Swyddi gweigion presennol

Cofrestrwch ar gyfer ein rhybuddion swydd a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd gennym unrhyw swyddi gwag ar gael 

Swyddog Llesiant Cymunedol

Lleoliad Sir Gaerfyrddin
Dyddiad cau 31/07/2024
Math o Swydd Dros dro/secondiad - amser llawn
Gradd F £26,421 - £30,296

Ydych chi'n chwilio am rôl sy'n rhoi boddhad mawr lle gallwch gael effaith gadarnhaol ar fywydau unigolion agored i niwed yn eich cymuned? Ymunwch â'n tîm ymroddedig fel Swyddog Llesiant Cymunedol a helpwch i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae Llesiant Delta yn chwilio am weithwyr proffesiynol gofalgar, llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm fel Swyddogion Llesiant Cymunedol.

 Chi fydd y llais gofalgar a'r wyneb tosturiol sy'n darparu un pwynt mynediad ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gyfer gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd. P'un a ydych yn ymateb i alwadau neu e-byst, neu'n cynnal ymweliadau cartref, byddwch yn ymrwymedig i ddarparu cefnogaeth broffesiynol ac amserol i'r cyhoedd, ein partneriaid, cydweithwyr iechyd a rhanddeiliaid eraill. 

Gwnewch gais nawr

Fel Swyddog Llesiant Cymunedol, rwy'n cael boddhad o weld gwerthfawrogiad y cleientiaid rwy'n eu helpu i aros yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r swydd yn rhoi llawer o foddhad i mi o wybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth i bobl ac yn cynnig diogelwch a sicrwydd nid yn unig i gleientiaid, ond i'w teuluoedd.

Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion swydd

Rydym yn ehangu ein busnes yn barhaus i gefnogi'r galwadau cynyddol o fewn gofal cymdeithasol trwy ddatblygu a darparu datrysiadau a gwasanaethau iechyd arloesol wedi'u galluogi gan dechnoleg.
Mae hyn yn golygu bod gennym lawer o gyfleoedd cyffrous ar y gweill i ymuno â'n tîm.
Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r sgiliau a'r profiad cywir i fod yn rhan o #TîmDelta, llenwch y ffurflen i dderbyn e-byst pan fydd swyddi gwag ar gael.