14 Medi 2026

Sgamiau sy’n targedu defnyddwyr teleofal: sut i aros yn ddiogel a diogelu eich gwybodaeth

Person yn defnyddio ffôn symudol dan do, gyda phlanhigyn tŷ a ffenestri yn y cefndir.

Mae sgamiau yn dod yn fwyfwy cyffredin, ac yn anffodus gall pobl sy'n defnyddio gwasanaethau teleofal a larymau cymunedol gael eu targedu weithiau.

Yn ddiweddar, mae Llesiant Delta wedi dod yn ymwybodol o nifer o sgamiau lle mae cwsmeriaid wedi cael eu cysylltu dros y ffôn, drwy lythyr, neu drwy ddulliau cyfathrebu eraill, a gofynnwyd iddynt ddarparu gwybodaeth bersonol neu ariannol.

Er y gall y sgamiau hyn ymddangos yn argyhoeddiadol, mae camau syml y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich hun a'ch anwyliaid.

Y sgamiau rydym wedi'u gweld

Rydym wedi derbyn adroddiadau am bobl yn cael eu cysylltu gan alwyr sy'n honni eu bod yn gysylltiedig â gwasanaethau teleofal neu larymau cymunedol.

Mae rhai wedi cael gwybod:

  • Bod angen uwchraddio eu hoffer larwm.
  • Bod angen talu ffi er mwyn parhau i dderbyn y gwasanaeth.
  • Bod angen diweddaru eu manylion talu.
  • Bod rhaid iddynt roi manylion banc dros y ffôn.

Rydym hefyd wedi gweld llythyrau sy'n ymddangos yn ddilys ac sy'n gofyn i gwsmeriaid ddiweddaru gwybodaeth talu.

Gall y cyfathrebiadau hyn edrych yn swyddogol, ond mae'n bwysig gwirio eu bod yn ddilys cyn cymryd unrhyw gamau.

Arwyddion rhybudd i gadw golwg amdanynt 

Byddwch yn ofalus os bydd rhywun:

  • Yn eich pwyso i weithredu'n gyflym.
  • Yn gofyn am fanylion banc neu wybodaeth am daliadau.
  • Yn gofyn am wybodaeth bersonol yn annisgwyl.
  • Yn honni y bydd eich gwasanaeth yn dod i ben os na fyddwch yn gweithredu ar unwaith.
  • Yn cysylltu â chi'n annisgwyl gydag offeryn newydd neu gynnig uwchraddio.

Os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, ymddiriedwch yn eich greddf.

Sut i ddiogelu eich hun

Cofiwch y tri cham syml hyn:

Stopiwch

Peidiwch â theimlo dan bwysau i wneud penderfyniad ar unwaith.

Gwiriwch

Gwiriwch pwy rydych yn siarad ag ef. Os ydych yn ansicr, rhowch y ffôn i lawr a chysylltwch â'r sefydliad yn uniongyrchol gan ddefnyddio rhif ffôn swyddogol.

Diogelwch 

Peidiwch byth â rhannu gwybodaeth bersonol, bancio neu ariannol oni bai eich bod yn hollol sicr bod y cais yn ddilys.

Yr hyn na fydd Llesiant Delta byth yn ei wneud

Rydym am i'n cwsmeriaid deimlo'n hyderus ac yn ddiogel.

Ni fydd Llesiant Delta byth yn:

  • Gofyn am eich manylion banc yn ystod galwad annisgwyl.
  • Eich pwyso i wneud taliad ar unwaith.
  • Gofyn am gyfrineiriau neu rifau PIN.
  • Eich annog i beidio â gwirio pwy ydym ni.
  • Os ydych yn ansicr a yw galwad, llythyr, neges destun neu e-bost yn ddilys, cysylltwch â ni'n uniongyrchol.

Os ydych yn ansicr a yw galwad, llythyr, neges destun neu e-bost yn ddilys, cysylltwch â ni'n uniongyrchol.

Cymorth ychwanegol y Sir Gaerfyrddin

Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin, mae cymorth ar gael i helpu i leihau galwadau niwsans a sgamiau.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig dyfeisiau TrueCall am ddim i drigolion cymwys. Gall y dyfeisiau hyn helpu i sgrinio galwadau digroeso a darparu amddiffyniad ychwanegol rhag twyllwyr posibl.

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn derbyn galwadau niwsans yn rheolaidd, gall y gwasanaeth hwn ddarparu sicrwydd ychwanegol a thawelwch meddwl.

Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi gael eich cysylltu?

Os ydych yn credu eich bod wedi derbyn galwad, llythyr, e-bost neu neges destun sgâm:

  • Peidiwch â darparu unrhyw wybodaeth bersonol neu ariannol.
  • Gorffennwch y sgwrs neu peidiwch ag ymateb ymhellach.
  • Cysylltwch â'r sefydliad yn uniongyrchol gan ddefnyddio manylion cyswllt dibynadwy.
  • Siaradwch ag aelod o'r teulu, ffrind neu ofalwr os ydych yn ansicr.
  • Rhowch wybod am y digwyddiad i Safonau Masnach.
  • Cysylltwch â'ch banc ar unwaith os ydych wedi rhannu manylion ariannol.

Gadech i ni helpu i ddiogelu ein gilydd

Mae twyllwyr yn aml yn targedu pobl a allai fod yn agored i niwed neu'n byw ar eu pennau eu hunain. Gall rhannu cyngor a siarad yn agored am sgamiau helpu i ddiogelu aelodau o'r teulu, cymdogion a ffrindiau.

Gall sgwrs gyflym heddiw atal rhywun rhag dod yn ddioddefwr yfory.

Cofiwch

Os ydych byth yn ansicr, stopiwch, gwiriwch a dilyswch.

Os byddwch yn derbyn galwad, llythyr, e-bost neu neges destun amheus sy'n honni ei bod gan Llesiant Delta neu sy'n ymwneud â'ch gwasanaeth larwm cymunedol, cysylltwch â ni'n uniongyrchol cyn cymryd unrhyw gamau.

Gyda'n gilydd, gallwn helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel.