Cwrdd â'r tîm
Rydym yn dîm cyfeillgar, profiadol wedi'i leoli yn Ne-orllewin Cymru, a rhyngom mae gennym bron 600 mlynedd o brofiad yn y sectorau Tai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Samantha Watkins
Rheolwr-gyfarwyddwr
Sam yw pennaeth Delta ac arweiniodd y trawsnewid fel gwasanaeth Careline o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae hi wedi gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, iechyd a thai ers dros 20 mlynedd.
Paul Faulkner
Pennaeth Technolegau
Ymunodd Paul ym mis Tachwedd 2012 gyda blynyddoedd o brofiad rheoli fel Rheolwr TEC. Fel Pennaeth Technolegau, mae'n cefnogi'r offer cymunedol, seilwaith, llwyfan monitro ac iechyd a diogelwch.
Rebecca Davies
Pennaeth Gweithrediadau a Phartneriaethau
Ymunodd Rebecca â'r cwmni yn 2016. Yn ystod ei hamser mae wedi datblygu gwybodaeth fanwl am y busnes, sydd wedi gweld ei chynnydd yn ei rôl bresennol fel Pennaeth Gweithrediadau a Phartneriaethau.
Andrea Thomas
Partner Busnes Cyllid / Ysgrifennydd y Cwmni
Ymunodd Andrea â Llesiant Delta ym mis Mawrth 2024 ar ôl gweithio ym maes cyllid awdurdodau lleol am 32 mlynedd gan ddod â chyfoeth o brofiad. Mae Adrea yn goruchwylio pob holl agweddau ariannol y busnes gan sicrhau bod y cwmni'n cydymffurfio â'r holl safonau a gweithdrefnau cyfrifyddu, ac mae hefyd yn gweithredu fel Ysgrifennydd y Cwmni a Swyddog Diogelu Data.
Charlotte Green
Rheolwr Gweithrediadau
Ymunodd Charlotte â’r tîm yn 2019 fel Cynghorydd ac ers hynny mae wedi’i dyrchafu’n Rheolwr Gweithrediadau, sy’n gyfrifol am reoli ein canolfannau monitro a’u staff o ddydd i ddydd.
Carla Dix
Arweinydd Rhaglen Arloesi Strategol
Mae gan Carla dros 11 mlynedd o brofiad yn gweithio yn faes TEC. Mae hi’n arwain Delta CONNECT sy’n drawsnewid dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Gorllewin Cymru.
Gareth Rees
Arweinydd Rhaglen Arloesi Strategol
Ymunodd Gareth â Llesiant Delta yn 2020 ar ôl gyrfa gyda sawl cwmni technoleg byd-eang. Mae ei rôl ddiweddaraf yn canolbwyntio ar brosiectau technoleg ddigidol a phartneriaethau ym maes iechyd.
Diane Phillips
Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata
Mae gan Diane 25 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y cyfryngau a chyfathrebu yn y sector cyhoeddus fel cyn-ohebydd. Ymunodd â Delta yn 2022 ac mae’n arwain ar ein gweithgareddau marchnata a chyfryngau.
Sarah Vaughan
Rheolwr Ymateb Cymunedol
Mae Sarah yn rheoli ein gwasanaeth Ymateb Cymunedol 24/7. Gyda blynyddoedd o brofiad, mae Sarah wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu atebion iechyd a gofal cymdeithasol arloesol ar draws y rhanbarth.
Ann Clarke
Swyddog Cyllid
Ymunodd Ann Clarke â’r tîm ym mis Tachwedd 2019 fel ein Swyddog Cyllid yma yn Llesiant Delta. Mae hi'n rheoli darpariaeth gwasanaeth ariannol effeithiol i gwrdd ag anghenion gwasanaeth.
Shereen Turvey
Arweinydd Tîm
Ymunodd Shereen â'r tîm ym mis Hydref 2013 ac mae wedi cael dyrchafiad i arwain a datblygu'r tîm trwy hyfforddi a rheoli perfformiad.
Lindsey Kearney
Arweinydd Tîm
Lindsey yw Arweinydd Tîm y gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn Sir Gaerfyrddin sy'n cefnogi atgyfeiriadau gofal cymdeithasol oedolion.
Kelsey Lewis
Arweinydd Tîm
Ymunodd Kelsey â'r tîm yn 2017 ac fe'i hyrwyddwyd i arwain a datblygu'r tîm drwy hyfforddi a mentora, gan ennill profiad helaeth o ddarparu pob agwedd ar y gwasanaeth.
Laura Furnell
Arweinydd Tîm
Ymunodd Laura â'r tîm yn 2018 ac mae wedi cael dyrchafiad i arwain a datblygu'r tîm drwy hyfforddiant a mentora.
Joy Cleary
Uwch Swyddog
Ymunodd Joy â'r cwmni yn 2018 a hi yw’r uwch-swyddog yn ein swyddfa yn Wrecsam. Mae hi'n goruchwylio ein gweithgareddau gweithredol o ddydd i ddydd ac yn cydgysylltu â'n partneriaid yn yr ardal
David Williams
Arweinydd Tîm
Ymunodd David â’r tîm ym mis Mawrth 2020 fel cynghorydd ac aeth ymlaen i fod yn Arweinydd Tîm mewn 12 mis. Gyda brofiad rheoli, mae’n gweithio gyda’r tîm i gefnogi datblygiad ein cynghorwyr.
Natalie Hart
Arweinydd Tîm - Ymateb
Roedd Natalie Cynghorydd GCCh ym mis Hydref 2019 ac mae wedi bod yn arweinydd tîm ers mis Rhagfyr 2021. Mae'n cefnogi ymatebwyr i helpu pobl agored i niwed gyda'i blynedd o brofiad gofal cymdeithasol.
Billy Jones
Arweinydd Tîm
Ymunodd Billy ym mis Awst 2019 fel cynghorydd, yna fel uwch gynghorydd ym mis Awst 2021 ac yna fel arweinydd tîm ym mis Ionawr 2022. Gyda'i brofiad, mae Billy yn cefnogi ein cynghorwyr a'n cwsmeriaid.
Helen Morris
Arweinydd Tîm - Ymateb
Ymunodd Helen ym mis Rhagfyr 2022 fel arweinydd tîm ymateb ar ôl gweithio yn y trydydd sector yn cefnogi pobl fregus am dros 20 mlynedd. Mae hi'n cefnogi'r tîm gwasanaeth ymateb cymunedol hanfodol.
Adam Thomas
Swyddog Prosiect Arloesedd a Seilwaith
Ymunodd Adam ym mis Mawrth 2019 fel cynghorydd ac yna ymunodd â’r tîm seilwaith ar ôl 18 mis. Mae'n gyfrifol am y seilwaith a rhedeg adroddiadau ar berfformiad y sefydliad.
Franki Evans
Arweinydd Tîm
Ymunodd Franki fel cynghorydd ym mis Mai 2019 gydag 20 mlynedd o brofiad gofal ac yna fel cynghorydd IAA ym mis Ionawr 2020. Ers mis Hydref 2020 mae hi wedi bod yn arweinydd tîm ac yn goruchwylio staff IAA.
Joanne Davies
Arweinydd Tîm - TEC
Ymunodd Joanne fel Cynorthwyydd Teleofal yn gosod offer ym mis Ebrill 2009 a daeth i Llesiant Delta fel Swyddog TEC yn 2018. Datblygodd fel Arweinydd Tîm TEC ym mis Rhagfyr 2021 gan oruchwylio'r tîm.