Alun
Dywedodd cleifion sy'n defnyddio technoleg bod monitro eu hiechyd yn dod yn rhan o'u trefn ddyddiol arferol, a byddent yn cymryd darlleniadau'n fwy rheolaidd.
Nid yw'r teulu Jones yn deulu go iawn ond mae'n seiliedig ar wybodaeth iechyd a llesiant am bobl sy'n byw yn ein cymunedau ar wahanol adegau o'u bywyd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn defnyddio lens y teulu i brofi a meddwl am newidiadau i'n system iechyd a gofal a'r hyn y gallent ei olygu i deuluoedd yn ein hardal nawr, ac yn y dyfodol.
Mae Alun yn un o aelodau teulu Teulu Jones Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae Alun yn 80 oed. Mae'n ŵr i Mari ac yn drydanwr sydd wedi ymddeol. Mae ganddo hanes o Glefyd Isgemia'r Galon a Diabetes. Dechreuodd Alun ddefnyddio ei ddyfais wisgadwy yn gynharach eleni ar ôl cael cyngor gan ei weithiwr iechyd proffesiynol. Mae cadw'n heini bob amser wedi bod yn bwysig iawn i Alun ac mae gosod nodau o ran gweithgarwch y gall eu monitro yn ei gymell i fynd am dro i'r siop leol bob dydd i gael y papur newydd. Mae'n mwynhau cael adborth ynghylch ei iechyd.
Wrth siarad am y modd y mae'r ddyfais wisgadwy wedi bod yn ei gynorthwyo, dywedodd Alun:
“Mae monitro fy iechyd o gartref yn rhoi sicrwydd i mi. Mae'n fy ngwneud yn fwy ymwybodol o ba mor egnïol ydwyf ac yn fy annog i symud yn amlach. Rwy'n gwybod y gall fy ngweithiwr gofal iechyd proffesiynol edrych ar fy ngweithgarwch i ddeall fy ngweithgareddau'n well a gweld newidiadau yn yr hyn rwy'n ei wneud a fydd yn helpu gyda'r cymorth rwy'n ei gael.”