Rydyn ni'n falch iawn o'ch cael chi gyda ni.
Byddwn yn cysylltu cyn bo hir i gael mwy o fanylion gennych i a’r drefnu'r taliad a'r cyflenwi neu osod eich offer llinell gymorth. Rydym am wneud yn siŵ bod popeth yn barod i'w ddefnyddio cyn gynted ag y bydd yn cyrraedd.
Gwybodaeth y bydd ei hangen arnom
I'n helpu i baratoi ar gyfer gosod neu gyflenwi eich offer, gofynnir i chi roi'r wybodaeth ganlynol:
- P'un a ydych chi'n byw ar eich pen eich hun
- Manylion eich meddygfa
- Rhif GIG (os yw'n hysbys)
- Unrhyw gyflyrau meddygol neu anableddau, gan gynnwys problemau symudedd
- Manylion unrhyw feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd
- Manylion bocs allwedd (os yw'n berthnasol)
- P'un a yw eich llinell dir ffôn wedi cael ei newid o analog i ddigidol
- P'un oes gennych gysylltiad rhyngrwyd ether-rwyd neu gysylltiad rhyngrwyd (drwy wifrau) yn eich cartref
- P'un a oes gennych signal ffôn symudol dibynadwy gartref
Byddwn hefyd yn cymryd manylion hyd at ddau gyswllt mewn argyfwng:
- Enw llawn
- Y berthynas â chi
- Rhif(au) ffôn
- Cyfeiriad E-bost
- Cyfeiriad llawn a chôd post
- P'un a oes ganddynt allwedd i'ch eiddo
- Unrhyw wybodaeth berthnasol arall
Bydd cael y manylion hyn yn barod yn ein helpu i gwblhau'r broses mor gyflym a llyfn â phosibl, ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych yr holl wybodaeth hon wrth law, gallwn ni barhau i ddechrau'r broses sefydlu a chasglu unrhyw fanylion coll yn nes ymlaen.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, e-bostiwch contactus@deltawellbeing.org.uk
Cofion gorau,
Tîm Delta i Chi