Delta direct logo

Delta i Chi

Mae Delta i Chi yn rhoi rheolaeth i chi. Mae'n wasanaeth hyblyg sy'n ffitio o gwmpas eich bywyd, felly gallwch ddewis y gefnogaeth sy'n teimlo'n iawn i chi a chadw eich annibyniaeth

Gallwch ddewis o blith pedair lefel o gymorth – Delta yn y Cartref, Delta Unrhyw Le, Delta Sgwrsio a Delta ar ei Ffordd – yn dibynnu ar faint o sicrwydd neu help yr hoffech chi ei gael.

Gellir teilwra pob cynllun gyda dyfeisiau ychwanegol, galwadau llesiant neu opsiynau ymateb lleol*.

Gallwch osod eich offer eich hun, neu gallwn ymweld â chi a gosod yr offer ar eich cyfer.

P'un a ydych chi'n byw ar eich pen eich hun, yn gofalu am rywun annwyl, neu ond eisiau tawelwch meddwl ychwanegol, rydyn ni yma i helpu – fel y gallwch fyw bywyd eich ffordd chi, gyda chefnogaeth ar gael bob amser pan fydd ei angen arnoch. 

Cipolwg ar y cynlluniau

Cymharwch ein cynlluniau a dewch o hyd i'r lefel gywir o gefnogaeth i chi

Delta yn y Cartref

Arhoswch yn annibynnol, gan wybod bod help ar gael bob amser ar gyffyrddiad botwm
Gyda Delta yn y Cartref, bydd gennych wasanaeth monitro diogelwch 24/7 a larwm llinell gymorth personol y gallwch ei wisgo o amgylch eich gwddf neu'ch arddwrn. Os oes angen help arnoch, pwyswch y botwm – bydd ein tîm yn ateb ar unwaith, unrhyw bryd, ddydd neu nos.
O £23y mis
O £253yn flynyddol (cewch 1 mis am ddim)

Pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain, neu ar gyfer teulu/gofalwyr sydd eisiau tawelwch meddwl neu sydd â phryderon achlysurol am ddiogelwch rhywun.

Larwm personol yn y cartref hawdd ei ddefnyddio – nid oes angen llinell ffôn, rydych chi'n ei blygio i mewn ac mae'n cysylltu'n awtomatig â'r signal 4G cryfaf neu'ch rhyngrwyd cartref

Monitro 24/7 trwy ein canolfan fonitro

Uwchgyfeirio mewn argyfwng i'ch pobl gyswllt, ein hymatebwyr* neu'r gwasanaethau brys yn ôl yr angen

Galwad gychwynnol i'ch croesawu i'r gwasanaeth a galwadau misol i weld sut mae pethau

Pwyswch eich larwm os oes angen help arnoch. Bydd ein tîm yn siarad â chi drwy'r ddyfais ac yn trefnu eich bod yn cael y cymorth cywir, p'un ai trwy gysylltu â'ch teulu, anfon help, neu ffonio'r gwasanaethau brys.

O £23 y mis

neu talwch yn flynyddol a chael 1 mis am ddim (£253)

Ynghyd a wasanaeth gosod proffesiynol am £75**

Bydd ein tîm TEC yn ymweld â'ch cartref, yn gosod eich offer, ac yn dangos i chi sut i ddefnyddio popeth yn hyderus.

Fel rhan o'r gwasanaeth, byddwn hefyd yn adolygu amgylchedd eich cartref ac yn darparu argymhellion wedi'u personoli yn seiliedig ar gyngor gan Aseswr Dibynadwy – sef gweithiwr proffesiynol cymwys sy'n arbenigo mewn dod o hyd i atebion ymarferol i wneud eich cartref yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch.

Beth mae'n ei gynnwys:

Gosod eich offer yn llawn

Dangos sut i'w ddefnyddio gam wrth gam

Adolygiad o amgylchedd cartref ar gyfer diogelwch a hygyrchedd

Argymhellion ymarferol dan arweiniad arbenigedd Aseswr Dibynadwy

Edrychwch isod i ddarganfod a all ein tîm wneud gosodiadau yn eich ardal chi:

Sir Gaerfyrddin: SA14, SA15, SA16, SA17, SA18, SA19, SA20, SA31, SA32, SA33, SA34, SA35, SA38, SA39, SA40

Abertawe: SA1, SA2, SA3, SA4, SA5, SA6

Castell-nedd Port Talbot: SA7, SA8, SA10, SA11, SA12, SA13

Ceredigion: SA36, SA48

Sir Benfro: SA37, SA41, SA61, SA63, SA66, SA67, SA68, SA69, SA70, SA71, SA72, SA73

Powys: SA9, SY15, SY16, SY18, SY20, SY21, LD1, LD2, LD3, LD7, LD8, HR3

Fel arall, talwch un ffi £45 i osod y gwasanaeth – byddwn yn postio eich offer gyda chyfarwyddiadau hawdd eu dilyn – ar gael ledled y DU.

Os oes unrhyw gyflyrau meddygol hirdymor neu unrhyw anabledd gan y sawl sy'n defnyddio'r offer/gwasanaeth, nid ydych chi'n talu dim TAW. I wybod mwy. Darganfod mwy.

Delta Unrhyw Le

Arhoswch yn hyderus ac yn annibynnol, ble bynnag y bydd bywyd yn mynd â chi
Mae Delta Unrhyw Le yn eich cadw'n ddiogel, p'un a ydych chi gartref neu'n mynd o le i le. Rydym yn darparu larwm gwddf glyfar gyda system olrhain GPS ac offeryn canfod codwm. Os byddwch chi'n cwympo neu'n pwyso am help, gallwn ddod o hyd i chi yn gyflym ac anfon cymorth ar unwaith. Gallwch siarad â ni drwy'r ddyfais, sy'n ddelfrydol os ydych chi'n pryderu am fynd ar goll.
O £24.50y mis
O £269.50yn flynyddol (cewch 1 mis am ddim)

Pobl â chyflyrau iechyd, y rheiny sydd mewn perygl o gwympo neu unrhyw un sydd eisiau aros yn egnïol a hynny gyda sicrwydd ychwanegol.

Larwm gwddf glyfar

Offeryn canfod codwm awtomatig

Mae'n gweithio yn unrhyw le gan ddefnyddio GPS a 4G i'n helpu i ddod o hyd i chi mewn argyfwng

Cyfathrebu llais dwyffordd â'n tîm 24/7

Uwchgyfeirio mewn argyfwng i'ch pobl gyswllt, ein hymatebwyr* neu'r gwasanaethau brys yn ôl yr angen.

Os ydych chi'n cwympo neu angen help, bydd eich dyfais yn rhoi gwybod i ni'n awtomatig neu wrth bwyso botwm. Byddwn yn siarad â chi, yn dod o hyd i chi'n gyflym, ac yn trefnu eich bod yn cael y cymorth cywir.

O £24.50 y mis

neu talwch yn flynyddol a chael 1 mis am ddim (£269.50)

Ynghyd a wasanaeth gosod proffesiynol am £75**

Bydd ein tîm TEC yn ymweld â'ch cartref, yn gosod eich offer, ac yn dangos i chi sut i ddefnyddio popeth yn hyderus.
 
Fel rhan o'r gwasanaeth, byddwn hefyd yn adolygu amgylchedd eich cartref ac yn darparu argymhellion wedi'u personoli yn seiliedig ar gyngor gan Aseswr Dibynadwy – sef gweithiwr proffesiynol cymwys sy'n arbenigo mewn dod o hyd i atebion ymarferol i wneud eich cartref yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch.

Beth mae'n ei gynnwys:

Gosod eich offer yn llawn

Dangos sut i'w ddefnyddio gam wrth gam

Adolygiad o amgylchedd cartref ar gyfer diogelwch a hygyrcheddg un ffi £45 i osod yr offer yn ei le – byddwn yn postio eich offer gyda chyfarwyddiadau hawdd eu dilyn – ar gael ledled y DU

Argymhellion ymarferol dan arweiniad arbenigedd Aseswr Dibynadwy 

Edrychwch isod i ddarganfod a all ein tîm wneud gosodiadau yn eich ardal chi:

Sir Gaerfyrddin: SA14, SA15, SA16, SA17, SA18, SA19, SA20, SA31, SA32, SA33, SA34, SA35, SA38, SA39, SA40

Abertawe: SA1, SA2, SA3, SA4, SA5, SA6

Castell-nedd Port Talbot: SA7, SA8, SA10, SA11, SA12, SA13

Ceredigion: SA36, SA48

Sir Benfro: SA37, SA41, SA61, SA63, SA66, SA67, SA68, SA69, SA70, SA71, SA72, SA73

Powys: SA9, SY15, SY16, SY18, SY20, SY21, LD1, LD2, LD3, LD7, LD8, HR3

Fel arall, talwch un ffi £45 i osod y gwasanaeth – byddwn yn postio eich offer gyda chyfarwyddiadau hawdd eu dilyn – ar gael ledled y DU.

Os oes unrhyw gyflyrau meddygol hirdymor neu unrhyw anabledd gan y sawl sy'n defnyddio'r offer/gwasanaeth, nid ydych chi'n talu dim TAW. I wybod mwy. Darganfod mwy.

Ychwanegiadau

Uwchraddiwch i un neu'r ddau o becynnau Delta ar ei Ffordd a Delta Sgwrsio a'u hychwanegu at eich prif gynllun

Delta ar ei Ffordd

Help personol pan fydd ei angen arnoch fwyaf. Yr unig wasanaeth o'i fath yng Nghymru
I'r rheiny sydd angen tawelwch meddwl ychwanegol, mae Delta ar ei Ffordd yn cynnig gwasanaeth ymateb corfforol 24/7. Bydd ein hymatebwyr hyfforddedig yn ymweld â'ch cartref, i'ch helpu ar ôl codwm neu argyfwng anfeddygol arall.
O £26y mis
O £286y flwyddyn

Delta Sgwrsio

Ffordd syml o gadw mewn cysylltiad, cael eich cefnogi a chael tawelwch meddwl
Rydym yn darparu Delta Sgwrsio fel ychwanegiad i'r rheiny sy'n gwerthfawrogi cysylltiad rheolaidd a chymorth rhagweithiol. Rydym yn cynnig galwadau llesiant rheolaidd i wirio sut rydych chi'n teimlo, codi unrhyw broblemau, ac yn cadw eich teulu yn y darlun.
O £14y mis
O £154y flwyddyn

Synwyryddion ac ychwanegiadau clyfar yn y cartref

Rydym yn darparu ac yn gosod ystod o ddyfeisiau, larymau a synwyryddion cartref ychwanegol i'w hychwanegu at eich cynllun:

  • Larymau gwddf ychwanegol
  • Synwyryddion Codymau
  • Watshis Olrhain GPS
  • Larymau mwg
  • Larymau carbon monocsid
  • Synwyryddion tymheredd ystafell
  • Peiriannau dosbarthu moddion
  • Diogell allweddi
  • Synwyryddion drws
  • Clociau cof
  • Peiriannau galw cymorth gofal
  • Synwyryddion symud

Mae'r rhain yn rhoi amddiffyniad a chyfleustra ychwanegol i chi a thawelwch meddwl i'ch teulu a'ch gofalwyr.

*Ar gael ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth ymateb personol dim ond ar gael yn Sir Gaerfyrddin a rhai rhannau o Sir Benfro, Ceredigion, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

** Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth gosod dim ond ar gael yn Sir Gaerfyrddin, Powys a rhai rhannau o Sir Benfro, Ceredigion, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

Sut mae'n gweithio

O'r sefydlu i'r gefnogaeth — dyma sut mae'n gweithio
  • 01.
    Asesu eich anghenion Gallwn helpu i asesu eich anghenion, p'un ai ar gyfer monitro sylfaenol, gwiriadau llesiant, neu ymateb llawn mewn argyfwng. Gallwn wneud hyn ar y wefan, dros y ffôn neu yn bersonol.
  • 02.
    Dewiswch gynllun a dyfais(dyfeisiau) Dewiswch y cynllun a'r dyfeisiau iawn ar gyfer eich anghenion. Dewiswch Delta yn y Cartref neu Delta Unrhyw Le, ac ychwanegwch Delta Sgwrsio a/neu Delta ar ei Ffordd os ydych chi eisiau help ychwanegol.
  • 03.
    Monitro 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn Gall eich dyfeisiau olrhain symudiad, arwyddion hanfodol a chodymau, gan sicrhau diogelwch a chefnogaeth barhaus. Rydym yn monitro 24/7 gan gadw llygad ar rybuddion fel pwyso botwm a chodymau a gaiff eu canfod.
  • 04.
    Rhybuddion ac Ymateb Os oes rhywbeth o'i le, gall ein tîm gysylltu ag anwyliaid, ymateb ein hunain (mewn rhai ardaloedd yn unig) neu drosglwyddo i'r gwasanaethau brys os oes angen.
  • 05.
    Gwiriadau llesiant Mae ein tîm yn darparu gwiriadau rheolaidd i gefnogi eich llesiant a sicrhau eich bod chi'n ddiogel ac yn gyfforddus.

Dewiswch y gefnogaeth sy'n addas i'ch bywyd

Ar eich telerau chi, yn eich amser chi. Dim asesiadau. Dim rhestrau aros. Dim ond yr help sydd ei angen arnoch chi, pan fydd ei angen. Dewiswch eich cynllun heddiw neu ffoniwch ni ar 0300 333 2222.