Cynorthwywyr Cwsmeriaid
Fel cynorthwywyr cwsmeriaid, byddwch ar y rheng flaen o ran darparu gwasanaeth eithriadol i gwsmeriaid. Byddwch yn ymdrin â galwadau gan gwsmeriaid sydd angen cymorth brys y tu allan i oriau arferol, gan bennu tasgau i gontractwyr yn effeithlon, a sicrhau ymatebion amserol i argyfyngau.
Rydym yn chwilio am unigolion empathetig a thosturiol, sydd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd sy'n symud yn gyflym, ac sy'n gallu aros yn ddigynnwrf o dan bwysau. Mae angen hyblygrwydd llawn i weithio sifftiau yn ystod y dydd a'r nos, gan gynnwys ar benwythnosau ac ar wyliau banc. Dylai ymgeiswyr hefyd fod â dealltwriaeth dda o gyfrifiaduron a gwybodaeth am Microsoft Office.
“Mae'r swydd y tu allan i oriau yn un brysur ac mae pob diwrnod yn wahanol. Mae gen i ymdeimlad o gyfrifoldeb dros bob person sy'n galw heibio ag ymholiad a dod o hyd i ateb boddhaol i'r person hwnnw. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o dîm Llesiant Delta.”
Ryan, Cynorthwyydd Cwsmeriaid