Gan weithio gydag awdurdodau lleol, darparwyr tai, byrddau iechyd a chwmnïau preifat, rydyn ni'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf a staff hyfforddedig iawn i ddarparu atebion gofal wedi'u haddasu sy'n galluogi cymunedau, yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol, ac yn lleihau'r galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae ein hymagwedd ranbarthol at ymyrraeth gynnar ac atal eisoes yn cael effaith fesuradwy: sicrhau amseroedd ymateb cyflymach, cefnogi rhyddhau amserol, lleihau derbyniadau a gofal preswyl. Rydyn ni'n ehangu'r model rhanbarthol hwn ledled Cymru, gan weithio'n agos gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i integreiddio â llwybrau gofal a systemau data, a'i gwneud hi'n haws i gynghorau, cymdeithasau tai, a phartneriaid eraill gydweithio drwy opsiynau gwasanaeth hyblyg.

Rydyn ni'n creu model cysylltiedig, integredig ar gyfer gofal trwy gymorth technoleg – un sy'n rhoi pobl yn gyntaf, yn lleihau pwysau ar systemau, ac yn cefnogi bywydau iachach, mwy annibynnol. Bydd y model cenedlaethol hwn yn cael ei gydlynu'n genedlaethol, ei integreiddio'n rhanbarthol a'i ddarparu'n lleol, gan gynnig gofal modern, rhagweithiol ac ataliol sy'n gallu ehangu. 

Mae'n seiliedig ar werthoedd cyhoeddus, yn cael ei alluogi gan seilwaith dibynadwy, ac yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â chymunedau lleol, gan gynnig ymagwedd unedig at ofal trwy gymorth technoleg i Gymru.

Darparu gwasanaethau cymorth ymatebol a dibynadwy

Rydyn ni'n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau proffesiynol sy'n helpu sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat i ddarparu gofal hanfodol, diogelwch a pharhad gweithredol i'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. P'un a ydych chi'n awdurdod lleol, yn gymdeithas dai neu'n fwrdd iechyd, mae ein hatebion wedi'u haddasu yn eich helpu i gyflawni eich cyfrifoldebau yn hyderus ac yn dosturiol.

alt

Ein gwasanaethau craidd

Mae pob un o'r gwasanaethau hyn yn cael ei ddarparu ag ymrwymiad i ansawdd, empathi ac arloesi.

Monitro a gosod TEC

Atebion gofal trwy gymorth technoleg sy'n hyrwyddo byw'n annibynnol, a gefnogir gan waith gosod arbenigol a monitro 24/7.

Ateb galwadau mewn argyfwng y tu allan i'r oriau arferol

Ar gyfer atgyweiriadau tai mewn argyfwng, mathau eraill o argyfyngau a cheisiadau gwasanaeth brys, gan sicrhau bod materion critigol yn cael eu datrys yn brydlon ac yn effeithlon.

Gwasanaeth mewn argyfwng i weithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain

Diogelu staff drwy gymorth cadarn i weithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain a phrotocolau ymateb i argyfwng, yn enwedig yn ystod cyfnodau y tu allan i'r oriau arferol.

Gwybodaeth, cyngor a chymorth

Cynnig arweiniad a chymorth clir, tosturiol yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol i unigolion a'u teuluoedd neu ofalwyr.

Cymorth adfer mewn argyfwng

Helpu sefydliadau i barhau ac adfer yn gyflym yn dilyn argyfyngau annisgwyl neu darfu.

Asesiadau a galwadau llesiant

Rydyn ni'n cynnal asesiadau trylwyr i ddeall anghenion cwsmeriaid, blaenoriaethau a gofynion cymorth parhaus ac mae ein galwadau lles rhagweithiol yn helpu i gefnogi iechyd a llesiant unigolion agored i niwed yn y gymuned.

Gwasanaeth gartref o'r ysbyty

Rydyn ni'n pontio'r bwlch rhwng yr ysbyty a'r cartref, gan ddarparu ymateb cyflym a gofal tymor byr i gefnogi gwella a lleihau cyfnodau yn yr ysbyty. Mae ein swyddogion llesiant cymunedol yn helpu unigolion i drosglwyddo'n ddiogel i'w hamgylchedd cartref ac aros yn annibynnol.

Ymateb i argyfwng

Cymorth brys anfeddygol cyflym, cydgysylltiedig, sydd ar gael 24/7. Mae ein timau symudol yn cynnig cymorth hanfodol ar gyfer digwyddiadau fel codymau sydd heb achosi anaf, gan roi tawelwch meddwl i unigolion a'u teuluoedd bod help bob amser wrth law heb ddibynnu ar wasanaethau brys. Fel rhan o'n darpariaeth a reoleiddir, rydyn ni hefyd yn darparu gofal tymor byr mewn argyfwng i helpu yn ystod bylchau gofal brys, fel methiant gofalwyr neu oedi o ran pecynnau gofal ffurfiol.

Teleiechyd

Cymorth iechyd o bell sy'n gwella mynediad at ofal, yn gwella canlyniadau drwy helpu i reoli cyflyrau iechyd tymor hir ac yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen, gan helpu pobl i gadw allan o'r ysbyty.

Gwasanaethau ymgynghoriaeth

Cyngor strategol a chymorth gweithredol i helpu sefydliadau i wella dyluniad, darpariaeth a gwytnwch gwasanaethau.

Pam ein dewis ni?

  • Technoleg arloesol Dyfeisiau blaengar, o ddyfeisiau olrhain GPS i ddyfeisiau monitro iechyd
  • Effaith bendant Gwasanaethau sydd wedi ennill gwobrau sy'n lleihau derbyniadau i'r ysbyty, yn helpu pobl i gadw allan o ofal preswyl ac yn hyrwyddo diogelwch ac annibyniaeth
  • Dibynadwy, achrededig a diogel Rydyn ni wedi cael ein hachredu'n llawn o dan Fframwaith Safonau Ansawdd TEC, yn cael ein rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), ac wedi cael ein hardystio o ran Hanfodion Seiber, ac felly rydyn ni'n sicrhau ansawdd a diogelwch cadarn ym mhopeth a wnawn
  • Gofal tosturiol Gan staff profiadol a medrus iawn sy'n deall anghenion unigol

Partner sy'n cydymffurfio â gofynion Teckal ar gyfer contractau'r sector cyhoeddus

Rydyn ni'n falch o weithredu fel sefydliad sy'n cydymffurfio â gofynion Teckal, gan alluogi cyrff sector cyhoeddus i ddyfarnu contractau'n uniongyrchol heb yr angen am broses caffael cystadleuol. Mae'r statws hwn yn adlewyrchu ein strwythur llywodraethu unigryw a'n haliniad gweithredol â'n cyfranddaliwr awdurdod lleol.

Ar gyfer sefydliadau comisiynu, mae cydymffurfiaeth â gofynion Teckal yn cynnig llwybr symlach, cyfreithiol gadarn i ddyfarnu contractau - gan arbed amser, lleihau baich gweinyddol, a sicrhau parhad y gwasanaeth.

Drwy ddewis Llesiant Delta, mae partneriaid yn cael budd o ddarparwr dibynadwy a reoleiddir â seilwaith dibynadwy, perchnogaeth gyhoeddus, ac ymrwymiad i ddarparu gwerth ac arloesi.

Edrychwch yn fanylach ar ein gwefan i ddysgu mwy am sut gallwn ni addasu ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigryw eich sefydliad.

Partner gyda ni

(Dim bylchau rhwng rhifau)