31 Mawrth 2026

Edrych ymlaen yn hyderus – cadwch yn egnïol gyda chymorth Delta i Chi

Cwpl yn cerdded

Edrych ymlaen yn hyderus – cadwch yn egnïol gyda chymorth Delta i Chi 

Gan ein bod bellach wedi troi'r clociau ymlaen a'r Gwanwyn yma'n swyddogol, gallwn ni i gyd fwynhau diwrnodau hirach a rhagor o oleuni gyda'r hwyr. Ac wrth i'r tywydd droi'n fwynach, bydd llawer ohonon ni'n treulio rhagor o amser yn yr awyr agored – yn mwynhau cerdded, gweithio yn yr ardd, neu fynd o le i le yn ein cymunedau. 

Er bod y newid yn y tymhorau yn aml yn rhoi egni o'r newydd, gall hefyd olygu newidiadau i'n harferion. Mae bod yn fwy egnïol, teithio ymhellach o gartref, neu addasu i foreau a nosweithiau goleuach yn gallu bod yn anodd weithiau – yn enwedig os ydych chi neu un o'ch anwyliaid yn byw ar ben eich hun neu'n rheoli cyflwr iechyd. 

Dyna lle gall Delta i Chi helpu. 

Cymorth sy'n symud gyda chi

Delta i Chi yw ein gwasanaeth cymorth hyblyg, ataliol i roi sicrwydd, annibyniaeth a thawelwch meddwl – pryd bynnag a ble bynnag mae eu hangen arnoch chi.

Gyda Delta Unrhyw Le, nid gartref yn unig gewch ofal. Gan ei fod yn ysgafn, yn ddiffwdan, ac yn hawdd i'w wisgo, gallwch ddefnyddio ein larwm personol allan ar hyd lle, sy'n golygu gallwch fwynhau'r Gwanwyn yn hyderus. P'un a ydych chi'n mynd am dro, ymweld â ffrindiau, siopa'n lleol neu dreulio amser yn yr ardd, mae help bob amser wrth law drwy wasgu botwm. 

Os byddwch chi'n cwympo, yn teimlo'n sâl, neu angen gair o gysur, mae ein tîm cyfeillgar, hyfforddedig ar gael 24/7 i ymateb yn gyflym ac yn briodol.

Mae GPS a dyfais sy'n synhwyro pan fydd rhywun wedi cwympo yn rhan o'r larwm gwddf. Os bydd rhywun wedi cwympo, neu os bydd y larwm gwddf yn cael ei wasgu i alw am help, caiff neges ei hanfon yn awtomatig i'n tîm monitro fel y gall ymateb yn gyflym. Mae'r GPS yn golygu gallwn ni helpu i'ch lleoli pan fyddwch o gartref, gan roi tawelwch meddwl ychwanegol i ddefnyddwyr a'u teuluoedd fod cymorth ar gael ble bynnag y byddwch. 

Wrth i'r tymhorau newid, mae'ch arferion yn newid hefyd

Mae dyddiau hirach, goleuach yn aml yn golygu bod pobl yn fwy egnïol - ac mae hynny'n beth da. Bwriad Delta i Chi yw cefnogi byw'n annibynnol a'ch helpu i gadw mewn cysylltiad a chadw'n ddiogel wrth fwynhau popeth sydd gan y Gwanwyn i'w gynnig. 

Galwadau llesiant rhagweithiol gyda Delta Sgwrsio

Fel rhan o Delta i Chi, gall cwsmeriaid ddewis ychwanegu Delta Sgwrsio, sy'n cynnwys galwadau llesiant rhagweithiol rheolaidd. Mae'r galwadau cyfeillgar hyn yn rhoi sicrwydd, yn helpu i nodi unrhyw bryderon yn gynnar, ac yn sicrhau bod pobl yn teimlo bod ganddynt gefnogaeth a chyswllt a bod pobl yn gwrando arnynt, a hynny nid yn unig adeg argyfwng. 

Sicrwydd ychwanegol gyda Delta ar ei Ffordd 

I'r rhai sydd ei angen, mae Delta ar ei Ffordd ar gael fel dewis ychwanegol, gan ddarparu ymateb symudol gan staff hyfforddedig a all ddod atoch pan fydd angen help. Mae hyn yn cynnwys cymorth os byddwch wedi cwympo, ac mae gan y timau gyfarpar codi arbenigol i helpu pobl nôl ar eu traed lle bo hynny'n briodol ac i helpu i leihau'r angen am ambiwlans a derbyniadau diangen i'r ysbyty. 

Neges amserol ar gyfer y tymor i ddod 

Mae troi'r clociau hefyd yn anogaeth i ofalu bod anwyliaid yn iawn, i edrych eto ar eich trefniadau cefnogi, ac i sicrhau bod y cymorth cywir ar waith gennych yn y misoedd i ddod. 

Boed yn dawelwch meddwl tra byddwch ar grwydr, yn gefnogaeth gartref, neu'n sicrwydd i aelodau'r teulu, mae Delta i Chi yma bob cam o'r ffordd.

Gadewch i ni edrych ymlaen yn hyderus - gyda'n gilydd.