Mae'r ddogfen hon yn esbonio eich hawliau a'ch rhwymedigaethau wrth ddefnyddio gwasanaethau Llesiant Delta. Mae gennych yr hawl i gael gwybodaeth glir, triniaeth deg, ac i ganslo o fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn eich offer. Darllenwch y ddogfen yn ofalus a chysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Byddwch yn cael copi o'r Telerau ac Amodau hyn a'r holl wybodaeth allweddol drwy e-bost neu'r post. Cadwch y ddogfen hon ar gyfer eich cofnodion.

Gwybodaeth gryno:

Gwybodaeth Allweddol Manylion
Darparwr Llesiant Delta Wellbeing Cyf
Manylion Cyswllt Rhestrir cyfeiriad, rhif ffôn ac e-bost isod
Disgrifiad o’r Gwasanaeth Gweler Adran 2–3
Hyd ac Adnewyddu'r Contract Contract misol; adnewyddu'n awtomatig bob mis nes ei ganslo
Cyfanswm y Pris (gan gynnwys TAW/taliadau) Gweler Adran 4
Y Dull Talu Debyd Uniongyrchol trwy GoCardless
Danfon/Gosod Gweler Adran 6
Hawliau Canslo 14 diwrnod ar ôl danfon; Gweler Adran 9
Sut i Ganslo Ffôn, e-bost, post neu ffurflen ganslo
Polisi Defnydd Teg Gweler Adran 10
Y Weithdrefn Gwynion Gweler Adran 13
Diogelu Data Cydymffurfio â GDPR; gweler Adran 12

 

1. Gwybodaeth y Darparwr

Llesiant Delta Wellbeing Cyf
Uned 2, Ystâd Ddiwydiannol Dafen, Heol Aur, Dafen, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA14 8QN
Rhif ffôn: 0300 333 2222
E-bost: contactus@deltawellbeing.org.uk
Cwynion: complaints@deltawellbeing.org.uk neu’r Tîm Cwynion, Delta Wellbeing Ltd, Llawr 1af, Porth y Dwyrain, Llanelli, SA15 3YF

Codir tâl ar gyfradd sylfaenol yn unig ar gyfer pob llinell alwad (dim rhifau ffôn cyfradd uwch).

 

2. Trosolwg o'r Gwasanaeth

Mae Llesiant Delta yn cynnig ystod o wasanaethau gofal trwy gymorth technoleg (TEC) o dan gynnig Delta i Chi. Gall cwsmeriaid ddewis o blith y cynlluniau canlynol:

  • Delta yn y Cartref: Dyfais larwm personol sy'n uwchgyfeirio mewn argyfwng a'n monitro 24/7.
  • Delta Unrhyw Le: Larwm gwddf neu oriawr wedi'i alluogi gan GPS sy'n canfod codwm, llais dwy ffordd, ac olrhain lleoliad.
  • Delta Sgwrsio: Galwadau llesiant rheolaidd, diweddariadau dewisol i deuluoedd, cydlynu/cyfeirio gwasanaeth lleol a chyngor.
  • Delta ar ei Ffordd: dod draw yn gorfforol ar gyfer argyfyngau 24/7, offer codi arbenigol, a gwiriadau dilynol.

Mae'r holl offer yn cael eu rhentu fel rhan o'ch gwasanaeth parhaus a rhaid eu dychwelyd os yw'r gwasanaeth yn dod i ben. Mae'n bosibl y bydd dyfeisiau ychwanegol (e.e., bocs allwedd, larymau mwg, dosbarthwyr meddyginiaeth) yn cael eu prynu'n llwyr.

Mae eich contract yn gytundeb misol heb isafswm cyfnod. Mae hyn yn golygu y bydd eich gwasanaeth yn adnewyddu'n awtomatig bob mis oni bai eich bod yn dewis canslo.

Byddwn ni'n darparu cadarnhad o'ch contract, gan gynnwys manylion eich archeb a'ch hawliau canslo, trwy e-bost neu'r post ar ôl cofrestru.

 

3. Beth mae'n ei gynnwys

Delta yn y Cartref

  • Dyfais larwm personol (gwddf neu arddwrn)
  • Monitro 24:7
  • Uwchgyfeirio mewn argyfwng i bobl sy’n enwau cyswllt, ymatebwyr (ble maent ar gael), neu wasanaethau brys
  • Galwad gychwynnol i'ch croesawu
  • Rhaglennu offer sy'n cael eu hanfon atoch yn y post – y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw eu gosod yn y soced neu;
  • Gwaith gosod proffesiynol dewisol (mewn rhai ardaloedd)
  • Synwyryddion ac ychwanegiadau clyfar yn y cartref ar gael

Delta Unrhyw Le

  • Larwm gwddf neu oriawr glyfar wedi'i alluogi gan GPS
  • Monitro 24:7
  • Offeryn canfod codwm awtomatig
  • Yn gweithio yn unrhyw le gyda GPS a 4G
  • Cyfathrebu llais dwyffordd
  • Uwchgyfeirio mewn argyfwng
  • Rhaglennu offer sy'n cael eu hanfon atoch yn y post – y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw eu gosod yn y soced neu
  • Gwaith gosod proffesiynol dewisol (mewn rhai ardaloedd)

Delta Sgwrsio

  • Galwadau llesiant rheolaidd
  • Diweddariadau dewisol i'r teulu
  • Gwybodaeth, arwyddion a chyngor gwasanaethau lleol

Delta ar ei Ffordd (rhai ardaloedd)

  • Dod draw yn gorfforol ar gyfer argyfyngau 24/7
  • Amserlennu blaenoriaeth a chefnogaeth
  • Offer codi arbenigol
  • Gwiriadau dilynol ac uwchgyfeirio i'r teulu neu'r gwasanaethau brys
  • Angen bocs allwedd i gael mynediad

Mae rhai gwasanaethau yn cynnwys cynnwys digidol, fel dyfeisiau GPS gyda SIM, synwyryddion smart, monitro llesiant sy'n cael ei yrru gan ddata, a chydrannau sy'n seiliedig ar app.

  • Ymarferoldeb technegol: Mae'r gwasanaethau hyn yn gofyn am offer a chysylltedd cydweddol, fel rhyngrwyd band eang, rhwydwaith symudol (SIM), neu ffôn clyfar neu lechen sy’n cydweddu.
  • Cydweddoldeb: Gwiriwch ofynion dyfais cyn prynu. Efallai y bydd angen ffôn clyfar i ddefnyddio rhai pethau sy'n cynnwys system weithredu â chefnogaeth (iOS neu Android), band eang gweithredol, neu signalau data symudol.

 

4. Costau a thaliad

Delta yn y Cartref: £20 y mis (heb gynnwys TAW); ffi sefydlu untro £45 (gosod eich hunain) neu £70 (cael rhywun proffesiynol i osod mewn rhai ardaloedd).

Delta Unrhyw Le: £20 y mis (heb gynnwys TAW); ffi sefydlu untro £45 (gosod eich hunain) neu £70 (cael rhywun proffesiynol i osod mewn rhai ardaloedd).

Delta Sgwrsio: Ychwanegiad am £12 y mis (gan gynnwys TAW).

Delta ar ei Ffordd: Ychwanegiad am £22/mis (gan gynnwys TAW).

  • Mae'r holl daliadau yn cael eu casglu trwy Ddebyd Uniongyrchol gan GoCardless. Rydych chi'n cael eich diogelu o dan y Warant Debyd Uniongyrchol. Mae ad-daliadau yn cael eu prosesu i'r un cyfrif banc a ddefnyddir ar gyfer talu.
  • Gallwch roi'r gorau i daliadau rheolaidd a dod â'ch contract i ben ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni dros y ffôn, e-bost, post neu lenwi'r ffurflen ganslo a ddarperir. Ar ôl i chi roi gwybod i ni, bydd eich contract a'ch taliadau yn dod i ben ar ddiwedd eich cyfnod bilio misol cyfredol.
  • Bydd unrhyw daliadau ychwanegol neu ychwanegiadau dewisol dim ond yn cael eu cymhwyso gyda'ch caniatâd.
  • Ni ellir ad-dalu'r ffi gosod neu sefydlu ar ôl i'r gwasanaeth ddechrau, hyd yn oed os ydych chi'n arfer eich hawl i ganslo o fewn y cyfnod ail-feddwl. Bydd hyn yn cael ei gyfathrebu'n glir cyn i chi gytuno i ddechrau'r gwasanaeth.

 

5. TAW

  • Os yw'r defnyddiwr gwasanaeth ag afiechyd cronig neu'n anabl (at ddibenion TAW) a bod yr offer yn cael eu defnyddio at ddibenion personol, ni fydd yn rhaid iddo dalu TAW ar offer a gosodiadau llinell cymorth cymwys, ar yr amod ei fod yn cwblhau datganiad rhyddhad TAW o dan Hysbysiad CThEF 701/7. O ganlyniad, codir cyfradd TAW o sero ar y rhan fwyaf o'n cwsmeriaid llinell gymorth.
  • Er mwyn bod yn gymwys i gael cyfradd TAW o sero o dan Hysbysiad CThEF 701/7, rhaid i'r defnyddiwr gwasanaeth gwblhau datganiad rhyddhad TAW person anabl. Mae'r ffurflen hon yn cael ei darparu trwy e-bost neu wrth wneud y gwaith gosod.
  • Mae rhyddhad TAW (sgôr sero) yn berthnasol i offer llinell gymorth a gwasanaethau monitro (Delta yn y Cartref a Delta Unrhyw Le) yn unig lle mae'r defnyddiwr gwasanaeth yn cwblhau datganiad rhyddhad TAW person anabl. Nid yw gwasanaethau eraill, fel Delta Sgwrsio a Delta ar ei Ffordd, yn gymwys ac maen nhw'n cael eu codi ar y gyfradd TAW safonol.

 

6. Archebu, danfon a gosod

  • Gallwch gyflwyno archeb ar-lein neu dros y ffôn.
  • Mae danfoniad safonol wedi'i gynnwys; mae offer yn cael eu hanfon o fewn 2-3 diwrnod gwaith.
  • Darperir cyfarwyddiadau hunan-osod. Mae gosodiad proffesiynol ar gael mewn rhai ardaloedd; bydd gosodiad proffesiynol yn cael ei drefnu o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl cofrestru. Byddwch yn cael galwad i drafod eich anghenion a threfnu'r gwaith gosod.
  • Mae'r offer yn gweithio gyda band eang neu gerdyn SIM.

 

7. Perchnogaeth offer a dychwelyd offer

  • Mae'r offer yn cael eu rhentu ac maent yn parhau i fod yn eiddo i Lesiant Delta. Rhaid dychwelyd yr offer mewn cyflwr da o fewn 14 diwrnod ar ôl canslo neu ddiwedd y contract.
  • Os na chaiff offer eu dychwelyd o fewn 14 diwrnod, efallai y byddan nhw yn cael eu hystyried ar goll neu wedi'u difrodi ac efallai y codir tâl arnoch am rai newydd.
  • Os ydych yn prynu ychwanegiadau (e.e., bocs allwedd, larymau mwg) chi fydd yn berchen arnyn nhw.
  • Os yw'r offer yn ddiffygiol neu'n anghywir, bydd yr holl gostau dychwelyd ac amnewid yn cael eu talu gan Lesiant Delta. Fel arall, rydych chi'n gyfrifol am y tâl postio nôl.

 

8. Offer diffygiol, wedi'u difrodi neu ar goll

  • Bydd offer diffygiol yn cael eu hatgyweirio neu eu cyfnewid gan Lesiant Delta.
  • Os ydych chi'n colli neu'n difrodi offer, rydych chi'n gyfrifol am gostau prynu offer newydd.
  • Nid yw difrod bach neu arwynebol yn cael ei gwmpasu. .

 

9. Canslo ac ad-daliadau

Hawl i Ganslo
Mae gennych yr hawl i ganslo'ch contract o fewn 14 diwrnod o'r diwrnod ar ôl i chi dderbyn yr offer, i gael ad-daliad llawn o'r holl ffioedd gwasanaeth. Ni ellir ad-dalu'r ffi gosod neu sefydlu. Mae hyn yn berthnasol p'un a ydych wedi defnyddio'r gwasanaeth yn ystod y cyfnod ail-feddwl 14 diwrnod ai peidio.

I ganslo, cysylltwch â Llesiant Delta dros y ffôn, e-bost neu'r post. Gallwch ddefnyddio'r ffurflen ganslo enghreifftiol a ddarperir ar ddiwedd y ddogfen hon, ond nid yw'n orfodol.

Bydd ad-daliadau yn cael eu gwneud o fewn 14 diwrnod ar ôl canslo. Efallai y byddwn yn oedi'r ad-daliad nes bod yr offer wedi'u dychwelyd a'u harchwilio.

Rhaid i chi ddychwelyd yr offer o fewn 14 diwrnod ar ôl rhoi gwybod i ni am ganslo. Byddwch yn talu'r gost uniongyrchol o ddychwelyd yr offer oni chytunwyd fel arall. Os nad oes modd dychwelyd yr offer drwy'r post, byddwn yn rhoi gwybod i chi am y gost neu'n trefnu casglu'r offer.

Os byddwch yn trin yr offer tu hwnt i’r hyn sydd ei angen i sefydlu ei natur, ei nodweddion a’r modd mae’n gweithio, efallai y byddwch yn atebol am unrhyw ostyngiad mewn gwerth. Mae hyn yn golygu, os yw'r offer yn cael eu dadbacio, eu defnyddio neu eu difrodi mewn ffordd sy'n mynd y tu hwnt i archwiliad rhesymol, efallai y byddwn yn tynnu swm o'ch ad-daliad i adlewyrchu’r gwerth llai.

 

10. Nodweddion a gofynion gwasanaeth

Byddwn ni'n darparu pob gwasanaeth gyda gofal a sgiliau rhesymol ac o fewn amser rhesymol. .

  • Monitro: Monitro 24/7 ac uwchgyfeirio mewn argyfwng.
  • Ymateb: Presenoldeb wyneb yn wyneb ar gael mewn rhai ardaloedd dethol; angen bocs allwedd i gael mynediad.
  • Galwadau ynglŷn â llesiant:: Galwadau rheolaidd ar gyfer cwsmeriaid Delta Sgwrsio.
  • Dyfeisiau ychwanegol a synwyryddion clyfar: Ystod o ddyfeisiau ychwanegol ar gael ar gyfer amddiffyniad ychwanegol.

Mae pob galwad yn cael ei gofnodi ar gyfer hyfforddiant a monitro ac ar gyfer diogelwch a gweinyddu contractau ac yn cael eu storio yn unol â GDPR. Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd ar ein gwefan.

Byddwn yn mynd i mewn i'ch eiddo mewn argyfyngau fel y cytunwyd.

Polisi Defnydd Teg
Mae'n ofynnol i chi gydymffurfio â'n Polisi Defnydd Teg, sy'n nodi defnydd rhesymol o'r gwasanaeth, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ba mor aml ydych chi'n defnyddio'r llinell gymorth a cheisiadau am ymateb personol i'ch cartref. Mae'r Polisi Defnydd Teg wedi'i gynllunio i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fod yn effeithiol ac ar gael i bob cwsmer. Gall torri'r Polisi Defnydd Teg arwain at adolygiad o'ch darpariaeth gwasanaeth neu ffioedd ychwanegol, fel y nodir yn y polisi.

 

11. Bocs allwedd (os yw'n berthnasol)

  • Os yw'r bocs allwedd wedi ei osod, rydych chi'n cytuno i ganiatáu i Lesiant Delta wybod rhif y bocs allwedd i gael mynediad brys.
  • Rydych chi'n gyfrifol am roi gwybod i'ch cwmni yswiriant.
  • Nid yw Llesiant Delta yn gyfrifol am atgyweiriadau strwythurol neu gosmetig ar ôl i'r bocs allwedd gael ei dynnu bant.

 

12. Preifatrwydd a diogelu data

Mae Llesiant Delta yn cydymffurfio â GDPR ac mae wedi'i ardystio gan Cyber Essentials. Mae'r holl ddata personol yn cael ei storio a'i drin yn ddiogel. Mae Hysbysiad Preifatrwydd ar gael ar gais ac ar ein gwefan.

 

13. Cwynion ac adborth

Os oes gennych bryderon neu gwynion, cysylltwch â ni dros y ffôn, e-bost neu'r post. Ein nod yw datrys cwynion yn gyflym a rhoi gwybod i chi.

 

14. Hawliau statudol

Nid oes unrhyw beth yn y telerau hyn sy’n effeithio ar eich hawliau statudol. Rhaid i nwyddau a gwasanaethau gydymffurfio â'r contract. Os ydych chi'n credu nad yw eich hawliau wedi'u bodloni, cysylltwch â ni. O dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015, mae hawl gyda chi i gael bod yr offer wedi’u hatgyweirio, eu newid neu gael ad-daliad amdanyn nhw os ydynt yn ddiffygiol neu ddim fel y disgrifir.

 

15. Newidiadau i'r telerau

  • Rhaid i chi a Llesiant Delta gytuno'n benodol ar unrhyw newidiadau i'r telerau ac amodau hyn i fod yn gyfreithiol rwymol.
  • Bydd newidiadau i gostau yn digwydd yn flynyddol ym mis Ebrill. Byddwch yn cael gwybod o leiaf 28 diwrnod ymlaen llaw.
  • Mae gennych yr hawl i ganslo eich contract os nad ydych yn derbyn y taliadau newydd.

 

16. Telerau ychwanegol

Mae'n ofynnol i chi:

  • Cadw offer mewn cyflwr da a chynnal prawf misol i'n canolfan fonitro.
  • Rhoi gwybod i ni yn brydlon am unrhyw ddiffygion, newid cyfeiriad, newidiadau i'ch manylion cyswllt iechyd neu argyfwng. Mae hyn yn helpu i sicrhau eich diogelwch ac effeithiolrwydd ein gwasanaeth.
  • Dychwelyd offer pan nad oes eu hangen mwyach.

 

17. Atal neu derfynu contract am dorri telerau

Rydym yn cadw'r hawl i atal neu derfynu eich contract ar gyfer unrhyw un o'r gwasanaethau neu'r offer rhent os byddwch yn torri unrhyw delerau perthnasol o'r Telerau ac Amodau hyn, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) methu â thalu’r taliadau pan fyddant yn ddyledus neu unrhyw gamddefnydd o'r gwasanaeth. Os credwn fod tor-contract wedi digwydd, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio'r mater ac yn amlinellu'r camau y gallwn eu cymryd cyn atal neu derfynu'r gwasanaeth. Os oes angen terfynu'r contract, byddwn yn eich hysbysu'n ysgrifenedig a bydd y terfyniad yn dod i rym ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.