Mae ein Datganiad Blynyddol ddiweddaraf ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) 2025–26 yn rhoi trosolwg clir a thryloyw o'r gwasanaethau gofal a chymorth yr ydym yn eu darparu.
Mae'r Datganiad Blynyddol yn ofyniad a osodir gan AGC sy’n golygu bod yn rhaid i bob darparwr gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru gwblhau’r ffurflen bob blwyddyn o dan Ddeddf Rheoliadau ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA).
Mae'n helpu i sicrhau bod pobl, teuluoedd a phartneriaid yn gallu cael mynediad at wybodaeth gyson a dibynadwy am ansawdd y gwasanaethau, sut maen nhw’n cael eu darparu, a'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud.
Rydyn ni’n croesawu'r cyfle hwn i edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf, gan rannu'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni, sut rydyn ni’n cefnogi pobl i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol gartref, a ble rydyn ni’n parhau i ddysgu a gwella.
O 2026 ymlaen, mae gofyniad cyfreithiol newydd, o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, i ddarparwyr gyhoeddi eu Datganiad Blynyddol yn uniongyrchol ar eu gwefan eu hunain. Rydyn ni’n falch o ddarparu’r wybodaeth hon mewn modd sy’n hawdd ei chyrraedd yn Gymraeg a Saesneg.