Rydyn ni'n gweithio gyda byrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau arloesol ac ymatebol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n lleddfu'r pwysau ar ofal acíwt, yn cefnogi rhyddhau pobl yn amserol, ac yn hyrwyddo byw'n annibynnol.

Mae ein model integredig yn cyfuno technoleg, cymorth tosturiol, medrus iawn, a gofal yn y gymuned i gyflawni canlyniadau mesuradwy ar gyfer cleifion a systemau fel ei gilydd. Gan ganolbwyntio ar ofal rhagweithiol ac ataliol, rydyn ni'n darparu'r cymorth cywir ar yr adeg gywir, i sicrhau canlyniadau gwell i gleifion a system iechyd a gofal fwy cynaliadwy.

Rydyn ni'n sefydliad sy'n cydymffurfio â gofynion Teckal, sy'n caniatáu i gyrff sector cyhoeddus ddyfarnu contractau'n uniongyrchol heb gaffael cystadleuol. Mae hyn yn symleiddio comisiynu ac yn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau.

alt

Gwasanaeth gartref o'r ysbyty

Mae ein gwasanaeth gartref o'r ysbyty yn hwyluso rhyddhau cleifion ac yn gwneud y broses drosglwyddo o'r ysbyty i'r cartref yn haws, gan sicrhau parhad gofal a lleihau derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi. Mae'n cynnig cymorth 24/7 ac ymateb cyflym, gan ryddhau adnoddau ysbytai yn ogystal â galluogi unigolion i wella yn eu cartrefi eu hunain.

alt

Y Fyddin Las

Mae ein Swyddogion Llesiant Cymunedol, sy'n gweithio mewn wardiau ysbytai ac adrannau achosion brys, yn gweithio ochr yn ochr â staff ysbytai i asesu cleifion, cefnogi cynllunio rhyddhau, a darparu cyswllt hanfodol â gwasanaethau cymunedol. Maen nhw'n cynorthwyo, yn cynghori, yn cefnogi ac yn cyfeirio cleifion at lwybrau gofal priodol, gan helpu i gynnal llif a lleihau oedi. Mae'r dull gweithredu yn syml: sicrhau bod y broses mynd adref yn ddiogel, yn ddidrafferth ac yn ddi-straen. Drwy gyfuno cymorth ymarferol, sicrwydd emosiynol, a gofal trwy gymorth technoleg, gallwn ni helpu cleifion i adennill eu hannibyniaeth a lleihau'r pwysau ar ysbytai. 

Cyngor a chymorth ymarferol

Mae ein swyddogion yn darparu gwybodaeth ac arweiniad clir ar ofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol. Gallan nhw:

Cyfeirio at sefydliadau dibynadwy yn y trydydd sector, er enghraifft, MIND, Gofal a Thrwsio ac Age Cymru.

Darparu rhestrau o wasanaethau lleol fel glanhawyr, cymorth siopa, cymorth yn y cartref, a dosbarthu prydau bwyd.

Helpu cleifion a theuluoedd gyda phrosesau gofal cymdeithasol.

Pontio bylchau gofal

Bydd y tîm yn trefnu cymorth brys tymor byr i hwyluso rhyddhau pobl sy'n ffit yn feddygol i'w helpu i setlo gartref neu wrth iddyn nhw aros am wasanaethau gofal ailalluogi neu ofal tymor hir. Mae hyn yn sicrhau nad yw cleifion yn cael eu gadael heb gymorth yn ystod cyfnodau pontio hollbwysig.

Gofal trwy Gymorth Technoleg

Cyn i glaf adael yr ysbyty, gall y tîm drefnu technoleg llinell gymorth fel y gall fynd adref yn hyderus - gan wybod bod help bob amser ar gael drwy wasgu botwm. Mae hyn nid yn unig yn cyflymu'r broses ryddhau ond hefyd yn rhoi sicrwydd i gleifion a theuluoedd bod cymorth ar gael 24/7.

Lles a siopa

Byddan nhw'n trefnu i'n tîm ymateb gynnal ymweliadau lles i wirio llesiant cleifion ar ôl eu rhyddhau. I'r rhai heb gymorth ar unwaith, gallan nhw hefyd drefnu ymweliadau siopa hanfodol.

Tîm ymateb

Mae ein tîm ymateb 24/7 yn wasanaeth symudol arloesol ac unigryw sy'n darparu gofal tymor byr mewn argyfwng i helpu cleifion yn y gymuned o ran gofal cartref ac anghenion eraill.

Trosglwyddo a rhyddhau o'r ysbyty

Mae'r tîm yn helpu i ryddhau cleifion sy'n ffit yn feddygol o'r ysbyty yn amserol, gan ddarparu gofal tymor byr i helpu unigolion i setlo gartref neu hyd nes bod darparwyr gofal ailalluogi neu ddarparwyr tymor hir ar waith. Mae hyn yn lleihau'r pwysau ar y GIG ac yn cefnogi llif iechyd a gofal cymdeithasol. Gall y tîm hefyd ddarparu trafnidiaeth ddiogel a dibynadwy i apwyntiadau meddygol ac yn ôl adref neu ar ôl i bobl gael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru

Y tîm yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru i gael ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, gan eu galluogi i ddarparu'r gofal a'r cymorth angenrheidiol yn y gymuned. Mae hyn hefyd yn ein galluogi i weithio'n arloesol gyda'r ddau fwrdd iechyd, yn ogystal â'n partneriaid awdurdodau lleol, gan gynnig cymorth hyblyg, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Ymateb cyflym

Mae cleifion yn derbyn technoleg gynorthwyol fel llinellau cymorth, sy'n eu cysylltu â'n canolfan fonitro 24/7. Os bydd pryderon yn codi – fel dirywiad sydyn, codwm neu argyfwng arall – mae ein tîm yn cael ei anfon ar unwaith.

Gofal medrus a thosturiol

Mae'r staff yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth ambiwlans ac maen nhw wedi cael hyfforddiant llawn o ran:

Cymorth cyntaf a thriniaeth cynnal bywyd sylfaenol

Codi a chario

Ymwybyddiaeth o ddementia

Arsylwadau clinigol

Gofal personol

Rhoi meddyginiaethau

Byddan nhw hefyd yn helpu gyda siopa bwyd, paratoi prydau bwyd a gwasanaethau eistedd gyda phobl ar fyr rybudd.

Y Broblem:

Mae oedi wrth drosglwyddo gofal (blocio gwelyau) yn gostus i'r GIG

Yr Ateb:

Dull gweithredu integredig

Effaith Bendant:

Osgoi costau

  • Mae miloedd o welyau ysbyty yn cael eu defnyddio gan gleifion sy'n ffit yn feddygol i'w rhyddhau
  • Mae oedi wrth ryddhau yn cynyddu costau'r GIG, yn lleihau llif ac yn effeithio ar wellhad cleifion
  • Mae timau iechyd a gofal cymdeithasol lleol yn aml dan bwysau, gan leihau eu gallu i ymateb.
  • Mae swyddogion llesiant yn yr ysbyty yn asesu cleifion ac yn cydlynu cymorth cofleidiol
  • Mae'r Fyddin Las a'r tîm ymateb cyflym yn hwyluso rhyddhau cleifion i'w cartrefi ar unwaith discharge home.
  • Mae ymateb brys 24/7 yn pontio'r bwlch mewn darpariaeth gymunedol
  • Cymorth tymor byr nes bod pecynnau gofal ailalluogi neu ofal tymor hir ar waith.

 

  • Yn seiliedig ar roi cymorth i 2,845 o gleifion
  • Llif ysbytai a mwy o welyau ar gael (arbed 1778 o ddiwrnodau gwely)
  • Derbyniadau y mae modd eu hosgoi ac oedi wrth ryddhau
  • Annibyniaeth a chanlyniadau cleifion – gan gynnwys 85% o ganlyniadau ataliol
  • Cost / ariannol - arbed £839,216 o ran diwrnodau gwely yn unig!

Teleiechyd

Rydyn ni'n darparu atebion gofal cysylltiedig sy'n helpu unigolion i reoli eu hiechyd gartref, gan leihau'r angen am ofal yn yr ysbyty neu ofal preswyl a gwella llesiant cyffredinol.

Monitro cyflyrau cronig o bell

Mae ein gwasanaeth teleiechyd yn galluogi cleifion i fonitro cyflyrau cronig fel iechyd y galon, gweithrediad yr ysgyfaint, a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) gan ddefnyddio amrywiaeth o offer iechyd wedi ei gysylltu ag ap ffôn symudol. Mae'r darlleniadau yn cael eu rhannu'n awtomatig gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan alluogi ymyrraeth gynnar a gofal personol. Mae hyn yn helpu cleifion i reoli cyflyrau tymor hir gartref.

Cymorth rhagsefydlu orthopedig

Gallwn ni helpu byrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau rhagsefydlu i gleifion sy'n aros am lawdriniaeth orthopedig neu lawdriniaeth arall. Drwy ddefnyddio platfformau digidol ac offer monitro o bell, gallwn ni helpu i wella llesiant corfforol a seicolegol cleifion gymaint â phosibl cyn eu triniaeth. Gall hyn leihau cymhlethdodau, gwella canlyniadau adferiad, lleddfu'r pwysau ar wasanaethau eilaidd a chymunedol, ac, yn hollbwysig, osgoi canslo llawdriniaeth oherwydd nad yw'r claf yn ffit.

Ehangu ar draws llwybrau

Mae'r model gwasanaeth wedi'i ddylunio i gefnogi:

Llwybrau llawfeddygol dewisol

Rheoli clefydau cronig (e.e. adsefydlu ysgyfeintiol, adfer y galon, COVID hir)

Adsefydlu a gwella gartref

Gofal hybrid a thechnoleg wisgadwy

Mae ein dull gweithredu yn cyfuno gofal rhithwir a phersonol, gyda chymorth dyfeisiau gwisgadwy sy'n monitro pwysedd gwaed, lefelau ocsigen, gweithgaredd, cwsg a symudedd. Mae hyn yn golygu bod modd casglu data amser real a rhoi cymorth rhagweithiol, gan helpu i nodi risgiau sy'n gysylltiedig ag eiddilwch a chwympo a nodi arwyddion cynnar o ddirywiad yn ogystal â lleihau derbyniadau i'r ysbyty. 

Hybiau rhithwir a gofal integredig

Rydyn ni'n edrych ar ddatblygu hybiau rhagsefydlu rhithwir rhanbarthol i helpu cleifion ar draws ffiniau sefydliadol, gan wella cydweithio a pharhad gofal.

Ysgogi trawsnewid digidol

Mewn partneriaeth ag iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, rydyn ni'n arwain agenda uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid digidol. Rydyn ni eisoes wedi cwblhau'r newid digidol o ran ein platfform monitro TEC. Mae hyn yn sicrhau y bydd yn cydweddu'n llawn â dyfeisiau TEC y genhedlaeth nesaf, ac mae ein saernïaeth Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau agored yn caniatáu integreiddio di-dor â phlatfformau trydydd parti:

Swyddogaethau hwb canolog ar gyfer ysgogi'r gweithlu

Ymgyngoriadau fideo a brysbennu

Cyfathrebu â thîm amlddisgyblaeth

Wardiau adsefydlu ac ysbytai rhithwir

Rheoli arloesi ar gyfer profi cynhyrchion a gwasanaethau newydd

Ein nod yw bod ar flaen y gad o ran datblygu technoleg iechyd a gofal, gan sicrhau canlyniadau gwell a lleihau'r galw am adnoddau ffisegol ac ariannol

Dewch i gydweithio â ni

Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i greu gwasanaethau iechyd mwy diogel, mwy clyfar a mwy cysylltiedig. O gymorth rhyddhau o'r ysbyty i atebion teleiechyd arloesol, rydyn ni yma i helpu byrddau iechyd i wella canlyniadau cleifion a lleihau’r pwysau ar systemau. Cysylltwch â ni heddiw i drafod sut y gallwn ni gefnogi eich nodau chi.

Partner gyda ni

(Dim bylchau rhwng rhifau)