Polisi Cwynion Llesiant Delta

Mae Llesiant Delta yn ymrwymedig i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw gwynion y gall fod gennych am ein gwasanaethau. Ein nod yw egluro unrhyw faterion y gallech fod yn ansicr yn eu cylch. Os yw'n bosibl, byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau y gallem fod wedi'u gwneud. Byddwn yn darparu unrhyw wasanaeth y mae gennych hawl i'w gael ond y gwnaethom fethu â'i gyflawni. Os gwnaethom rywbeth yn anghywir, byddwn yn ymddiheuro a, lle bo hynny'n bosibl, yn ceisio unioni pethau ichi. Ein nod yw dysgu o'n camgymeriadau a defnyddio'r wybodaeth a gawn o'r cwynion i wella ein gwasanaethau. 

Pryd y dylid defnyddio'r polisi hwn

Pan fyddwch chi'n mynegi eich pryderon neu'n cwyno i ni, byddwn fel arfer yn ymateb yn y ffordd yr ydym yn esbonio isod. 

Fodd bynnag, weithiau efallai y bydd gennych hawl statudol i apelio, er enghraifft, yn rhinwedd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Weithiau, efallai fod gennych bryder ynghylch materion nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y polisi hwn.  Mae enghreifftiau'n cynnwys ond heb eu cyfyngu i’r canlynol:

  • Pan fo achos cyfreithiol neu ymchwiliad parhaus
  • Hawliadau yswiriant posibl
  • Cwynion am Wasanaethau Cymdeithasol
  • Materion cyflogaeth, gan gynnwys pryderon ynghylch gweithwyr Llesiant Delta y tu allan i'r gweithle nad ydynt yn gysylltiedig â darparu gwasanaeth
  • Adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Honiadau o gamymddwyn difrifol a gweithgareddau troseddol gan swyddog

Yna byddwn yn eich cynghori sut i roi gwybod am eich pryderon.

Sut i fynegi pryderon neu gwyno'n ffurfiol 

Gallwch fynegi eich pryderon yn un o'r ffyrdd canlynol:

  • Gofynnwch i'r unigolyn rydych eisoes mewn cysylltiad ag ef am gopi o'n ffurflen. Dywedwch wrtho eich bod am i ni ddelio â'ch pryder yn ffurfiol.
  • Cysylltwch â ni ar 0300 333 2222 os ydych am wneud eich cwyn dros y ffôn, a byddwn yn ceisio datrys hyn mewn 24 awr.
  • E-bostiwch ni:contactus@deltawellbeing.org.uk
  • Ysgrifennwch atom: 
    • Y Tîm Cwynion
      Llesiant Delta Wellbeing Cyf
      Y Llawr 1af,
      Porth y Dwyrain,
      Llanelli. 
      SA15 3YF.

Fel arall, os oes gennych gŵyn ac nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a ddarperir i chi, gallwch gysylltu'n uniongyrchol ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Er nad yw'r AGC yn ymchwilio i gŵynion unigol, gallwch fynegi pryder a gellir defnyddio'r wybodaeth hon i lywio arolygiad yn y dyfodol. 

Mae copïau o'r polisi hwn a'r ffurflen gwyno ar gael yn Gymraeg, ac ar ffurf sain a phrint bras ar gais.

Ymdrin â'ch pryderon

  • Byddwn yn cydnabod eich pryder yn ffurfiol cyn pen 5 niwrnod gwaith ac yn rhoi gwybod ichi sut rydym yn bwriadu ymdrin ag ef.
  • Byddwn yn gofyn ichi ddweud wrthym sut yr hoffech inni gyfathrebu â chi ac a oes gennych unrhyw ofynion penodol, er enghraifft os oes angen ichi gael dogfennau mewn print bras.
  • Byddwn yn ymdrin â'ch pryder yn agored ac yn onest.
  • Byddwn yn sicrhau nad yw eich ymwneud â ni yn y dyfodol yn dioddef oherwydd eich bod wedi mynegi pryder neu wneud cwyn.

Fel arfer, byddwn yn gallu edrych ar eich pryderon yn unig os ydych yn rhoi gwybod inni amdano cyn pen 6 mis. Mae hyn oherwydd ei bod yn well ymchwilio i'ch pryderon tra bo'r materion yn dal i fod yn eglur ym meddyliau pawb.

Mewn achosion prin iawn, mae'n bosibl y byddwn yn gallu edrych ar bryderon sy'n dod i'n sylw yn hwyrach na hyn. Ond bydd yn rhaid ichi egluro pam nad ydych wedi gallu dod ag ef i’n sylw yn gynharach a bydd angen inni gael digon o wybodaeth ynghylch y mater er mwyn ein galluogi i roi ystyriaeth lawn iddo. Mewn unrhyw achos, ni fyddwn yn ystyried unrhyw bryderon am faterion a ddigwyddodd fwy na thair blynedd yn ôl.

Os ydych yn mynegi pryder ar ran rhywun arall, bydd angen iddo gydsynio eich bod yn gweithredu ar ei ran.

Beth os oes mwy nag un corff ynghlwm â'r mater?

Os yw’r gŵyn am gorff sy'n gweithio gyda ni, er enghraifft cwmni atgyweirio tai, mae'n bosibl y byddwch am godi'r mater yn anffurfiol gyda nhw gyntaf. Fodd bynnag, os ydych am fynegi eich pryder neu'ch cwyn yn ffurfiol, byddwn yn ymchwilio i hyn ein hunain ac yn ymateb ichi.

Os yw'r gŵyn mewn perthynas â gwasanaeth statudol, byddwn yn cysylltu â'r darparwr gwasanaeth a gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol hefyd i fynegi eich pryder/cwyn.

Ymchwiliad

Byddwn yn dweud wrthych pwy rydyn ni wedi gofyn i roi sylw i'ch cwyn neu'ch pryder. Os yw eich cwyn yn syml, byddwn fel arfer yn gofyn i rywun o'r maes gwasanaeth perthnasol i roi sylw i hyn ac ymateb ichi. Os yw'n fwy difrifol, efallai y byddwn yn cyfeirio hyn at uwch reolwr.  

Byddwn yn amlinellu ein dealltwriaeth o'ch pryderon ac yn gofyn ichi gadarnhau ein bod yn gywir. Byddwn hefyd yn gofyn ichi ddweud wrthym pa ganlyniad rydych yn gobeithio'i gael.

Os oes ateb syml i'ch problem, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn ichi a ydych yn hapus i dderbyn hyn. Er enghraifft, pan ofynnoch am wasanaeth a gallwn weld ar unwaith y dylech fod wedi’i gael, byddwn yn cynnig darparu’r gwasanaeth yn hytrach nag ymchwilio a chreu adroddiad.

Byddwn yn anelu at ddatrys pryderon mor gyflym â phosibl a byddwn yn disgwyl ymdrin â'r mwyafrif helaeth cyn pen 20 diwrnod gwaith. Os yw eich cwyn yn fwy cymhleth, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Rhoi gwybod ichi o fewn y cyfnod hwn pam rydym yn credu y gall gymryd mwy o amser i ymchwilio.
  • Dweud wrthych pa mor hir rydym yn disgwyl iddo gymryd.
  • Rhoi gwybod ichi lle rydym arni o ran yr ymchwiliad, a
  • Rhoi diweddariadau rheolaidd ichi, gan gynnwys dweud wrthych a all unrhyw ddatblygiadau newid ein hamcangyfrif gwreiddiol.

Bydd yr unigolyn sy'n ymchwilio i'ch pryderon yn anelu at gadarnhau'r ffeithiau yn gyntaf. 

Bydd maint yr ymchwiliad yn dibynnu ar ba mor gymhleth a pha mor ddifrifol yw'r materion a godwyd gennych. Mewn achosion cymhleth, byddwn yn llunio cynllun ymchwilio.

Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn gofyn am gael cwrdd â chi i drafod eich pryderon. 

Byddwn yn edrych ar dystiolaeth berthnasol. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth rydych wedi ei darparu, nodiadau o sgyrsiau, llythyrau, negeseuon e-bost, recordiadau dros y ffôn neu beth bynnag a all fod yn berthnasol i'ch pryder penodol. Os bydd angen, byddwn yn siarad â'r staff neu bobl eraill sydd ynghlwm â'r mater ac yn edrych ar ein polisïau, unrhyw hawliau cyfreithiol a chanllawiau.

Canlyniad

Os byddwn yn ymchwilio'n ffurfiol i'ch cwyn, byddwn yn rhoi gwybod ichi ynghylch yr hyn y byddwn yn ei ddarganfod. Os bydd angen, byddwn yn llunio adroddiad. Byddwn yn egluro sut a pham y daethpwyd i'n casgliadau. 

Os byddwn yn gweld ein bod wedi gwneud camgymeriad, byddwn yn dweud wrthych beth ddigwyddodd a pham. 

Os byddwn yn darganfod bod diffyg yn ein systemau neu'r ffordd rydym yn gweithredu, byddwn yn dweud wrthych beth ydyw a sut rydym yn bwriadu newid pethau er mwyn iddo beidio â digwydd eto. 

Os ydym yn gwneud camgymeriad, byddwn bob amser yn ymddiheuro amdano.

Unioni'r mater

Os na wnaethom ddarparu gwasanaeth ichi y dylech fod wedi'i gael, byddwn yn anelu at ei ddarparu yn awr, os yw hynny'n bosibl. Os na wnaethom rywbeth yn dda, byddwn yn ceisio'i gywiro. Os ydych ar eich colled o ganlyniad i gamgymeriad a wnaethpwyd gennym ni, byddwn yn ceisio eich rhoi yn y sefyllfa y byddech wedi bod ynddi pe baem wedi gwneud pethau'n iawn. 

Os oedd yn rhaid ichi dalu am wasanaeth eich hun, pan ddylem fod wedi'i darparu ar eich cyfer, neu os oeddech yn gymwys i gael cyllid nad oeddech wedi'i gael, byddwn yn ceisio ad-dalu'r gost. 

Yr Ombwdsmon

Os na fyddwn yn llwyddo i ddatrys eich cwyn, gallwch gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae'r Ombwdsmon yn annibynnol o holl gyrff y llywodraeth a gall edrych ar eich cwyn os ydych yn credu bod y canlynol wedi digwydd ichi yn bersonol, neu i'r unigolyn rydych yn cwyno ar ei ran:

  • Eich bod wedi cael triniaeth annheg neu wedi cael gwasanaeth gwael drwy ryw fethiant ar ran y darparwr gwasanaeth.
  • Eich bod wedi bod o dan anfantais yn bersonol gan fethiant yn y gwasanaeth neu eich bod wedi cael eich trin yn annheg.

Fel arfer mae'r Ombwdsmon yn disgwyl eich bod yn dod â'ch pryderon at ein sylw ni yn gyntaf, ac yn rhoi cyfle i ni unioni'r sefyllfa. Gallwch gysylltu â'r Ombwdsmon drwy:

  • Ffôn: 0300 790 0203
  • E-bost: holwch@ombwdsmon.cymru
  • Y wefan:www.ombwdsmon.cymru
  • Ysgrifennu at:  
    • Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 
      1 Ffordd yr Hen Gae
      Pencoed 
      CF35 5LJ

Mae sefydliadau eraill ar gael hefyd sy'n rhoi ystyriaeth i gŵynion. Er enghraifft, mae Comisiynydd y Gymraeg yn ymdrin â chwynion am wasanaethau yn Gymraeg. Gallwn roi cyngor ichi am sefydliadau o'r fath. 

Dysgu gwersi

Rydyn ni'n trin eich pryderon a'ch cwynion o ddifri ac yn ceisio dysgu o unrhyw gamgymeriadau rydym wedi'u gwneud. 

Pan fo angen gwneud newidiadau sylweddol, byddwn yn datblygu cynllun gweithredu sy'n amlinellu'r hyn y byddwn yn ei wneud, pwy fydd yn ei wneud a pha bryd y byddwn yn bwriadu ei wneud. Byddwn yn rhoi gwybod ichi pan fydd y newidiadau rydym wedi addo eu gwneud wedi cael eu cwblhau.

Beth os oes angen cymorth arnoch? 

Bydd ein staff yn ceisio eich helpu i roi gwybod inni am eich pryderon. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, byddwn yn ceisio eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun a all helpu. Efallai yr hoffech gysylltu â sefydliadau megis Cyngor ar Bopeth, Age Cymru neu Shelter a fydd yn gallu eich cynorthwyo o bosibl.

Beth yr ydym yn ei ddisgwyl gennych chi

Ar adegau helbulus neu ofidus, efallai y bydd rhai pobl yn ymddwyn yn groes i'w cymeriad. Efallai y bu amgylchiadau annifyr neu ofidus a arweiniodd at y pryderon neu'r gŵyn. Nid ydym yn ystyried ymddygiad yn annerbyniol oherwydd bod rhywun yn ymddwyn mewn modd grymus neu benderfynol yn unig.

Credwn fod gan yr holl achwynwyr yr hawl i gael eu clywed, eu deall a'u parchu. Fodd bynnag, rydym hefyd yn credu bod gan ein staff yr un hawliau. Felly, rydym yn disgwyl ichi fod yn gwrtais ac yn foneddigaidd wrth ymwneud â ni. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad ymosodol na sarhaus, gofynion afresymol neu ddyfalbarhad afresymol. Mae gennym bolisi ar wahân i reoli sefyllfaoedd pan fo gweithrediadau rhywun yn annerbyniol.