Gofal trwy Gymorth Technoleg
Technoleg yw Teleiechyd i helpu i fonitro eu hiechyd o gyfleustra eich cartref. Bydd hyn yn ychwanegu at y gofal a gynigir eisoes gan eich meddyg teulu/nyrs ac arbenigwyr.
Bydd cleifion yn cael offer, megis synwyryddion electronig, a fydd yn monitro pwysedd gwaed a darlleniadau ocsigen. Bydd y darlleniadau'n cael eu cyflwyno'n awtomatig i'w gweithiwr iechyd proffesiynol drwy AP ar eich ffôn symudol neu lechen.
Mae teleiechyd yn dechnoleg sy'n cael ei gyflwyno ar draws Hywel Dda yn ystod y misoedd nesaf. Ynghyd ag ymgynghoriadau fideo, negeseuon testun, holiaduron ac ati, bydd teleiechyd yn rhoi popeth sydd ei angen ar unigolion i reoli eu hiechyd eu hunain.
Gofal trwy Gymorth Technoleg
Mesur mwy,byw’n diogel
Er mwyn helpu i atal codymau a nodi risgiau eraill i chi, rydym yn defnyddio dyfais wisgadwy tele-iechyd i gasglu data pwysig sy'n gysylltiedig ag eiddilwch a'r risg o gwympo.
Un o'r dyfeisiau i'n helpu i nodi'r risgiau hyn yw oriawr syml sy'n monitro gweithgaredd yn ystod y dydd, patrwm cysgu a symudedd unigolyn i weld a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arno.
Mae dyfeisiau gwisgadwy yn dechnoleg sy'n cael ei gyflwyno ar draws Hywel Dda yn ystod y misoedd nesaf. Ynghyd ag ymgynghoriadau fideo, negeseuon testun, holiaduron ac ati, bydd teleiechyd yn rhoi popeth sydd ei angen ar unigolion i reoli eu hiechyd eu hunain.
Bydd teleiechyd yn dod yn nodwedd gyffredin o ran gofal a chymorth i’n cleifion yng ngorllewin Cymru. Bydd yn rhoi nifer o fuddion i unigolion a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, megis:
- Y gallu i godi unrhyw faterion iechyd yn gynnar;
- Lleihau'r angen i fynd i apwyntiadau cleifion allanol;
- Sicrhau cyfathrebu rheolaidd â gweithwyr iechyd proffesiynol, drwy negeseuon testun ac ymgynghoriad fideo.
Mae yna ystod o wahanol offer technoleg ar gael i gefnogi anghenion penodol unigolion. Darperir offer gan y gwasanaeth monitro teleofal sef Llesiant Delta. Gallwch gysylltu â thîm Llesiant Delta 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos drwy
0300 333 2222.
I atgyfeirio, cliciwch y botwm isod cliciwch:
Newyddion diweddaraf

News
Helpu pobl hŷn i gadw'n gynnes y gaeaf hwn

News
Llesiant Delta yn dathlu llwyddiant dwbl yng Ngwobrau Busnes Bae Abertawe 2025

News
Llesiant Delta yn ymuno â Chanolfan Byw'n Dda newydd yng Nghaerfyrddin

News
Llesiant Delta yn ennill gwobr arloesedd gofal cymdeithasol uchel ei bri
Astudiaethau achos diweddaraf

Case Study
Astudiaeth Achos: Mae llinell gymorth Delta CONNECT yn achub preswylydd rhag anaf difrifol

Case Study
Astudiaeth Achos: Gweithio gyda'r gwasanaethau brys i helpu preswylwyr i gadw'n ddiogel gartref a lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans

Case Study
Astudiaeth achos: Tîm ymateb yn helpu i leddfu'r pwysau ar Wasanaethau Ambiwlans Cymru

Case Study
Alun
Blogs diweddaraf
Mewn partneriaeth â




