Gweithio gyda chi
Rydym ni yn Llesiant Delta yn ymfalchïo ein bod yn gallu gwella annibyniaeth drwy ddarparu safon uchel o ofal a gwasanaeth, pryd bynnag y bydd arnoch chi neu eich cwsmeriaid eu hangen.
Mae ein holl gynnyrch a gwasanaethau yn cydymffurfio â safonau perthnasol y diwydiant – rydym wedi ein hachredu i gyrff allanol, yn cynnwys y Gymdeithas Gwasanaethau Tele-ofal (TSA). Rydym yn deall deddfwriaeth ac yn gweithio tuag at gydymffurfio â Safonau Gofal Iechyd Cymru a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Gan ddeall anghenion ein cwsmeriaid, ein nod yw gwneud yr hyn sy'n bwysig i chi, ychwanegu gwerth a'i gael yn iawn y tro cyntaf.
Pan fyddwch yn gweithio ochr yn ochr â'n tîm, gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn delio â sefydliad proffesiynol o safon sicr, sy'n gweithio o fewn protocolau clir ac sy'n anelu at y safonau uchaf yn y diwydiant. Rydym yn darparu cymorth pan fydd ei angen arnoch fwyaf ac yn barod i fynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod ein gwasanaethau'n effeithiol bob tro.
Rydym yn darparu gwasanaeth monitro galwadau dwyieithog a gwasanaethau cymorth eraill i ystod eang o Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, Cymdeithasau Tai, Llywodraeth Cymru, sefydliadau addysgol, cwmnïau preifat a thrigolion lleol. Rydym yn darparu cymorth proffesiynol ond personol 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. Gallwn ddarparu amrywiaeth o wasanaethau megis; Atgyweiriadau tai y tu allan i oriau, gweithio ar eich pen eich hun, cardiau gofalwyr, monitro larymau ac ati. Fel darparwr Gofal trwy Gymorth Technoleg a chanolfan fonitro arloesol, mae ein gwasanaethau'n newid drwy'r amser, felly os oes angen gwasanaeth arnoch nad yw wedi'i restru, rhowch alwad i ni.
Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Tele-iechyd
Galwadau Llesiant
Ymgynghoriaeth
Adfer mewn Argyfwng
Y trydydd sector
Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yw Llesiant Delta sydd ym mherchenogaeth lwyr Gyngor Sir Caerfyrddin, ac mae ein pwyslais ar helpu unigolion i wella eu hannibyniaeth. Cafodd ei sefydlu gan yr Awdurdod ym Mehefin 2018 ac roedd yn cynnwys trosglwyddo gwasanaeth Llinell Gofal y Cyngor i'r Cwmni.
Rydym yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer Gofal trwy Gymorth Technoleg. Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael y cyngor gorau posibl ynghylch sut y gall y dechnoleg ddiweddaraf, megis systemau larwm cymunedol yn y cartref a systemau symudol, wella eu hannibyniaeth. Drwy sicrhau'n gyson ein bod yn cynnig y dechnoleg ddiweddaraf, a thrwy weithio gyda phartneriaid a grwpiau yn y diwydiant, gallwn gynyddu'n sylweddol yr amrywiaeth o gyfarpar sydd gennym, fel bod gennym yr atebion ar gyfer ystod o anhwylderau ac anghenion ein cwsmeriaid.
Rydym yn ymfalchïo bod ein cwsmeriaid, beth bynnag eu hoedran, wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym yn sicrhau bod ein hymgynghorwyr llesiant ymhlith y rhai sydd wedi cael yr hyfforddiant gorau yn y diwydiant. Gallwn addasu i ddiwallu anghenion pobl ledled y Deyrnas Unedig. Mae'n fwy na busnes i ni; mae'n ddyhead o'r galon i wneud y peth iawn.
Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau'r 3ydd sector i helpu eu cleientiaid i wella eu hannibyniaeth. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni: info@deltawellbeing.org.uk
Awdurdod lleol
Mae Llesiant Delta yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol dan berchenogaeth lwyr Cyngor Sir Caerfyrddin. Rydym yn fenter fasnachol sydd wedi'i lleoli yn Sir Gaerfyrddin, wedi'i sefydlu i helpu pobl y mae angen cymorth arnynt i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol.
Mae'r safonau rydym yn eu pennu i ni ein hunain yn uchel iawn ac yn cael eu cadarnhau gan ein hachrediad i gyrff allanol, yn cynnwys y Gymdeithas Gwasanaethau Tele-ofal (TSA). Rydym yn gweithio tuag at gydymffurfio â Safonau Gofal Iechyd Cymru a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae ein holl ymgynghorwyr llesiant wedi cyflawni statws "Cyfeillion Dementia". Roeddem yn falch o gyrraedd rownd derfynol Gwobrau Gwasanaeth Cyhoeddus y Guardian yn 2017 ar gyfer ein Strategaeth Hyfforddiant, ac mae hyn yn tystio i'r buddsoddiad sylweddol rydym wedi ei wneud yn sgiliau ein staff dros y 18 mis diwethaf. Ar hyn o bryd rydym yn anelu tuag at gael ein gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth wedi ei achredu o dan Fframwaith Sicrhau Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Llywodraeth Cymru. Cefnogir ein tîm o ymgynghorwyr llesiant hyfforddedig ac ymroddedig gan weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol cofrestredig.
Rydym yn darparu gwasanaethau amlieithog i unigolion ar draws y DU. Rydym yn cynnig ystod amrywiol o wasanaethau i unigolion preifat, Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, sefydliadau'r sectorau preifat a chyhoeddus, busnesau masnachol a Llywodraeth. Mae ein llwyfan monitro a seilwaith yn defnyddio technoleg arloesol i gefnogi ystod o atebion presennol a dyfodolaidd i anghenion gofal a chymorth, yn cynnwys Tele-ofal, Tele-iechyd a Thele-feddyginiaeth. Hefyd rydym yn darparu gwasanaeth sy'n rhoi Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth dwyieithog 24/7 i unigolion a sefydliadau sy'n hyrwyddo ac yn cynnal llesiant ac annibyniaeth yn y cartref.