Cyffredinol

Mae Llesiant Delta yn ddarparwr gwasanaethau gofal trwy gymorth technoleg (TEC) dibynadwy, sy'n helpu pobl i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel gartref. Rydym yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin ac sydd â mwy na 30 mlynedd o brofiad o gefnogi unigolion, teuluoedd a gofalwyr. Rydym yn cynnig amrywiaeth o offer ac opsiynau cymorth sydd wedi'u cynllunio i roi tawelwch meddwl i ddefnyddwyr a'u teuluoedd.

Rydyn ni'n darparu amrywiaeth hyblyg o gynlluniau cymorth, gan gynnwys larymau personol a llinellau cymorth, synwyryddion codymau, offerynnau olrhain GPS, yn ogystal ag amryw o ddyfeisiau eraill a synwyryddion cartref, ynghyd â galwadau llesiant ac ymateb mewn argyfwng 24/7. Mae'r gwasanaethau wedi'u teilwra i'ch anghenion, p'un a ydych chi eisiau sicrwydd sylfaenol neu gymorth cynhwysfawr. Ein nod yw sicrhau bod help bob amser wrth law pryd bynnag y bydd ei angen.

Rydyn ni'n cefnogi unrhyw un sydd angen sicrwydd neu gefnogaeth gartref:

  • Oedolion hŷn a phobl agored i niwed sy'n byw ar eu pennau eu hunain
  • Pobl â chyflyrau iechyd hirdymor neu anableddau
  • Aelodau o'r teulu sy'n ceisio tawelwch meddwl ynghylch perthnasau
  • Gofalwyr di-dâl, cymdogion a ffrindiau
  • Unrhyw un sydd eisiau aros yn annibynnol ond yn ddiogel

Mae Delta i Chi yn ffordd hawdd o archebu offer teleofal yn syth gennym ni. Gallwch ddewis y gwasanaeth sy'n addas i chi a gellir teilwra pob cynllun gyda dyfeisiau ychwanegol, galwadau llesiant neu opsiynau ymateb lleol (ar gael mewn rhai ardaloedd).

Mae cwsmeriaid yn rhentu'r offer fel rhan o'u gwasanaeth parhaus. Mae'r offer hwn yn parhau i fod yn eiddo i Llesiant Delta a rhaid ei ddychwelyd os yw'r gwasanaeth yn dod i ben. Fodd bynnag, gellir prynu dyfeisiau ychwanegol yn gyfan gwbl i'w hychwanegu at eich cynllun, fel diogell allweddi, larymau mwg neu beiriannau dosbarthu moddion a bydd y rhain yn eiddo i chi.

Gallwch, gallwch uwchraddio'ch cynllun i ychwanegu ein gwasanaethau Delta Sgwrsio a/neu Delta ar ei Ffordd yn ogystal â dyfeisiau ac offer eraill (e.e. synwyryddion codymau, watshis GPS, larymau mwg, peiriannau dosbarthu moddion) ar unrhyw adeg.

Os oes gennych gyflwr meddygol hirdymor neu anabledd, efallai y byddwch yn gymwys i gael eithriad TAW ar offer a gwasanaethau. Rhagor o wybodaeth.

Mae ein gwasanaethau monitro a theleofal wedi'u hachredu'n llawn o dan Fframwaith Safonau Ansawdd TEC (QSF) i sicrhau eich bod yn derbyn gwasanaeth diogel a dibynadwy. Caiff ein gwasanaeth ymateb ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru  i ddarparu cymorth diogel o safon uchel.

Rydym yn cymryd diogelu data o ddifrif. Caiff yr holl wybodaeth bersonol ei thrin yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a'i storio'n ddiogel. Rydyn ni hefyd wedi ein hardystio o ran Hanfodion Seiber, gan ddangos ein seilwaith, ein systemau a'n prosesau cadarn i ddiogelu data a sicrhau'r safonau uchaf o ran diogelwch gwybodaeth ar draws ein holl wasanaethau. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Archebu a chyflenwi

Gallwch archebu ar-lein neu dros y ffôn. Os oes angen help arnoch i ddewis y cynllun iawn, mae ein tîm cyfeillgar yn hapus i roi arweiniad i chi.

Rydyn ni'n defnyddio GoCardless, gwasanaeth Debyd Uniongyrchol ar-lein diogel. Pan fyddwch chi'n cofrestru, byddwn yn anfon dolen atoch i dudalen dalu ddiogel GoCardless lle gallwch roi eich manylion banc ac awdurdodi taliadau.

Dim ond munud y mae'n cymryd i'w sefydlu, a byddwch chi'n cael eich diogelu'n llawn o dan y Warant Debyd Uniongyrchol. Unwaith y bydd eich awdurdodiad wedi'i gwblhau, bydd eich taliadau'n cael eu casglu'n awtomatig – naill ai fel taliad untro neu fel cynllun misol rheolaidd, yn dibynnu ar y gwasanaeth rydych chi'n ei ddewis.

Ydy, mae miloedd o sefydliadau ar hyd a lled y DU yn defnyddio GoCardless. Caiff yr holl daliadau eu trafod yn ddiogel trwy systemau wedi'u hamgryptio, ac ni fydd eich manylion byth yn cael eu rhannu ag unrhyw un arall. Rydych hefyd wedi'ch diogelu gan y Warant Debyd Uniongyrchol, sy'n golygu bod gennych hawl i ad-daliad llawn ac ar unwaith gan eich banc os cymerir taliad mewn camgymeriad.

Os oes ad-daliad yn ddyledus i chi, byddwn yn ei brosesu trwy GoCardless gan ddefnyddio'r un cyfrif banc a ddefnyddiwyd gennych i wneud eich taliad. Ar ôl i ni roi'r ad-daliad, fel arfer bydd yn ymddangos yn eich cyfrif o fewn 5–10 diwrnod gwaith, yn dibynnu ar amseroedd prosesu eich banc. Byddwn yn cadarnhau trwy e-bost pan fydd eich ad-daliad wedi'i drefnu.

Byddwn yn anfon eich archeb o fewn ychydig ddyddiau gwaith ar ôl i'ch archeb gael ei phrosesu. Byddwch yn derbyn cadarnhad unwaith y bydd ar y ffordd. Gall ein tîm TEC hefyd ddarparu gwasanaeth gosod proffesiynol mewn rhai ardaloedd ac fel arfer gellir trefnu hyn o fewn 10 diwrnod gwaith i'ch archeb.

Mae danfoniad safonol wedi'i gynnwys ym mhob archeb.

Ydyn, rydyn ni'n dosbarthu i bob ardal o'r DU.

Gallwch, mae'r holl offer yn dod gyda chyfarwyddiadau hawdd i'w dilyn er mwyn i chi osod yr offer eich hun. Mae gwasanaeth gosod proffesiynol gan ein tîm TEC pwrpasol hefyd ar gael yn Sir Gaerfyrddin, Powys a rhai rhannau o Sir Benfro, Ceredigion, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Ydyn, gallwn naill ai anfon eich offer yn barod i chi ei osod eich hun neu, mewn rhai ardaloedd, gallwn drefnu bod un o'n gosodwyr TEC hyfforddedig yn ymweld â'ch cartref os byddai'n well gennych i osod yr offer a dangos i chi sut i ddefnyddio popeth.  Fel rhan o'r gwasanaeth, byddwn hefyd yn adolygu amgylchedd eich cartref ac yn darparu argymhellion wedi'u personoli yn seiliedig ar gyngor gan Aseswr Dibynadwy – sef gweithiwr proffesiynol cymwys sy'n arbenigo mewn dod o hyd i atebion ymarferol i wneud eich cartref yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin, Powys a rhai rhannau o Sir Benfro, Ceredigion, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Uned llinell gymorth a larwm gwddf

Gosod

Gallwch ddewis eu gosod eich hun neu ddefnyddio ein gwasanaeth gosod proffesiynol sydd ar gael ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin, Powys a rhai rhannau o Sir Benfro, Ceredigion, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Er mwyn gosod yr offer eich hun, byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau clir. Ar gyfer y gwasanaeth gosod proffesiynol, bydd un o'n tîm TEC yn ymweld â'ch cartref, yn gosod yr offer ac yn dangos i chi sut i'w ddefnyddio, yn ogystal ag adolygu amgylchedd eich cartref a darparu argymhellion wedi'u personoli yn seiliedig ar gyngor gan Aseswr Dibynadwy – sef gweithiwr proffesiynol cymwys sy'n arbenigo mewn dod o hyd i atebion ymarferol i wneud eich cartref yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch.

  • Llinell dir ffôn, llwybrydd rhyngrwyd neu signal ffôn symudol (mae unedau SIM yn unig ar gael)
  • Soced pŵer
  • O leiaf un person cyswllt mewn argyfwng

Mae ein hoffer yn gweithio gyda systemau ffôn analog neu ddigidol. Os nad oes gennych linell dir ffôn neu gysylltiad rhyngrwyd, mae gennym opsiwn llinell gymorth SIM yn unig y byddwn yn ei brofi a'i gysylltu â'r darparwr ffôn symudol cryfaf posibl. Mae angen ffynhonnell bŵer hefyd.

Mae'n cymryd llai na 15 munud fel arfer i osod yr offer eich hun. Mae apwyntiadau gosod proffesiynol yn para tua 30–45 munud, gan y bydd ein tîm TEC yn cynnal asesiad wedi'i bersonoli, yn dangos sut i ddefnyddio'r offer ac yn ei brofi.

Os ydych chi'n dewis gwasanaeth gosod proffesiynol, bydd ein tîm TEC yn gosod yr offer ac yn dangos i chi sut i'w ddefnyddio. Er mwyn gosod yr offer eich hun, byddwch yn derbyn canllaw defnyddiwr a gallwch ffonio ein tîm cymorth am help.

Uned llinell gymorth a larwm gwddf

Sut mae'n gweithio

Ar ôl ei osod, byddwch yn derbyn larwm gwddf (i'w wisgo o gwmpas eich gwddf neu ar yr arddwrn). Os oes angen help arnoch, pwyswch y botwm. Byddwch yn cael eich cysylltu'n syth â'n tîm monitro 24/7 a fydd yn siarad â chi drwy'r uned, yn asesu'r sefyllfa ac yn trefnu cymorth os oes angen trwy gysylltu â'ch pobl gyswllt mewn argyfwng, anfon ein tîm ymateb (os yw'n rhan o'ch cynllun) neu ffonio'r gwasanaethau brys. Mae'r uned llinell gymorth wedi'i rhaglennu gyda'ch manylion, felly mae ein tîm yn gwybod pwy sy'n ffonio a pha gymorth y gallai fod ei angen arnoch. Cadwch eich uned wedi'i phlygio i mewn bob amser a gwisgwch eich larwm gwddf bob amser yn ystod eich oriau effro.

Bydd, bydd y rhan fwyaf o larymau yn gweithio yn yr ardd, ond bydd cyrhaeddiad y larwm yn cael ei wirio wrth ei osod. Os ydych y tu allan ac nad yw'n bosibl eich clywed, bydd eich pobl gyswllt neu ein hymatebwyr/y gwasanaethau brys yn cael eu hanfon i wneud yn siŵr eich bod yn iawn.

Gallwch, gallwch wisgo'r larymau gwddf yn y bath neu'r gawod, cyn belled nad ydynt yn mynd yn gyfan gwbl o dan y dŵr. Mae llinynnau larwm gwddf neu strapiau garddwrn ychwanegol ar gael ar gais.

Rhowch wybod i'r ymgynghorydd, mae'n gyfle da i brofi'r system.

Ffoniwch ni ar 0300 333 2222 i drefnu cymorth cynnal a chadw. Byddwn yn trefnu bod yr offer yn cael ei drwsio neu eich bod yn cael offer newydd os oes angen.

Rydym yn argymell eich bod yn pwyso'ch larwm gwddf unwaith y mis i wneud yn siŵr bod popeth yn gweithio'n iawn. Dywedwch wrth yr ymgynghorydd eich bod chi'n gwneud galwad brawf. 

Os ydych chi allan o gyrhaeddiad neu mewn rhan o'r tŷ lle nad oes modd eich clywed, bydd ein hymgynghorwyr yn ceisio eich ffonio. Os na fyddwch chi'n ateb, byddant yn cysylltu â'ch pobl gyswllt mewn argyfwng neu'n anfon help fel sy'n briodol.

Mae gan yr uned sylfaenol fatri wrth gefn a fydd yn para m hyd at 72 awr. Os yw eich dyfais wedi'i chysylltu â llwybrydd, holwch eich darparwr band eang beth yw eich opsiynau o ran batri wrth gefn. Bydd ein tîm yn dal i dderbyn rhybuddion os byddwch chi'n cael toriad trydan.

Oes, gallwch gysylltu sawl larwm gwddf ag un uned llinell gymorth.

Rhowch wybod i ni am unrhyw newidiadau i fanylion eich person cyswllt (pobl gyswllt) mewn argyfwng, megis rhifau ffôn, cyfeiriadau, neu os yw rhywun yn mynd ar wyliau. Rhowch wybod i ni os ydych i ffwrdd o'ch cartref am gyfnod estynedig.

Delta Unrhyw Le

Larwm gwddf gyda system olrhain GPS ac offeryn canfod codymau

Gyda system olrhain GPS a chanfod codymau, gall eich helpu i gadw'n ddiogel p'un a ydych gartref neu allan o gwmpas y lle. Os oes angen help arnoch, gallwch wasgu botwm i rybuddio ein tîm monitro a rhannu eich lleoliad. Gallwch hefyd siarad â'r tîm trwy'r ddyfais.

Gosod

Mae'r ddyfais yn cael ei dosbarthu yn barod i'w defnyddio. Dim ond ei gwefru, ei throi ymlaen a dilyn y canllaw cyflym sydd wedi'i gynnwys yn eich pecyn. Os oes angen help arnoch, gall ein tîm cymorth eich tywys dros y ffôn, neu gallwch ofyn am wasanaeth gosod proffesiynol gan ein tîm TEC pwrpasol am dâl bach (sydd ar gael ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin, Powys a rhai rhannau o Sir Benfro, Ceredigion, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot).

Y cyfan sydd ei angen arnoch yw ffynhonnell bŵer ar gyfer gwefru. Mae'r offer yn defnyddio cerdyn SIM er mwyn cysylltu, felly nid oes angen Wi-Fi na llinell dir.

Defnydd

Mae'r ddyfais yn canfod codymau ac yn cynnwys botwm SOS. Pan caiff y ddyfais ei hactifadu, mae'n eich cysylltu â'n canolfan fonitro neu'ch pobl gyswllt, yn rhannu eich lleoliad, ac yn galluogi galwadau llais dwyffordd.

Ydy, mae'n defnyddio GPS a rhwydweithiau symudol, felly mae'n gweithio unrhyw le gyda signal – gartref, yn yr ardd neu allan o gwmpas y lle.

Gallwch. Gellir gwisgo'r ddyfais o amgylch eich gwddf neu ei chario mewn poced. Mae'n gwrthsefyll dŵr felly gellir ei gwisgo yn y gawod, fodd bynnag, ni ddylid rhoi'r ddyfais yn gyfan gwbwl dan ddŵr felly peidiwch â'i gwisgo yn y bath.

Dylech wefru'r ddyfais gan ddefnyddio'r cebl neu'r doc a gyflenwir; mae bywyd batri fel arfer yn para hyd at 5 diwrnod.

Bydd, mae gan y ddyfais fatri mewnol a bydd yn parhau i weithio yn ystod toriad trydan cyn belled â'i bod wedi'i gwefru'n ddigonol.

Teulu a chefnogaeth

Oes, gall y ddyfais roi gwybod i bobl gyswllt enwebedig yn ogystal â'n canolfan fonitro, yn dibynnu ar eich dewisiadau.

Gallant, gyda'r ap ategol gall pobl gyswllt enwebedig weld eich lleoliad a derbyn rhybuddion.

Rhowch wybod i ni beth yw eich cyfeiriad newydd. Bydd y ddyfais yn gweithio unrhyw le yn y DU sydd â signal ffôn symudol. Rhowch wybod i ni os ydych chi'n mynd ar wyliau neu oddi cartref am amser hir.

Ymateb

Mae ein gwasanaeth ymateb yn darparu cefnogaeth yn bersonol os oes angen help neu gymorth arnoch, mae ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn gan gynnwys gwyliau banc. Gall ein hymatebwyr hyfforddedig fynychu eich cartref i helpu ar ôl cwymp neu argyfwng anfeddygol arall a dilyn eich teulu neu wasanaethau brys os oes angen. Mae'r gwasanaeth yn cael ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Pwyswch eich larwm. Bydd ein tîm yn siarad â chi drwy'r ddyfais, yn asesu eich anghenion, ac yn trefnu'r cymorth cywir, gan gysylltu â'r teulu, anfon ein hymatebwyr, neu ffonio'r gwasanaethau brys os oes angen.

Os nad ydych yn gallu siarad, bydd ein tîm yn trin hyn fel argyfwng ac yn anfon help.

Os nad yw eich pobl gyswllt neu ein hymatebwyr ar gael, byddwn yn cysylltu â'r gwasanaethau brys i sicrhau eich bod yn derbyn help.

Ein nod yw ymateb o fewn 60 munud ar ôl derbyn galwad frys, yn dibynnu ar eich lleoliad a'ch trefniadau mynediad.

Mae angen diogell allweddi er mwyn i'n tîm ymateb gael mynediad diogel. Gallwch brynu hwn trwom ni neu gan gyflenwr arall.

Peidiwch â gadael allweddi yn y drws na defnyddio bolltau neu gadwyni drws, gan y gallai hyn atal ymatebwyr neu wasanaethau brys rhag mynd i mewn. 

Galwadau Llesiant

Gyda Delta Sgwrsio, mae ein tîm cyfeillgar yn eich ffonio i holi sut ydych chi. Mae'n ffordd wych o wneud yn siŵr bod popeth yn iawn ac i gael sgwrs os hoffech hynny. Gallant eich atgoffa am feddyginiaeth neu frechiadau ffliw er enghraifft, ac mae'n gyfle i godi unrhyw broblemau yn gynnar. Gallant hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch teulu neu'ch gofalwyr (gyda'ch caniatâd). Mae hyn yn helpu i leihau unigedd, gwella llesiant ac mae'n rhoi tawelwch meddwl ychwanegol. Gellir teilwra'r galwadau i'ch dewisiadau a'ch anghenion.

Yn dibynnu ar eich dewisiadau a'ch anghenion, gallwch ddewis cael galwadau wythnosol i roi sicrwydd a'r wybodaeth ddiweddaraf neu alwadau hirach, mwy trylwyr bob mis i gael sgyrsiau dyfnach a chyngor.

Yn ystod eich asesiad, byddwn yn trafod eich dewisiadau, eich anghenion iechyd, ac unrhyw sbardunau ar gyfer cymorth ychwanegol. Mae hyn yn ein helpu i greu amserlen alwadau wedi'i phersonoli a chynllun hunan-reoli.

Os yw ein tîm yn nodi pryder, gallant gynnig cymorth ymarferol, eich cyfeirio at wasanaethau cymunedol, neu gyfeirio at gymorth statudol os oes angen.

Byddwn yn ceisio eto, ac os nad ydym yn gallu eich cyrraedd o hyd, efallai y byddwn yn cysylltu â'ch pobl gyswllt enwebedig i wneud yn siŵr eich bod chi'n ddiogel neu anfon ein tîm ymateb (os yw'n rhan o'ch cynllun).

Newid digidol

Mae rhwydwaith ffôn y DU yn newid o analog i ddigidol erbyn 2027. Gallai hyn effeithio ar offer teleofal hŷn sy'n dibynnu ar linellau ffôn traddodiadol oni bai bod camau yn cael eu cymryd. 

Ni fydd hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o gwsmeriaid. Mae ein holl linellau cymorth yn gydnaws â systemau digidol a gellir eu cysylltu dros y ffôn, drwy  lwybrydd neu drwy gerdyn SIM. Os nad oes gennych ryngrwyd, rydym yn cynnig llinell gymorth SIM yn unig sy'n cysylltu â'r rhwydwaith ffôn symudol cryfaf.

Mae gan linellau cymorth SIM yn unig fatri wrth gefn sy'n para am hyd at 72 awr. Os yw eich dyfais wedi'i chysylltu â llwybrydd, holwch eich darparwr beth yw eich opsiynau o ran batri wrth gefn.

Bydd, mae ein hoffer llinell gymorth yn gydnaws â llinellau ffôn digidol. Rydym wedi gwneud yn siŵr bod ein holl systemau yn barod ar gyfer y newid fel bod eich gwasanaeth yn parhau'n ddi-dor.

Os yw eich darparwr ffôn cartref neu fand eang yn dweud wrthych eich bod chi'n cael eich newid i ffôn digidol, rhowch wybod iddynt fod gennych wasanaeth teleofal fel y gallant wneud yn siŵr ei fod yn parhau i weithio. Os oes gennych unrhyw bryderon o gwbl, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu eich cynorthwyo neu'ch cynghori. 

Dychwelyd eitemau/ad-daliadau

Gallwch ddychwelyd eich offer o fewn 14 diwrnod i'w ddanfon er mwyn cael ad-daliad llawn, ar yr amod nad yw wedi cael ei ddefnyddio a'i fod yn ei ddeunydd pecynnu gwreiddiol.

Os nad yw rhywbeth yn gweithio fel y dylai, cysylltwch â ni ar unwaith. Byddwn yn trefnu eich bod yn cael offer newydd neu ei fod yn cael ei atgyweirio cyn gynted â phosibl heb unrhyw gost ychwanegol.

Os yw'r offer yn ddiffygiol neu os ydym wedi anfon yr eitem anghywir, byddwn yn talu'r gost ddychwelyd. Fel arall, bydd angen i chi ei bostio yn ôl atom.

Caiff ad-daliadau eu prosesu unwaith y bydd yr offer a ddychwelwyd wedi'i dderbyn a'i wirio. Byddwn yn ei brosesu trwy GoCardless gan ddefnyddio'r un cyfrif banc a ddefnyddiwyd gennych i wneud eich taliad. Ar ôl i ni roi'r ad-daliad, fel arfer bydd yn ymddangos yn eich cyfrif o fewn 5–10 diwrnod gwaith, yn dibynnu ar amseroedd prosesu eich banc. Byddwn yn cadarnhau trwy e-bost pan fydd eich ad-daliad wedi'i drefnu.

Cwynion

Ein nod yw darparu gwasanaeth rhagorol, ond os oes gennych bryderon, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu gwneud pethau'n iawn. Cysylltwch â ni dros y ffôn ar 0300 333 2222, e-bostiwch info@deltawellbeing.org.uk, neu ysgrifennwch at y Tîm Cwynion, Llesiant Delta Wellbeing Ltd, Llawr 1af, Porth y Dwyrain, Llanelli, SA15 3YF. Rydym yn ceisio datrys cwynion yn gyflym a byddwn yn eich hysbysu drwy gydol y broses.

Os nad ydych yn fodlon, gallwch gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Gallwch, rydym yn darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog a gallwn gyfathrebu yn y Gymraeg, yn Saesneg, mewn print bras, sain, neu ieithoedd cymunedol eraill ar gais.