Rydyn ni yma pan fyddwch chi ein hangen

Dydd neu nos, gyda llais cyfeillgar a help llaw

Yn Llesiant Delta, rydyn ni'n helpu pobl i fyw'n annibynnol, yn ddiogel ac yn hyderus gartref cyhyd â phosibl. Rydym yn deall bod aros gartref yn bwysig – dyma lle rydych chi'n teimlo'n fwyaf cyfforddus ac mewn rheolaeth. Dyna pam rydym wedi datblygu Delta i Chi, sef ystod syml, hyblyg o wasanaethau gofal trwy gymorth technoleg (TEC) sy'n rhoi tawelwch meddwl i chi, eich teulu neu'ch gofalwyr, gan gynnwys:

  • Larymau personol a synwyryddion codymau er mwyn i chi gael help ar unwaith wrth bwyso botwm
  • Systemau olrhain GPS i'ch cadw'n ddiogel gartref neu wrth fynd o le i le
  • Synwyryddion cartref clyfar i ganfod mwg, carbon monocsid, symudiad, a thymheredd 

Darparwr dibynadwy

Cefnogaeth brofiadol, gyfeillgar a medrus

Fel Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, rydym yn ddarparwr dibynadwy gyda dros 30 mlynedd o brofiad o gefnogi pobl ar draws ein cymunedau. Caiff ein gwasanaethau eu darparu gan dîm cyfeillgar, hynod fedrus a chymwys sydd wir yn gofalu amdanoch. Rydyn ni yma 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn – yn barod i ymateb pan fydd ein hangen arnoch fwyaf.

Rydyn ni'n cefnogi:

  • Oedolion hŷn a phobl agored i niwed sy'n byw gartref
  • Pobl â chyflyrau iechyd hirdymor neu anableddau sydd am gadw'n ddiogel ac aros yn annibynnol
  • Aelodau o'r teulu sy'n ceisio cymorth a thawelwch meddwl ynghylch perthnasau sy'n heneiddio
  • Gofalwyr di-dâl, cymdogion a ffrindiau sydd eisiau tawelwch meddwl
  • Unrhyw un sydd eisiau aros yn annibynnol ond yn ddiogel gartref

Cefnogi unigolion

Diogelwch, annibyniaeth a lles

Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi diogelwch, annibyniaeth a llesiant i unigolion ar bob cam mewn bywyd. P'un a oes angen sicrwydd achlysurol arnoch neu gymorth mwy cynhwysfawr, mae ein gwasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu eich anghenion unigryw. Trwy dechnoleg gynorthwyol, galwadau llesiant a galwadau i wneud yn siŵr eich bod chi'n iawn, a gwasanaeth ymateb brys i gefnogi argyfyngau anfeddygol, rydyn ni'n rhoi'r tawelwch meddwl i chi bod cymorth bob amser ar gael pan fo angen.

Rydym yn deall y gall gofalu am rywun annwyl fod yn heriol. Rydym yn darparu diweddariadau amser real, mewnwelediadau llesiant, ac ymateb brys 24/7 i deuluoedd a gofalwyr, gan gynnig sicrwydd bod eu hanwyliaid yn cael eu cefnogi hyd yn oed pan na allant fod yno yn bersonol.

Sut y gallwn ni helpu

*ar gael mewn rhai ardaloedd yn unig ar hyn o bryd
  • Dyfeisiau Gofal Trwy Gymorth Technoleg Rydym yn darparu ac yn gosod ystod o ddyfeisiau clyfar, gan gynnwys larymau personol, synwyryddion codymau a dyfeisiau olrhain GPS, a synwyryddion yn y cartref i'ch cadw'n ddiogel gartref neu wrth fynd o le i le
  • Monitro a rhybuddion 24/7 Rydym yn monitro galwadau, dyfeisiau a gweithgarwch defnyddwyr, yn canfod cwympiadau ac yn gweithredu'n gyflym – gan gysylltu â theulu, ffrindiau, gofalwyr, ein hymatebwyr ein hunain neu'r gwasanaethau brys yn ôl yr angen
  • Galwadau llesiant a sgyrsiau dal i fyny Sgyrsiau dal i fyny cyfeillgar rheolaidd i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn. Os nad ydym yn clywed gennych, byddwn yn cysylltu â chi
  • Ymateb mewn argyfwng 24/7* Cymorth ar unwaith drwy bwyso botwm, gan sicrhau bod help bob amser ar gael ar gyfer argyfyngau anfeddygol; gall ein hymatebwyr hyfforddedig ddod yn bersonol, gan ddefnyddio offer codi arbenigol i'ch helpu yn ôl i fyny ar ôl codwm
  • Trosglwyddo a rhyddhau o'r ysbyty* Cludiant diogel a dibynadwy i apwyntiadau meddygol ac yn ôl, neu gymorth rhyddhau o'r ysbyty i'ch helpu i fynd adref yn ddiogel a setlo nôl yn iawn
alt

Pam ein dewis ni

Gofal hyblyg, personol

  • Cymorth dibynadwy: Mae gennym flynyddoedd o brofiad o gynorthwyo pobl i fyw'n dda gartref.
  • Gofal wedi'i bersonoli: Rydym yn gwrando ar eich anghenion ac yn eich helpu i adeiladu pecyn gofal sy'n addas i chi.
  • Tawelwch meddwl 24/7: Mae ein tîm bob amser yma – ddydd neu nos – i ymateb i argyfyngau, gwirio eich llesiant, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch teulu.
  • Hyblyg a lleol: Dewiswch osod yr offer eich hun neu gadewch i'n tîm lleol ymweld â'ch cartref i osod yr offer a rhoi cyngor (ar gael mewn rhai ardaloedd). 
alt

Tawelwch meddwl

Byw bywyd eich ffordd

Rydyn ni yma i roi tawelwch meddwl i chi a'ch teulu fel y gallwch fyw bywyd eich ffordd chi, gyda chefnogaeth ar gael bob amser pan fydd ei angen arnoch

  • Rydym yn darparu larymau personol a synwyryddion codymau. Pwyswch fotwm (neu rydyn ni'n canfod codwn) ac rydyn ni'n eich helpu chi
  • Rydyn ni yma 24/7. Ddydd a nos
  • Gallwn ffonio eich teulu neu ddod draw yn bersonol (mewn rhai ardaloedd)
  • Gallwn eich ffonio bob wythnos i wneud yn siŵr eich bod yn iawn
  • Prisiau o £4.99 y mis