alt

Sicrhau newid cynaliadwy

Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth ymgynghoriaeth hyblyg gan ddefnyddio ein profiad o ddatblygu, darparu ac ehangu atebion arloesol ar draws awdurdodau lleol, tai, iechyd, a gofal cymdeithasol. O lunio achosion busnes cadarn a darparu tystiolaeth o Elw ar Fuddsoddiad i gynghori ar drawsnewid digidol ac ailddylunio gwasanaethau, rydyn ni'n helpu sefydliadau i droi syniadau'n ganlyniadau ymarferol, cynaliadwy.

Ein meysydd arbenigedd

  • Datblygiad Datblygu achosion busnes a modelu Elw ar Fuddsoddiad
  • Trawsnewid digidol Trawsnewid digidol, trosglwyddo TEC ac offer
  • Dylunio Dylunio ac ailddylunio gwasanaethu, ac ehangu arloesi
  • Partneriaeth Gweithio mewn partneriaeth ar draws awdurdodau lleol, iechyd, a thai
  • Adrodd Gwerthuso, mesur effaith, ac adrodd ynghylch canlyniadau

Pam ddylech chi weithio gyda ni?

  • Profiad pendant Fel un o'r canolfannau monitro cyntaf yng Nghymru i gwblhau'r gwaith trosglwyddo o systemau analog i ddigidol ar raddfa fawr, rydyn ni'n deall y cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig â newid system ar raddfa o'r fath
  • Dealltwriaeth ar draws y sector Rydyn ni wedi gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, darparwyr tai, partneriaid y GIG, a'r trydydd sector i ddylunio a darparu gwasanaethau sy'n gwella canlyniadau ac yn lleihau'r pwysau ar y systemau statudol
  • Effaith y gallwch chi roi tystiolaeth ohoni Mae ein gwasanaeth CONNECT, sydd wedi ennill gwobrau, yn dangos sut y gall dulliau ataliol gyflawni canlyniadau mesuradwy. Rydyn ni'n defnyddio'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu drwy hyn i gefnogi eraill i ddangos gwerth clir a buddsoddiad diogel

Enghreifftiau o'n cymorth

Helpu awdurdod lleol i ddatblygu achos busnes cadarn ar gyfer gwasanaethau ataliol, gan roi tystiolaeth o osgoi costau sylweddol

Helpu darparwr tai i edrych ar atebion monitro digidol a modelu elw ar fuddsoddiad

Cynghori partneriaid iechyd ar lwybrau rhyddhau diogel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, drwy gymorth technoleg a chymorth cymunedol

Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd

P'un a ydych chi'n cynllunio trosglwyddo i systemau digidol, yn llunio achos busnes, neu'n ailddylunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol, gallwn ni helpu.

Partner gyda ni

(Dim bylchau rhwng rhifau)