Ymgynghorydd
Fel ymgynghorydd yn ein canolfan fonitro 24/7, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu cefnogaeth ymatebol, dosturiol ac o ansawdd uchel i'n cwsmeriaid. Bydd eich gwaith yn effeithio'n uniongyrchol ar ddiogelwch, llesiant ac annibyniaeth unigolion agored i niwed a hŷn yn ein cymuned.
Prif Ddyletswyddau:
Byddwch yn aelod craidd o'n tîm trin galwadau brys i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, gan ddarparu cefnogaeth effeithlon a thosturiol.
Ymateb i alwadau brys sy'n deillio o larymau, gan gymryd camau cyflym a phriodol i ddiogelu pobl agored i niwed a phobl hŷn.
Ymdrin â galwadau y tu allan i oriau am atgyweiriadau tai brys, problemau priffyrdd, gwasanaethau cymdeithasol i oedolion, a chymorth i weithwyr sy'n gweithio ar eu pen eu hunain.
Asesu a blaenoriaethu galwadau, gan gysylltu â chontractwyr i ddatrys atgyweiriadau brys yn gyflym.
Cefnogi'r gwaith o fonitro teleiechyd a thechnolegau cynorthwyol, gan gynnal lefelau uchel o gywirdeb a sylw i fanylion.
Mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n ffynnu mewn amgylchedd cyflym, sy'n gallu ymdopi'n dda o dan bwysau, ac yn angerddol am wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau pobl.
“Mae rôl yr Ymgynghorydd yn newid yn barhaus ac yn gyflym, gyda phob tasg yn cael ei ymdrin yn wahanol i'r ddiwethaf. Mae'r rôl yn cynnig y cyfle i ddefnyddio natur ddeinameg a sgiliau rhyngbersonol, tra'n rhoi teimlad gwirioneddol o foddhad i chi eich bod chi'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau unigolion agored i niwed. Mae'r tîm yn unigolion o'r un meddylfryd, sy'n canolbwyntio ar gael effaith gadarnhaol ar rai o bobl fwyaf agored i niwed Cymru. Mae darparu'r llinell gymorth hon i'n defnyddwyr gwasanaeth yn rhoi boddhad mawr."
Beckie, Uwch-ymgynghorydd
Cynorthwyydd Cwsmeriaid
Fel Cynorthwyydd Cwsmeriaid, byddwch yn aelod hanfodol o'n gwasanaeth ymateb brys y tu allan i oriau, gan sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn cefnogaeth amserol, gywir ar draws ystod o wasanaethau hanfodol.
Prif Ddyletswyddau:
Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol fel aelod allweddol o'r tîm trin galwadau brys y tu allan i oriau, gan wneud yr hyn sydd bwysicaf i'n cwsmeriaid.
Ymateb i alwadau brys i'r gwasanaeth gan gwsmeriaid ar draws awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, lleoliadau addysgol a chwmnïau preifat, gan sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd a bod cwsmeriaid yn derbyn ymateb amserol.
Dyrannu tasgau i gontractwyr, rheoli llwythi gwaith yn rhagweithiol, a chyfeirio materion i uwch-reolwyr neu swyddogion wrth gefn pan fo angen.
Defnyddio systemau TG amrywiol i gofnodi a rheoli galwadau, cwblhau tasgau gweinyddol, a chadw cofnodion cywir.
Ymateb a phrosesu ceisiadau am atgyweiriadau tai nad ydynt yn frys a cheisiadau am wasanaethau'r cyngor, gan gynnwys gwneud apwyntiadau lle bo'n briodol.
Mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n gallu ymdopi'n dda o dan bwysau, yn dda gyda thechnoleg, ac yn angerddol am helpu pobl pan fydd ei angen arnynt fwyaf.
“Mae'r swydd y tu allan i oriau yn un brysur ac mae pob diwrnod yn wahanol. Mae gen i ymdeimlad o gyfrifoldeb dros bob person sy'n galw heibio ag ymholiad a dod o hyd i ateb boddhaol i'r person hwnnw. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o dîm Llesiant Delta.”
Ryan, Cynorthwyydd Cwsmeriaid
Swyddog Gofal trwy Gymorth Technoleg
Fel Swyddog Gofal trwy Gymorth Technoleg, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu unigolion i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel trwy asesu eu hanghenion a darparu atebion technoleg gynorthwyol wedi'u teilwra.
Prif Ddyletswyddau:
Asesu cleientiaid yn eu cartrefi, gan nodi'r dechnoleg gynorthwyol fwyaf addas i gefnogi eu hannibyniaeth, eu diogelwch a'u llesiant.
Gosod, cynnal a thynnu offer Gofal trwy Gymorth Technoleg, gan sicrhau eu bod yn cael eu gosod yn ddiogel ac yn broffesiynol gan ddefnyddio'r offer a'r gweithdrefnau priodol.
Defnyddio systemau TG y cwmni a phartneriaid i gofnodi gwybodaeth am gleientiaid, rheoli offer, a chefnogi cynllunio gofal.
Diweddaru a chynnal cofnodion cleientiaid, gan ddefnyddio systemau digidol i gynorthwyo i ragnodi ac olrhain offer.
Mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n ymarferol, empathetig ac angerddol am ddefnyddio technoleg i wella bywydau.
“Rydw i wedi gweithio fel Swyddog Gofal trwy Gymorth Technoleg am ychydig llai na thair blynedd. Rwy'n mwynhau fy rôl oherwydd rwy'n cael gweld gwahanol bobl allan yn y gymuned a helpu i wella eu hyder yn eu cartrefi eu hunain. Mae Llesiant Delta yn helpu i wella bywydau llawer o bobl agored i niwed ac yn eu cefnogi i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain."
Jamie-Lee, Swyddog Gofal trwy Gymorth Technoleg
Swyddog Ymateb Cymunedol
Fel Swyddog Ymateb, byddwch yn rhan o dîm ymroddedig sy'n darparu cymorth brys a gofal a chyngor ymarferol i gwsmeriaid, gan eu helpu i gadw'n ddiogel ac yn iach yn eu cartrefi.
Prif Ddyletswyddau:
Ymateb i alwadau brys, mynychu cartrefi cwsmeriaid i asesu anghenion a darparu neu gydlynu cymorth priodol.
Darparu gofal ymarferol a phersonol, gan gynnwys cynorthwyo cwsmeriaid gyda chwympiadau nad ydynt wedi achosi anafiadau a helpu gyda gofal personol.
Ymdrin â sefyllfaoedd sensitif gyda gofal, gan gysylltu â pherthnasau agosaf, asiantaethau gofal, a gwasanaethau brys i sicrhau'r ymateb cywir.
Darparu gofal tosturiol, gan barchu preifatrwydd, urddas ac amgylchiadau unigol pob cwsmer.
Cynnig cyngor a chefnogaeth sy'n gysylltiedig â Gofal trwy Gymorth Technoleg fel rhan o wasanaeth y cwsmer.
Mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n gallu ymdopi'n dda o dan bwysau, yn dosturiol, ac yn hyderus wrth ddarparu cymorth brys ymarferol mewn amgylchedd cyflym.
“Mae fy swydd yn golygu fy mod i'n cael meithrin perthnasoedd dibynadwy gyda chleientiaid a'u teuluoedd ac fel tîm, rydyn ni'n dod yn gyfarwydd â'u hanghenion yn gyflym. I rai, efallai mai fi yw'r unig berson maen nhw'n ei weld drwy'r dydd. Efallai mai'r sgwrs gyda fi yw'r unig sgwrs i'r person hwnnw ei chael ers diwrnodau. Cafodd pandemig COVID effaith enfawr ar bobl agored i niwed yn y gymuned ac mae unigrwydd wedi bod ar ei waethaf. I fi, dyma'r adeg yn fy ngyrfa sydd wedi rhoi'r boddhad mwyaf i mi. Fel tîm, rydym wedi mynd yr ail filltir i geisio gwneud yr amser hwn yn oddefadwy i'r rheiny sydd wedi ein hangen fwyaf a byddwn yn parhau i wneud hynny.”
Laura, Ymatebydd Cymunedol
Ymgynghorydd Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Fel Ymgynghorydd Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, byddwch yn brif bwynt cyswllt ar gyfer unigolion sy'n ceisio cymorth ar draws gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion. Byddwch yn darparu cyngor amserol, yn asesu anghenion ac yn helpu pobl i gael mynediad i'r gwasanaethau cywir i wella eu llesiant a'u hannibyniaeth.
Prif Ddyletswyddau:
Gweithredu fel un pwynt mynediad ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion, gan ymdrin ag ystod o ymholiadau gyda phroffesiynoldeb, empathi ac effeithlonrwydd.
Darparu cyngor ac asesiadau cywir, gan gasglu gwybodaeth hanfodol i werthuso anghenion risg, cymhwysedd a chymorth yn unol â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Cefnogi unigolion â Gofal trwy Gymorth Technoleg trwy gynnig arweiniad a gwybodaeth.
Defnyddio ystod o systemau TG i gofnodi a rheoli data cwsmeriaid yn ddiogel, gan sicrhau cydymffurfiaeth â GDPR a phrotocolau mewnol.
Gweithio ar y cyd o fewn tîm amlddisgyblaethol, gan gyfrannu at ganlyniadau cadarnhaol a diogel i unigolion.
Mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n ystyriol, yn canolbwyntio ar fanylion ac yn hyderus wrth wneud penderfyniadau gwybodus i gefnogi unigolion a theuluoedd ar y pwynt cyswllt cyntaf.
“Yr hyn rwy'n ei garu am fy swydd yw fy mod i'n gallu cefnogi rhywun i wneud gwahaniaeth yn ei sefyllfa bresennol a'i helpu i gael yr offer cywir ar gyfer byw'n annibynnol."
Kylie, Ymgynghorydd Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Swyddog Llesiant Cymunedol
Fel Swyddog Llesiant Cymunedol, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm, gan helpu unigolion i gael mynediad at y cymorth cywir i fyw'n annibynnol, yn ddiogel ac yn hyderus yn eu cymunedau.
Prif Ddyletswyddau:
Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ar draws gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd, gan gefnogi'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol gydag arweiniad amserol.
Cynnal ymweliadau cartref ac asesiadau llesiant, gan nodi atebion Gofal trwy Gymorth Technoleg rhagweithiol ac adolygu cynlluniau cymorth i ddiwallu anghenion unigol.
Gweithio ar y cyd o fewn tîm amlddisgyblaethol, gan gyfrannu at ganlyniadau diogel, effeithiol sy'n canolbwyntio ar y person.
Casglu a gwerthuso gwybodaeth i gwblhau asesiadau cymesur, gan bennu risg a chymhwysedd yn unol â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Hyrwyddo mynediad at wasanaethau ataliol, gan gefnogi integreiddio cymdeithasol a llesiant o fewn y gymuned.
Mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n empathetig, yn rhagweithiol ac yn angerddol am rymuso unigolion i fyw'n dda trwy gymorth personol a chysylltiad cymunedol.
“Fel Swyddog Llesiant Cymunedol, rwy'n cael fy ngwobrwyo gan werthfawrogiad y cleientiaid rwy'n eu helpu i aros yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Rwy'n cael lefel uchel o foddhad o'r gwaith drwy wybod fy mod i'n gwneud gwahaniaeth i bobl a chynnig diogelwch a sicrwydd nid yn unig i gleientiaid ond i'w teuluoedd hefyd."
Louise, Swyddog Llesiant Cymunedol
Swyddog Llesiant Cymunedol yn yr Ysbyty
Fel Swyddog Llesiant Cymunedol yn yr ysbyty, byddwch yn gweithio'n agos gyda thimau'r GIG i gefnogi rhyddhau cleifion yn ddiogel a sicrhau bod unigolion yn derbyn y gofal a'r gwasanaethau cywir i barhau i fyw'n annibynnol ac yn hyderus yn y gymuned.
Prif Ddyletswyddau:
Gweithio o fewn timau amlddisgyblaethol mewn ysbytai, gan gwblhau asesiadau mewn lleoliadau'r GIG ledled Sir Gaerfyrddin i gefnogi rhyddhau cleifion yn ddiogel ac yn amserol ar gyfer rheiny sy'n ffit yn feddygol.
Gweithredu fel un pwynt mynediad ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chymorth ar draws gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd, gan gefnogi cleifion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
Cynnal asesiadau llesiant, nodi atebion Gofal trwy Gymorth Technoleg rhagweithiol ac adolygu cynlluniau cymorth wedi'u teilwra ar gyfer anghenion unigol.
Cydweithio â gweithwyr proffesiynol i gyflawni canlyniadau diogel, effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer unigolion sy'n trosglwyddo o'r ysbyty i'r cartref.
Hyrwyddo gwasanaethau ataliol a chymorth cymunedol, gan helpu unigolion i barhau'n gysylltiedig ac yn integredig yn eu cymunedau.
Mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n ffynnu mewn amgylcheddau gofal iechyd cyflym, sy'n hyderus wrth wneud asesiadau, ac yn angerddol am gefnogi trosglwyddiadau diogel o'r ysbyty i'r cartref.
“Mae fy rôl yn cynnwys cynnig cysur a chefnogaeth i bobl i'w galluogi i ddychwelyd i'w cartref, sy'n teimlo'n ddiogel ac yn gyfarwydd. Rwy'n cael y cyfle i weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill i helpu i bontio'r trosglwyddiad o ofal ysbyty yn ôl adref. Mae fy swydd yn rhoi boddhad mawr gan ein bod yn helpu i hwyluso rhyddhau cleifion yn gynharach a chynnig gwasanaethau llinell gymorth sy'n cynnig sicrwydd i'r claf a'u teuluoedd. Mae'n fraint cwrdd â'r cleifion wyneb yn wyneb a'u galluogi i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain."
Nia, Swyddog Llesiant Cymunedol (Ysbyty)