29 Mai 2026

Ymatebydd cymunedol Llesiant Delta yn rhoi cynnig ar her Machu Picchu mewn sblintiau er cof am ei mab annwyl

Responder Sian Milligan pictured with her mum Sylvia and daughter Rhiannon

Mae Sian Milligan, mam o Gaerfyrddin sy'n dibynnu ar sblintiau coes arbenigol i gerdded, yn paratoi i roi cynnig ar her codi arian anhygoel er cof am ei mab a fu farw yn ddwy a hanner oed. 

Bydd Sian, sy'n 44 oed, yn teithio drwy jyngl Periw i Machu Picchu er ei bod yn byw gydag Anhwylder Niwrolegol Swyddogaethol sy'n effeithio ar ei symudedd. Bydd yn cyflawni'r her ochr yn ochr â'i mam Sylvia Wallace, a fydd yn 71 oed adeg yr her.  

Gyda'i gilydd, byddan nhw'n cwblhau taith 11 diwrnod, pellter marathon, gan ymdopi ag uchderau uchel a thirwedd heriol. 

Ond i Sian, mae hwn yn fwy na her gorfforol yn unig. Mae hi'n codi arian ar gyfer Hosbis Plant Tŷ Hafan er cof am ei mab, Aled, a fu farw ym mis Ebrill 2009 ar ôl wynebu heriau iechyd sylweddol ers ei eni. 

Cafodd Aled ddiagnosis o Syndrom Down a nifer o gyflyrau iechyd difrifol cyn iddo gael ei eni, gan gynnwys tyllau yn ei galon. Roedd ei fywyd yn fyr ond yn rhyfeddol, yn llawn personoliaeth a'i natur benderfynol. 

Roedd mab hynaf Sian, Kyle, sy'n 21 oed, hefyd yn wynebu heriau iechyd sylweddol fel plentyn, gan gynnwys camdro y coluddion, torri asgwrn y forddwyd ac anawsterau wrth fwyta. Mae Sian hefyd yn fam i Rhiannon, 16 oed, a gafodd ei geni tri mis yn unig ar ôl i Aled farw. 

"Brwydrodd Aled yn galed iawn i fwynhau ei fywyd. Roedd yn fachgen direidus, yn llawn cymeriad ac yn awyddus i brofi popeth," meddai Sian. 

"A phan rwy'n meddwl am yr her hon, mae dringo Machu Picchu yn ddim byd o'i gymharu â'r hyn a wynebodd fy meibion i". 

Derbyniodd y teulu gefnogaeth amhrisiadwy gan Hosbis Plant Tŷ Hafan yn ystod bywyd Aled a thu hwnt, ac yn ôl Sian, roedd y gefnogaeth hon yn newid bywyd. 

"Roedd Tŷ Hafan yn wych gydag Aled. Yno, roeddwn i'n gallu bod yn fam iddo fe, nid ei nyrs," meddai. 

"Fe wnaethon nhw gefnogi pob un ohonon ni, gan gynnwys helpu Kyle ac, yn ddiweddarach, Rhiannon i ddeall a phrosesu eu galar. Mae angen i fwy o deuluoedd gael mynediad at y gofal anhygoel maen nhw'n ei gynnig." 

Mae taith Sian hyd yn oed yn fwy rhyfeddol oherwydd ei chyflwr iechyd ei hun. Ar ôl cael diagnosis o Anhwylder Niwrolegol Swyddogaethol, mae hi bellach yn gwisgo sblintiau arbenigol i gerdded yn gyfforddus, ac er gwaethaf hyn, mae'n ymarfer yn galed, gan gerdded hyd at naw milltir sawl gwaith yr wythnos. 

Mae Sian yn dod â'r un tosturi ac ymroddiad i'w rôl fel Ymatebwr Cymunedol gyda Llesiant Delta, lle mae'n helpu pobl i aros yn ddiogel, yn annibynnol ac yn iach yn eu cartrefi eu hunain. 

Dywedodd Sarah Poulton, Rheolwr Ymateb Cymunedol: "Rydyn ni'n hynod falch o Sian a'r her ysbrydoledig y mae hi'n rhoi cynnig arni. Mae hi'n aelod gwerthfawr iawn o'n tîm; mae'n garedig, yn ymroddgar ac yn mynd yr ail filltir bob amser dros y bobl mae hi'n eu cefnogi. 

"Mae cryfder a phenderfyniad Sian, ynghyd â'i hymrwymiad i helpu eraill, yn ei rôl a thrwy'r ymdrech anhygoel hon i godi arian, yn ysbrydoliaeth i bob un ohonon ni ac mae'n yn ased mawr i Llesiant Delta."

Mae Sian yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ac arian fel bod mwy o deuluoedd yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau hanfodol Tŷ Hafan, sydd ar hyn o bryd yn cefnogi dim ond un o bob deg teulu sydd angen cefnogaeth. 

"Dydw i ddim yn gwybod beth a ddaw yn y dyfodol," meddai Sian. "Ond dw i eisiau aros mor gryf ag y galla i a gwneud gwahaniaeth tra galla i."

Gallwch chi gefnogi ymdrechion codi arian Sian ar gyfer Hosbis Plant Tŷ Hafan drwy gyfrannu drwy ei thudalen JustGiving. 

Aled playing in a ball pit