Mae Colin, 76 oed, yn byw ar ei ben ei hun. Collodd ei wraig yn ddiweddar ac er bod ei deulu yn byw yn lleol, tua 10-15 munud i ffwrdd, mae pob un ohonyn nhw yn byw bywyd prysur rhwng gwaith a phlant.
Mae Colin mewn iechyd da ac nid oes ganddo unrhyw gyflyrau meddygol sy'n effeithio ar ei fywyd bob dydd. Mae'n mwynhau crochenwaith yn ei sied a'i ardd, beicio ar hyd llwybr yr arfordir, a threulio amser o gwmpas Harbwr Porth Tywyn – ac mae'n awyddus i barhau i wneud y pethau y mae'n dwlu eu gwneud cyn hired â phosibl.
Roedd un peth, fodd bynnag, wedi dechrau ei drwblu. Cafodd Colin ffôn symudol gan ei deulu, ond nid yw'n ei ddefnyddio, gan nad yw'n gallu cofio mynd ag ef gydag ef. Mae wedi dechrau poeni am beth allai ddigwydd pe bai'n syrthio yn yr ardd, yn cael damwain neu unrhyw fath o argyfwng wrth iddo fynd ar hyd y lle. Heb ffôn, nid oes ganddo unrhyw ffordd o alw am help, rhywbeth sydd wedi bod ar ei feddwl ef a'i deulu.
Yn fwy na dim, roedd Colin eisiau aros yn annibynnol a chadw ei ryddid.
"Mae Dad eisiau parhau i gael y rhyddid i wneud y pethau y mae'n dwlu eu gwneud," meddai Carol ei ferch.
Dod o hyd i'r ateb cywir
Gyda chaniatâd Colin, cofrestrodd Carol ef i Delta Unrhyw Le, larwm personol GPS Llesiant Delta gydag offeryn canfod codwm. Cwblhaodd y gwaith cofrestru ar-lein drwy wefan Llesiant Delta a chael y broses yn un hwylus a syml. Roedd y wybodaeth yn glir ac yn hawdd i'w deall.
Tawelwch meddwl i'r teulu cyfan
Mae'r larwm personol GPS yn golygu, os bydd Colin yn cwympo, yn teimlo'n sâl neu angen help pan fydd allan neu yn ei gartref, bydd rhybudd yn cael ei godi ar unwaith gyda chanolfan fonitro Llesiant Delta a bydd yr ymgynghorwyr yn gallu cael help, drwy gysylltu ag aelodau o'r teulu, galw ambiwlans neu anfon tîm ymateb Llesiant Delta ei hun.
I Colin, mae'n rhoi hyder a rhyddid. I Carol a gweddill y teulu, mae'n dod â thawelwch meddwl. Mae gwybod bod help ar gael drwy gyffwrdd botwm a bod offeryn canfod cwympo yn fodd arall o amddiffyniad, yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Mae Delta Unrhyw Le yn helpu Colin i barhau i fyw bywyd ar ei delerau ei hun, yn ddiogel ac yn hyderus. Mae'n ddarn bach o offer, ond yn un sy'n cynnig annibyniaeth i'r unigolyn a sicrwydd i'r bobl sy'n gofalu amdano fwyaf.