Yn ôl

Astudiaeth achos: Gallu aros yn fy nghartref fy hun

Mae Margaret Williams* yn wraig weddw ers bron i 30 mlynedd, ac yn byw ar ei phen ei hun mewn pentref gwledig yn Sir Gaerfyrddin. Mae un o'i merched yn byw yn yr Alban ac mae'r llall, Clare, yn byw daith awr i ffwrdd ac yn ymweld â'i mam bob penwythnos ar ei ffordd yn ôl o'r gwaith. Mae Mrs Williams yn hynod annibynnol ac wrth ei bodd yn byw yn ei fflat.

Cafodd Mrs Williams godwm yn ei hystafell wely ar Nos Galan 2022 a doedd dim modd iddi gyrraedd ei ffôn symudol na'i ffôn tŷ i alw am help. Roedd hi wedi bod ar y llawr am dros 15 awr pan gyrhaeddodd Clare i ymweld â hi ar Ddydd Calan a galw am ambiwlans. Aethpwyd â hi i'r ysbyty gan ei bod wedi datblygu niwmonia ar ôl gorwedd ar y llawr am gyfnod mor hir. Pan ddaeth hi adref wythnos yn ddiweddarach roedd yn hawdd deall pam ei bod hi'n teimlo'n nerfus am fod ar ei phen ei hun a chwympo eto, ac roedd Clare a'i chwaer yn bryderus ynghylch ei gadael heb unrhyw gymorth.

Roedd Clare wedi gweld hysbyseb am CONNECT ar y cyfryngau cymdeithasol, a galwodd y tîm heibio i osod llinell gymorth yn y fflat o fewn wythnos. Gwnaethant esbonio sut yr oedd popeth yn gweithio a gwneud yn siŵr bod Mrs Williams a Clare yn gwybod sut i ddefnyddio'r larwm gwddf a'r strap garddwrn.

Esboniodd Clare: “Rwy'n gweithio llawn amser ac mae byw awr i ffwrdd yn golygu bod galw heibio i wneud yn siŵr bod mam yn iawn mor anodd. Alla i ddim ei chodi os yw hi'n cwympo, felly mae gwybod y bydd ymatebwyr CONNECT yn dod allan i helpu yn golygu bod mam yn gallu aros yn y fflat lle mae hi wrth ei bodd a hynny gan aros yn ddiogel.”

Ers i'r offer gael ei osod mae Mrs Williams wedi cael ambell i godwm arall, ac mae'r ymatebwyr wedi ei chyrraedd o fewn 30 munud bob tro, gan wneud yn siŵr ei bod yn ôl yn ddiogel yn ei chadair a hyd yn oed wedi gwneud paned o de iddi cyn gadael.

Dywedodd Mrs Williams: “Mae'r tîm ymateb mor gyfeillgar, a dyw' nhw byth yn gwneud i mi deimlo fel hen wraig drwsgl. Maen nhw wir yn becso, a hebddyn nhw dwi ddim yn meddwl y gallwn i fod wedi aros yn fy fflat. Rwyf wrth fy modd yn byw yma ac mae gwybod eu bod nhw'n gallu helpu os ydw i'n cwympo yn rhoi shwd dawelwch meddwl i ni i gyd. Rwy'n hoffi eu bod nhw'n ffonio i wneud yn siŵr fy mod yn iawn hefyd. Mae fy nwy ferch yn gweithio'n llawn amser ac er ein bod yn siarad bob nos, mae hi mor braf sgwrsio gyda'r staff hyfryd o Delta yn y prynhawn.”

*Mae’r enwau wedi'u newi