Ymunwch â'n tîm

Ymunwch â Llesiant Delta a gwnewch wahaniaeth bob dydd. Rydym yn cynnig cyfleoedd gyrfa ystyrlon, twf proffesiynol, ac amgylchedd gwaith cefnogol. Rydym yn angerddol am ddatblygu talent leol, hyrwyddo cydraddoldeb, a grymuso ein gweithlu. Byddwch yn rhan o sefydliad sy'n gwerthfawrogi eich cyfraniadau ac yn buddsoddi yn eich potensial.

P'un a oes gennych brofiad o weithio yn y maes gofal cymdeithasol, gwybodaeth am ofal trwy gefnogi anwylyd, newydd ddechrau eich gyrfa neu'n gweithio tuag at ymddeol a bod gennych y sgiliau cywir i helpu i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, mae gennym gyfleoedd sy'n addas ar gyfer anghenion pawb.

alt

Y Manteision

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:

Cyflog cystadleuol

Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol 

Datblygiad personol a dilyniant gyrfa 

Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., Cynllun Beicio i'r Gwaith 

Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff