Ein hanes

Rydym yn Gwmni Masnachu Awdurdodau Lleol, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, sy'n arbenigo mewn technoleg gynorthwyol ac yn darparu cymorth rhagweithiol i helpu pobl i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel gartref am gyhyd â phosibl. Cawsom ein sefydlu ym mis Mehefin 2018, a hynny ar seiliau gwasanaeth Llinell Gofal y Cyngor a fu'n gweithredu am dros 30 o flynyddoedd. 

Ein gwasanaethau

Rydym yn ddarparwr blaenllaw o wasanaethau gofal trwy gymorth technoleg (a elwir yn TEC), gan gynnig atebion arloesol i wella diogelwch, diogeledd ac annibyniaeth unigolion yn eu cartrefi. Rydym yn cynnig monitro dwyieithog 24/7, ymateb brys, gwybodaeth, cyngor a chymorth a galwadau llesiant rhagweithiol i sicrhau tawelwch meddwl i'n cwsmeriaid a'u teuluoedd.

Rydym yn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn derbyn y cyngor gorau ar sut y gall y dechnoleg gynorthwyol ddiweddaraf, boed yn y cartref neu allan o amgylch y lle, wella ansawdd eu bywyd. Rydym yn cynnig y dechnoleg ddiweddaraf, ac yn gweithio gyda phartneriaid diwydiant i sicrhau ystod eang o offer, i'n helpu i ddarparu datrysiadau gofal wedi'u teilwra a all gefnogi a chynnal annibyniaeth ar gyfer ystod eang o anghenion.

Ein cenhadaeth

Rydym yn ymfalchïo mewn rhoi ein cwsmeriaid, o bob oedran, wrth wraidd popeth a wnawn. Gan wasanaethu unigolion, y sector cyhoeddus a sefydliadau eraill, rydym yn darparu cymorth o ansawdd uchel wedi'i deilwra i unigolion unrhyw le yn y DU, a ddarperir gan ymgynghorwyr medrus ac angerddol.

Mae'n fwy na busnes i ni, mae'n ddyhead o'r galon i wneud y peth iawn. Fel Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol, ein nod yw darparu gwasanaethau fforddiadwy o ansawdd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Ein gwerthoedd

  • 1.
    Canolbwyntio ar gwsmeriaid Canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion unigryw pob unigolyn
  • 2.
    Tosturiol Trin pawb yn gyfartal gyda pharch, urddas a dealltwriaeth
  • 3.
    Cydweithio Gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, teuluoedd a sefydliadau eraill
  • 4.
    Gwelliant parhaus Ymdrechu am arloesedd a rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn
  • 5.
    Cyfathrebu clir Sicrhau tryloywder ac ymddiriedaeth ym mhob rhyngweithiad

Cefnogi ein cwsmeriaid 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn

  • Unigolion Rydym yn grymuso pobl hŷn a bregus i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol gartref am gyfnod hirach. Yn sgil Gofal trwy Gymorth Technoleg, sesiynau dal i fyny o ran llesiant, ac ymateb brys, rydym yn darparu sicrwydd bod cymorth bob amser ar gael pan fo angen
  • Teulu a Gofalwyr Gall gofalu am anwylyd fod yn heriol. Rydym yn darparu diweddariadau amser real, mewnwelediadau llesiant, ac ymateb brys 24/7 i deuluoedd a gofalwyr, gan gynnig sicrwydd bod eu hanwyliaid yn cael eu cefnogi hyd yn oed pan na allant fod yno yn bersonol
  • Y Sector Cyhoeddus Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, byrddau iechyd y GIG a gwasanaethau brys i leddfu pwysau ar systemau gofal. Mae ein datrysiadau yn helpu i leihau derbyniadau i'r ysbyty a darpariaeth gofal cymdeithasol statudol, gan ddarparu cymorth cymunedol parhaus i wella iechyd a llesiant
  • Busnes a Gweithgynhyrchwyr Rydym yn partneru â sefydliadau masnachol, o wneuthurwyr dyfeisiau, darparwyr gwasanaeth a busnesau eraill, gan integreiddio ein technoleg a'n gwasanaethau i'w rhai nhw, gan eu galluogi i ddarparu gwerth ychwanegol i'w sylfaen cwsmeriaid presennol ac yn y dyfodol

Gofal Arweiniol a Alluogir gan Dechnoleg yng Nghymru

  • Gwasanaethu cymunedau ledled Cymru Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys, Abertawe, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Rhondda Cynnon Taf, Torfaen, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Sir y Fflint a mwy
  • Wedi'i bweru gan dros 170 o gydweithwyr Tîm cymwysedig a phrofiadol iawn sy'n darparu cefnogaeth ddydd a nos, ymateb mewn argyfwng a datrysiadau Gofal trwy Gymorth Technoleg arloesol
  • Monitro 35,000 o gysylltiadau ac ymdrin â 1.5m o alwadau bob blwyddyn Darparu atebion Gofal trwy Gymorth Technoleg sy'n gwella bywyd i unigolion a sefydliadau
  • Wedi'i reoleiddio gan Safonau Dibynadwy Wedi'i achredu gan Gymdeithas y Gwasanaethau Teleofal (TSA) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW)
  • Gwasanaeth dibynadwy i'r sectorau cyhoeddus a phreifat O awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a byrddau iechyd y GIG i weithgynhyrchwyr a darparwyr gofal eraill
  • Wedi ennill y Gwobrau canlynol Gwobrau Cyflawniad Llywodraeth Leol MJ, Gwobrau ITEC, Gwobrau 'The Great British Care Awards', Gwobrau Arloesedd MediWales, Gwobrau Caring UK a Gwobrau Busnes Bae Abertawe a mwy

Cychwyn arni

Darganfyddwch sut y gallwn rymuso eich annibyniaeth neu gefnogi eich sefydliad. Archwiliwch ein gwasanaethau wedi'u teilwra heddiw!