Cynghorydd
Fel aelod allweddol o'n tîm, byddwch yn chwarae rhan hanfodol o ran darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, a hynny mewn amgylchedd sy'n symud yn gyflym.
Chi fydd y man cyswllt cyntaf ar gyfer oedolion hŷn, gweithwyr sy'n gweithio ar eu pennau eu hunain, a'r rhai mewn sefyllfaoedd argyfyngus. Byddwch yn rhoi sylw craff i fanylion ac yn gallu peidio â chynhyrfu pan fyddwch dan bwysau. Byddwch yn brysbennu galwadau ffôn, gan weithredu'n ddiymdroi, er enghraifft wrth anfon ymatebwyr brys, yn ogystal â chydlynu gwasanaethau hanfodol fel atgyweiriadau tai brys a chymorth gofal cymdeithasol y tu allan i oriau.
Mae'n rhaid ichi fod yn hyblyg i ddiwallu anghenion sifftiau gwasanaeth 24/7, yn ystod y dydd a'r nos, ar benwythnosau a gwyliau banc, gan gynnwys dros gyfnod y Nadolig. Dylai ymgeiswyr hefyd fod â dealltwriaeth dda o gyfrifiaduron a gwybodaeth am Microsoft Office.
Os oes gennych brofiad o drin galwadau, neu gefndir mewn gwasanaeth cwsmeriaid neu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a'ch bod yn angerddol dros ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid mewn amgylchedd lle mae cryn bwysau, rydym am glywed gennych.
“Mae rôl yr Ymgynghorydd yn newid yn barhaus ac yn gyflym, gyda phob tasg yn cael ei ymdrin yn wahanol i'r ddiwethaf. Mae'r rôl yn cynnig y cyfle i ddefnyddio natur ddeinameg a sgiliau rhyngbersonol, tra'n rhoi teimlad gwirioneddol o foddhad i chi eich bod chi'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau unigolion agored i niwed. Mae'r tîm yn unigolion o'r un meddylfryd, sy'n canolbwyntio ar gael effaith gadarnhaol ar rai o bobl fwyaf agored i niwed Cymru. Mae darparu'r llinell gymorth hon i'n defnyddwyr gwasanaeth yn rhoi boddhad mawr."
Beckie, Uwch-ymgynghorydd