Ffordd syml o gadw mewn cysylltiad, cael eich cefnogi a chael tawelwch meddwl
Rydyn ni'n deall bod angen mwy na dyfais ddiogelwch yn unig arnoch weithiau. Rydym yn darparu Delta Sgwrsio fel ychwanegiad i'r rheiny sy'n gwerthfawrogi cysylltiad rheolaidd a chymorth rhagweithiol. Mae ein hymgynghorwyr hyfforddedig yn cynnig galwadau llesiant rheolaidd i wirio sut rydych chi'n teimlo, codi unrhyw broblemau yn gynnar, ac (o gael caniatâd) yn cadw eich teulu neu'ch gofalwyr yn y darlun.
Ar gyfer pwy hwn
Pobl sy'n gwerthfawrogi cael galwadau rheolaidd, yn hoffi cael sgwrs, eisiau teimlo'n llai unig, neu sydd â theulu/gofalwyr sydd angen sicrwydd bod popeth yn iawn.
Beth mae'n ei gynnwys
Galwadau llesiant rheolaidd gyda'n hymgynghorwyr cyfeillgar hyfforddedig. Yn dibynnu ar eich dewisiadau a'ch anghenion, gallwch ddewis:
Galwadau wythnosol cyflym i roi sicrwydd a'r wybodaeth ddiweddaraf
Sgyrsiau hirach, mwy trylwyr bob mis er mwyn gallu siarad yn ddyfnach a rhoi cyngor
Beth all y galwadau hyn gwmpasu:
Llesiant cyffredinol a chefnogaeth emosiynol
Cynghorion ymarferol ar gyfer bywyd bob dydd
Sicrwydd ac arweiniad ar ddefnyddio eich offer
Diweddariadau dewisol i'r teulu
Arbenigedd a chyngor gan wasanaethau lleol os oes angen help neu gymorth ychwanegol arnoch
Sut mae'n gweithio
Rydyn ni'n eich ffonio i holi sut rydych chi'n teimlo a gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn a gallwn eich cyfeirio at gymorth lleol os oes angen. Os ydych chi eisiau, gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch teulu neu'ch gofalwyr hefyd.
Cost
I'w ychwanegu at eich prif gynllun am +£14 y mis
neu talwch yn flynyddol a chael 1 mis am ddim (£154)
Angen help i benderfynu? Rhowch gynnig ar ein cwis
Gallwn ni helpu i ddod o hyd i'r pecyn cywir i chi; dewiswch rhwng Delta yn y Cartref ar gyfer monitro dibynadwy 24/7 yn y cartref, neu Delta Unrhyw Le i'ch diogelu lle bynnag yr ydych chi. Gallwn hefyd weld a fyddech chi'n elwa o ychwanegu Delta Sgwrsio a / neu Delta ar ei Ffordd i gael tawelwch meddwl ychwanegol.
Question 1
Pe baech chi'n cael argyfwng gartref, fel codwm neu salwch sydyn, a fyddech chi'n teimlo'n hyderus y gallech chi gael help yn gyflym?
Question 2
Hoffech chi gael galwadau llesiant rheolaidd i wirio sut ydych chi, rhoi unrhyw gyngor a chefnogaeth, neu eich cysylltu â gweithgareddau lleol?
Question 3
Ydych chi'n byw ar eich pen eich hun, neu weithiau'n teimlo'n ynysig heb neb gerllaw i weld sut ydych chi?
Question 4
Ydych chi'n treulio amser y tu allan i'r cartref a byddech chi'n elwa o gael diogelwch wrth fynd o gwmpas y lle?
Question 5