, neu reoli cyfrifoldebau sy'n gwrthdaro yn fwy hyderus.

P'un a ydych chi'n cynllunio gwyliau yn ystod yr haf, yn treulio amser gyda'r plant yn ystod y gwyliau ysgol, neu'n syml am gael sicrwydd bod rhywun yno pe bai angen help ar eich anwylyd, mae Delta i Chi yn cynnig cymorth sy'n cyd-fynd â'ch bywyd.