Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw eich gwasanaeth llinell gymorth wrth eich helpu i aros yn ddiogel, yn annibynnol ac yn gysylltiedig â chymorth pan fydd ei angen arnoch.
Mae hen rwydwaith ffôn analog y DU yn cael ei ddisodli gan rwydwaith digidol newydd, a fydd yn gweithio drwy fand eang neu rwydweithiau symudol; gelwir hyn yn y newid i wasanaethau digidol.
Disgwylir i’r hen rwydwaith analog gael ei ddiffodd yn llwyr erbyn mis Ionawr 2027, a bydd hyn yn effeithio ar bawb sydd â llinell dir, gan gynnwys y rhai sy’n defnyddio dyfeisiau teleofal megis llinell gymorth.
Rydym yn gweithio’n agos gyda darparwyr gwasanaethau ffôn a phartneriaid teleofal i helpu i gefnogi ein cwsmeriaid drwy’r newid hwn.
Beth sydd angen i chi ei wneud?
Nid oes angen i’r rhan fwyaf o gwsmeriaid wneud unrhyw beth ar hyn o bryd.
Mae ein tîm yn wrthi’n disodli’r holl offer analog yn y gymuned, ac maent wedi bod yn gwneud hyn ers peth amser.
Bydd eich darparwr gwasanaeth ffôn yn cysylltu â chi pan fydd yn barod i uwchraddio gwasanaethau yn eich ardal.
Os ydych chi defnyddio larwm llinell gymorth sy’n cysylltu â’ch soced ffôn, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’ch darparwr gwasanaeth ffôn. Bydd hyn yn helpu i sicrhau na fydd unrhyw darfu ar eich gwasanaeth ac y bydd eich larwm yn parhau i weithio’n gywir ar ôl yr uwchraddiad.
Os bydd eich darparwr gwasanaeth ffôn yn cysylltu chi:
Os bydd eich darparwr yn cysylltu â chi ynghylch symud i wasanaeth ffôn digidol, cofiwch:
Rhoi gwybod iddynt eich bod yn defnyddio gwasanaeth llinell gymorth
Gofyn iddynt ychwanegu nodyn neu farciwr at eich cyfrif i ddangos eich bod yn defnyddio offer teleofal
Cadarnhau unrhyw apwyntiad a gynigir
Ymateb yn brydlon os gofynnir am wybodaeth ychwanegol
Gofyn am uned batri gefn am ddim Bydd gweithredu'n gynnar yn helpu i sicrhau bod y broses o newid i'r gwasanaeth digidol mor esmwyth â phosibl.
Cyn eich apwyntiad uwchraddio
Os bydd eich darparwr gwasanaeth ffôn yn rhoi dyddiad i chi ar gyfer ymweliad peiriannydd, rhowch wybod i ni fel y gallwn ddiweddaru eich cofnodion a darparu unrhyw gyngor y gallai fod ei angen arnoch.
Ar ddiwrnod y gosodiad
Pan fydd y peiriannydd yn cyrraedd, gwnewch yn siŵr ei fod yn gwybod eich bod yn defnyddio llinell cymorth a’i fod yn cynnal prawf galwad larwm llwyddiannus ar ôl i’r gwaith uwchraddio gael ei gwblhau.
Bydd hyn yn helpu i gadarnhau bod eich gwasanaeth llinell gymorth yn gweithio’n gywir ar y rhwydwaith digidol newydd.
Pwysig: gwybodaeth am fatris wrth gefn
Pan fydd eich gwasanaeth yn cael ei uwchraddio, gall eich darparwr gwasanaeth ffôn ddarparu uned batri wrth gefn am ddim i gwsmeriaid sy’n defnyddio larwm llinell gymorth.
Bydd y batri wrth gefn yn cadw eich llwybrydd yn gweithio am hyd at awr yn ystod toriad pŵer.
Mae darparwyr gwasanaethau ffôn yn dal i argymell bod gennych ffordd arall o gysylltu â’r gwasanaethau brys neu aelodau o’r teulu os bydd angen, megis ffôn symudol.
Sut y gall eich llinell gymorth weithio yn ystod toriad pŵer
Mae gan lawer o ddyfeisiau llinell gymorth fatri wrth gefn, sy’n golygu y byddant yn parhau i weithio am gyfnod o amser yn ystod toriad pŵer. Gall rhai dyfeisiau hefyd newid i rwydwaith symudol os nad yw band eang ar gael ac os oes signal symudol addas.
Os nad ydych yn siŵr pa fath o offer sydd gennych, neu sut y byddai’n gweithio yn ystod toriad pŵer, cysylltwch â ni. Byddwn yn falch o wirio a rhoi cyngor i chi.
Rydym yma i gefnogi chi
Rydym yn deall y gall newidiadau i dechnoleg deimlo’n bryderus weithiau. Mae ein tîm yma i helpu i ateb unrhyw gwestiynau a’ch cefnogi drwy gydol y newid i wasanaethau digidol.
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
📞 0300 333 2222
✉️ info@deltawellbeing.org.uk
🌐 www.llesiantdelta.org.uk
Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau eich bod yn parhau i fod yn ddiogel, yn gysylltiedig ac yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch drwy gydol y newid i wasanaethau digidol.