Cefnogi cymunedau diogel, cysylltiedig
Mae cymdeithasau tai yn wynebu galwadau cynyddol i ddarparu cymorth diogel a chysylltiedig, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, i'w tenantiaid, yn enwedig mewn argyfwng neu yn ystod cyfnodau pontio.
O fonitro a gosod larymau TEC i atgyweiriadau tai mewn argyfwng y tu allan i'r oriau arferol, rydyn ni'n cynnig cyfres gynhwysfawr o wasanaethau i gymdeithasau tai gyda'r nod o wella diogelwch a llesiant tenantiaid a gwytnwch gweithredol.
Mae ein hatebion wedi'u haddasu i ymateb i'r heriau go iawn y mae darparwyr tai yn eu hwynebu – boed hynny'n golygu sicrhau cymorth 24/7, delio â'r newid digidol neu ymateb i argyfyngau yn gyflym ac yn ofalus.
Partner sector cyhoeddus dibynadwy
Fel sefydliad dan berchnogaeth gyhoeddus sy'n cydymffurfio â gofynion Teckal, rydyn ni'n darparu llwybr dibynadwy ac effeithlon at wasanaethau o ansawdd uchel a reoleiddir heb yr angen am brosesau caffael hir.
Mae ein gwreiddiau yn y sector cyhoeddus a'n dealltwriaeth ddofn o heriau'r sector tai yn golygu ein bod yn bartner delfrydol ar gyfer darparu cymorth ymatebol ac arloesol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gynnig gwasanaethau dibynadwy y mae modd eu hehangu sy'n diwallu anghenion tenantiaid a darparwyr fel ei gilydd.
Rydyn ni'n falch o weithio mewn partneriaeth â chymdeithasau tai ledled Cymru a thu hwnt, gan eu helpu i ddarparu cymorth effeithiol, sy'n barod at y dyfodol i'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu.
Gwasanaeth mewn argyfwng i weithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain a’r tu allan i'r oriau arferol
Mae ein gwasanaeth monitro i weithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain a'n gwasanaeth ateb galwadau brys yn sicrhau bod eich staff a'ch tenantiaid yn cael cymorth 24/7. P'un a yw'n achos o nwy yn gollwng, llifogydd neu denant agored i niwed mewn trallod, mae ein canolfan alwadau arbenigol yn brysbennu ac yn uwchgyfeirio digwyddiadau at yr ymatebwyr priodol, boed hynny'n golygu eich staff aros galwad neu dimau cynnal a chadw dan gontract. Rydyn ni'n gweithredu yn unol â safonau BS 8484 ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain, ac mae ein tîm wedi cael hyfforddiant mewn diogelu, rheoli argyfwng a chydlynu argyfwng.
Cymorth wrth gefn mewn argyfwng ac adfer mewn argyfwng
Rydyn ni'n helpu cymdeithasau tai i gynnal gwasanaeth yn ystod argyfwng, o ddifrod mawr i eiddo i argyfyngau staff. Mae ein protocolau cynlluniau wrth gefn ac ymateb cyflym yn sicrhau bod eich tenantiaid yn parhau i gael cymorth hyd yn oed yn yr amgylchiadau mwyaf heriol.
Atebion TEC a gosod TEC
Rydyn ni'n cyflenwi ac yn gosod amrywiaeth eang o atebion Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) wedi'u haddasu i anghenion eich tenantiaid – o larymau personol a synwyryddion cwympo i systemau monitro clyfar yn y cartref. Mae ein gwasanaethau yn gwbl ddigidol ac yn gydweddu â dyfeisiau'r genhedlaeth nesaf, oherwydd ein saernïaeth Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau agored.
Monitro larymau
Mae ein Canolfannau Derbyn Larymau TSA a achredwyd gan y Fframwaith Safonau Ansawdd ar gael 24/7, gan sicrhau monitro parhaus ac ymateb cyflym. Rydyn ni’n aelodau balch o Gymdeithas Gwasanaethau TEC (TSA), ac mae ein gwasanaethau yn bodloni'r safonau uchaf o ran ansawdd a diogelwch.
Gwasanaeth ymateb i argyfwng
Rydyn ni'n darparu cymorth brys anfeddygol, yn enwedig ar gyfer codymau sydd heb achosi anaf a gwiriadau lles. Mae ein gwasanaeth ymatebwyr sydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru yn cynnig cymorth uniongyrchol i'r gwasanaethau brys, gan helpu tenantiaid i aros yn ddiogel ac yn annibynnol gartref.
Trawsnewid digidol
Rydyn ni'n cynghori cymdeithasau tai ar ailgynllunio gwasanaethau a thrawsnewid digidol, gan eu helpu i drosglwyddo i ddigidol a diogelu eu gweithrediadau at y dyfodol i wella diogelwch tenantiaid, effeithlonrwydd gweithredol a gwytnwch gwasanaethau. P'un a ydy’n golygu uwchraddio larymau, trosglwyddo i blatfformau monitro digidol, neu ailgynllunio llwybrau gwasanaeth, rydyn ni'n darparu'r arbenigedd, yr offer a'r wybodaeth i wneud i hyn ddigwydd. Ar adeg pan fo llawer o sefydliadau'n dal i ddelio â heriau troi'n ddigidol, rydyn ni wedi dangos beth sy'n bosib o gael y weledigaeth iawn a'r cydweithio cywir.
Pam ein dewis ni?
-
Cydymffurfio â gofynion Teckal Proses gaffael symlach
-
Achredwyd gan TSA ac Arolygiaeth Gofal Cymru Sicrwydd ansawdd
-
Partner sector cyhoeddus Mae cynghorau a chymdeithasau tai yn ymddiried ynom ni
-
Hyblyg a gallu ehangu Atebion sy’n cael eu haddasu i'ch anghenion
-
Barod ar gyfer y newid digidol Yn cydweddu'n llawn â systemau TEC modern
-
Staff dwyieithog a hyfforddedig Tosturiol, proffesiynol, ymatebol