Cyflenwi sector cyhoeddus dibynadwy

Rydyn ni'n darparu gwasanaethau o ansawdd uchel a reoleiddir sy'n helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol a gwella canlyniadau i'w cymunedau.

Cawson ni ein sefydlu ym mis Mehefin 2018 fel Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol, a hynny ar sylfeini gwasanaeth Llinell Ofal Cyngor Sir Caerfyrddin, a oedd yn cefnogi cymunedau am dros 30 o flynyddoedd. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth unigryw i ni o'r heriau a'r cyfleoedd yn y sector cyhoeddus.

Fel Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol, rydyn ni'n cyfuno gwerthoedd sector cyhoeddus ag ystwythder masnachol – gan gynnig llwybr dibynadwy sy'n cydymffurfio i awdurdodau lleol gomisiynu gwasanaethau o ansawdd uchel yn uniongyrchol o dan esemptiad Teckal. Mae ein strwythur llywodraethu yn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd, ac mae ein hannibyniaeth weithredol yn caniatáu i ni arloesi ac ehangu'n gyflym. 

Arloesedd, twf ac effaith gymunedol

Ers y dechrau, rydyn ni wedi tyfu'n gyflym ac mae ein cydweithrediadau strategol ag awdurdodau lleol, yn ogystal â byrddau iechyd, cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru, yn golygu ein bod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC). 

Rydyn ni wedi datblygu o wasanaeth monitro galwadau ymatebol i fodel gofal rhagweithiol, sy'n seiliedig ar ddata. Mae ein rhaglen CONNECT, sydd wedi ennill gwobrau, yn enghraifft o'r newid hwn, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar drwy ddull technolegol a digidol, i wella llesiant a helpu pobl i aros yn annibynnol gartref am gyfnod hirach.

Mae ein gwasanaethau wedi'u cynllunio i fod yn hyblyg ac i ehangu, ac maen nhw wedi'u sefydlu'n ddwfn yn y cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu, gan gynnig atebion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau lleol – sy'n golygu ein bod yn bartner delfrydol i awdurdodau lleol sy'n ceisio gwella'r gofal sy'n cael ei roi, lleihau'r pwysau ar wasanaethau statudol, a gwella canlyniadau i unigolion agored i niwed.

Ein gwasanaethau

Ateb galwadau mewn argyfwng y tu allan i'r oriau arferol

Rydyn ni'n darparu gwasanaethau proffesiynol ar gyfer ateb galwadau y tu allan i'r oriau arferol ar ran awdurdodau lleol, gan sicrhau bod preswylwyr a thenantiaid yn gallu cael cymorth brys pan fydd swyddfeydd rheolaidd ar gau.

Mae ein canolfan gyswllt ddwyieithog ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn, gan gynnig sicrwydd a chymorth ymarferol yn ystod argyfyngau. Rydyn ni'n gweithio ar y cyd â phartneriaid lleol i sicrhau parhad gofal a gwasanaethau, hyd yn oed yn yr amgylchiadau mwyaf heriol.

Mae ein hymgynghorwyr yn rheoli amrywiaeth eang o faterion brys, gan gynnwys atgyweiriadau tai brys, digwyddiadau ar y priffyrdd a llifogydd, difrod i seilwaith cyhoeddus a sefyllfaoedd argyfyngus sy'n gofyn am gydlynu ac uwchgyfeirio ar unwaith.

Rydyn ni'n gweithredu o dan brotocolau a chytundebau lefel gwasanaeth llym ar gyfer pob awdurdod, gan roi tawelwch meddwl a gwytnwch gweithredol lle mae'r angen mwyaf. Rydyn ni'n brysbennu pob sefyllfa ac yn sicrhau bod y timau cywir yn cael eu hysbysu a bod camau yn cael eu cymryd yn brydlon, gan gydgysylltu â chontractwyr i sicrhau ateb amserol a chyfathrebu'n glir â phreswylwyr. Mae ein gwasanaeth yn helpu i gynnal diogelwch y cyhoedd a lleihau tarfu yn ystod digwyddiadau critigol.

Gwasanaeth mewn argyfwng i weithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain

Rydyn ni'n cydymffurfio â safonau BS 8484, gan gynnig protocolau mewn argyfwng a chymorth cadarn i weithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain, yn enwedig yn ystod cyfnodau y tu allan i'r oriau arferol.

Cymorth adfer mewn argyfwng

Rydyn ni'n darparu ateb adfer mewn argyfwng sy'n ddiogel, yn gyflym ac yn effeithiol, gan sicrhau parhad yn ystod argyfyngau ac ailddechrau'n ddi-oed swyddogaethau gwasanaeth hanfodol mewn argyfwng. Rydyn ni'n cynnig trefniadau staffio hyblyg, mynediad diogel i systemau, ac integreiddio â'n platfform monitro TEC cwbl ddigidol.

Monitro a Gosod Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC)

Wrth wraidd ein cwmni mae ein gwasanaeth Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC), sydd ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn o'n dwy Ganolfan Derbyn Larymau ddwyieithog yn Llanelli a Chaerfyrddin sy'n helpu miloedd o bobl ledled Cymru i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol gartref. Rydyn ni'n aelod o'r TSA (Cymdeithas Gwasanaethau Teleofal) ac yn cydymffurfio'n llawn â'r Fframwaith Safonau Ansawdd, gan sicrhau'r lefelau uchaf o ansawdd, diogelwch, arloesi a rhagoriaeth gwasanaeth.

Mae ein gwasanaethau'n cynnwys:

Larymau personol, synwyryddion cwympo, dyfeisiau olrhain GPS, a synwyryddion yn y cartref  

Gwaith gosod arbenigol a monitro 24/7

Integreiddio â Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) agored a phlatfformau digidol at ddibenion ehangu yn y dyfodol

 

Monitro dwyieithog 24/7

Gan gyfuno technoleg glyfar â chymorth tosturiol, rydyn ni'n monitro galwadau ddydd a nos yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae ein platfform TEC brys cwbl ddigidol yn ymdrin ag 1.5 miliwn o alwadau bob blwyddyn, gan roi sicrwydd ac ymateb cyflym i 35,000 o bobl, a rhagori ar safonau diwydiant TSA yn gyson.

Atebion TEC, gwaith gosod a chymorth personol

Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth cynhwysfawr o atebion TEC sy'n helpu pobl i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol gartref. O larymau llinell gymorth a synwyryddion cwympo i synwyryddion yn y cartref, mae ein partneriaethau â chyflenwyr blaenllaw yn sicrhau bod modd cael dyfeisiau arloesol wedi'u haddasu i anghenion unigol.

Mae ein swyddogion TEC sydd wedi cael hyfforddiant llawn yn ymweld â chartrefi i asesu'r amgylchedd ac anghenion yr unigolyn, gan roi cyngor arbenigol ar y dechnoleg fwyaf addas i gefnogi annibyniaeth, diogelwch a llesiant.

Mae ein tîm gosod pwrpasol yn darparu:

Gwaith gosod a datgomisiynu proffesiynol ar draws ardaloedd awdurdodau lleol a chontractau cymdeithasau tai yn ne-orllewin Cymru

Ymweliadau cynnal a chadw i wasanaethu, ychwanegu offer, a newid batris

Drwy gyfuno uwch-dechnoleg ag arbenigedd pobl, rydyn ni'n helpu i atal argyfyngau ac yn rhoi tawelwch meddwl i unigolion a'u teuluoedd.

Trawsnewid digidol

Gallwn ni helpu awdurdodau lleol i foderneiddio cynlluniau tai a chanolfannau tai drwy drawsnewid digidol, gan wella diogelwch tenantiaid, effeithlonrwydd gweithredol a gwytnwch gwasanaethau. P'un a ydych chi'n uwchraddio larymau, yn trosglwyddo i blatfformau monitro digidol, neu'n ailgynllunio llwybrau gwasanaeth, rydyn ni'n darparu'r arbenigedd, yr offer a'r wybodaeth i wneud i hyn ddigwydd. 

Fel un o'r sefydliadau cyntaf yng Nghymru i gwblhau'r gwaith o drosglwyddo'n llawn o systemau analog i ddigidol, rydyn ni'n deall y cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig â newid system ar raddfa fawr. Mae ein Canolfan Derbyn Larymau TSA a achredwyd gan y Fframwaith Safonau Ansawdd a'n platfform Enovation UMO o'r radd flaenaf yn sicrhau bod eich gwasanaethau yn barod at y dyfodol ac yn cydymffurfio. Rydyn ni hefyd wedi ein hardystio o ran Hanfodion Seiber, gan ddangos ein seilwaith, ein systemau a'n prosesau cadarn i ddiogelu data a sicrhau'r safonau uchaf o ran diogelwch gwybodaeth ar draws ein holl wasanaethau.

Gwybodaeth, cyngor a chymorth

Mae ein gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn darparu un pwynt mynediad ar gyfer yr holl ymholiadau iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin.  Mae'r gwasanaeth hanfodol hwn yn gweithio mewn partneriaeth â'r tîm amlddisgyblaethol Gartref yn Gyntaf, gan sicrhau bod unigolion yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir.

Beth rydyn ni'n ei wneud:

Ymdrin â miloedd o ymholiadau gan breswylwyr, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sydd am gael arweiniad ar iechyd a gofal cymdeithasol.

Darparu cyngor tosturiol, clir i helpu pobl i ddelio â systemau cymhleth a chael y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw.

Gweithio'n agos gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol ar draws gwasanaethau integredig i sicrhau cymorth cydgysylltiedig.

Drwy ddarparu cyngor amserol ac atebion ymarferol, mae ein tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn gwneud y canlynol:

Lleihau'r pwysau ar wasanaethau statudol

Atal argyfyngau cyn iddyn nhw waethygu

Helpu unigolion i aros yn annibynnol am gyfnod hirach

Mae mwy na 40% o'r holl ymholiadau yn arwain at gamau ataliol, gan helpu pobl i aros yn annibynnol a lleihau'r angen am gymorth gofal cymdeithasol statudol, sy'n dangos mor effeithiol yw'r tîm o ran ymyrraeth gynnar.

Asesiadau a galwadau llesiant

Nod ein gwasanaeth asesiadau a galwadau llesiant rhagweithiol yw nodi problemau'n gynnar, atal argyfyngau, a helpu pobl i fyw'n annibynnol am gyfnod hirach. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda thimau awdurdodau lleol a phartneriaid cymunedol i sicrhau ymateb cydgysylltiedig a, lle bo angen, gallwn ni gysylltu unigolion ag atebion gofal trwy gymorth technoleg, gwasanaethau ymateb i argyfwng, neu raglenni ataliol eraill.

Asesiadau llesiant

Mae pob unigolyn yn cael asesiad llesiant manwl i ddechrau, sy'n cael ei gynnal gan staff hyfforddedig.

Rydyn ni'n edrych ar iechyd, amgylchedd cartref, cysylltiadau cymdeithasol ac anghenion byw bob dydd yr unigolyn.

Mae hyn yn arwain at gynllun cymorth personol, sy'n sicrhau bod y cymorth cywir ar waith o'r cychwyn cyntaf.

Galwadau rhagweithiol rheolaidd

Mae galwadau wedi'u trefnu yn rhoi sicrwydd parhaus a chymorth ymarferol. Mae'r galwadau hyn wedi'u haddasu i anghenion unigol a gallen nhw ddigwydd bob wythnos, bob mis neu bob chwarter. Gallan nhw gynnwys: 

Cymorth emosiynol a chyswllt cymdeithasol i leihau arwahanrwydd

Cyngor ar iechyd a diogelwch yn y cartref

Cyfeirio at adnoddau a gwasanaethau lleol

Mae ein tîm wedi cael hyfforddiant i nodi arwyddion rhybudd cynnar ac uwchgyfeirio pryderon yn gyflym, gan atal problemau rhag dod yn argyfyngau. Nid cadw mewn cysylltiad yn unig yw nod y galwadau hyn – maen nhw'n cadw pobl yn ddiogel, yn gysylltiedig ac yn annibynnol, yn ogystal â lleihau'r pwysau ar wasanaethau statudol.

Ymateb i argfywng

Mae ein gwasanaeth ymateb yn ateb unigryw, hyblyg sy'n helpu awdurdodau lleol i reoli anghenion gofal mewn argyfwng ac argyfyngau anfeddygol yn y gymuned. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu ymyriadau tymor byr, cyflym sy'n atal argyfyngau rhag gwaethygu ac yn lleihau dibyniaeth ar ofal statudol a gwasanaethau brys. Mae larymau llinell gymorth a dyfeisiau TEC yn cael eu rhoi i ddefnyddwyr gwasanaeth, gan sicrhau monitro 24/7 ac uwchgyfeirio ar unwaith os bydd angen cymorth pellach.

Mae ein tîm ymateb cymunedol 24/7 yn gwneud y canlynol:

Mynd i argyfyngau anfeddygol fel codymau sydd heb achosi anaf, gwiriadau llesiant, newidiadau sydyn mewn iechyd neu lesiant ac anghenion gofal cymdeithasol brys.

Darparu gofal cartref tymor byr mewn argyfwng i unigolion a theuluoedd gan gynnwys:

Cefnogi pobl sy'n aros am becynnau gofal statudol

Gofal pontio ar gyfer pobl sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty nes bod gofal tymor hir neu ofal ailalluogi ar waith

Cymorth brys yn achos methiant gofalwyr neu newidiadau sydyn mewn amgylchiadau

Defnyddio offer arbenigol a phrotocolau brysbennu clinigol i asesu a helpu unigolion yn ddiogel 

Wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru

Mae ein tîm ymateb wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), sy'n golygu mai dyma'r gwasanaeth cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae'r staff:

Wedi cael hyfforddiant llawn mewn cymorth cyntaf, triniaeth cynnal bywyd sylfaenol, codi a chario, ymwybyddiaeth o ddementia

Yn gallu gwneud arsylwadau clinigol a gweithio'n agos gyda gweithwyr iechyd proffesiynol

Yn fedrus o ran gofal personol, rhoi meddyginiaethau, paratoi prydau, a hyd yn oed tasgau ymarferol fel siopa bwyd neu wasanaethau eistedd gyda phobl ar fyr rybudd

Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu ateb cost-effeithiol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, i awdurdodau lleol sy'n atal y sefyllfa rhag gwaethygu, yn cefnogi annibyniaeth, ac yn sicrhau parhad gofal mewn partneriaeth â thimau iechyd a gofal cymdeithasol.

Lleihau'r pwysau ar wasanaethau statudol drwy atal lleoliadau preswyl a derbyniadau diangen i'r ysbyty

Gwella canlyniadau i unigolion, gan eu galluogi i aros gartref yn ddiogel

Rhoi sicrwydd i deuluoedd, gan eu bod yn gwybod bod help bob amser ar gael

Partner gyda ni

(Dim bylchau rhwng rhifau)