Astudiaeth Achos: Gwybod bod cymorth ar gael pan fydd ei angen arnaf
Cafodd David ei eni â chyflwr prin a ddaeth i'r amlwg 25 o flynyddoedd yn ôl pan gododd un bore a llewygu.
Y sefyllfa
Cafodd David ei eni â chyflwr prin a ddaeth i'r amlwg 25 o flynyddoedd yn ôl pan gododd un bore a llewygu. Roedd angen llawdriniaeth frys arno oherwydd problem ddifrifol â'i wddf. Gan fod ei gyflwr yn gwaethygu'n raddol, mae cydbwysedd David yn wael iawn erbyn hyn ac mae'n gorfod defnyddio cadair olwyn. Mae perygl y bydd yn cwympo ac yn methu codi, yn enwedig wrth symud o'i gadair olwyn. Mae ganddo ofalwr ar gyfer rhannau penodol o'r dydd, ond mae ar ei ben ei hun weithiau.
Yr ateb
Mae David yn defnyddio synhwyrydd codymau sydd wedi'i gysylltu ag uned gartref Llinell Gymorth. Os bydd y synhwyrydd codymau yn synhwyro bod David wedi cwympo, bydd yn anfon rhybudd yn awtomatig at y ganolfan fonitro a fydd yn siarad â David drwy'r Llinell Gymorth ac yn anfon ymatebydd os bydd angen un. Hefyd gall David bwyso'r botwm ar y synhwyrydd codymau i ofyn am gymorth os oes ei angen arno, unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.
Y canlyniad
Mae synhwyrydd codymau David yn golygu os nad yw ei ofalwr gartref gydag ef, fod y ganolfan fonitro'n gallu anfon cymorth os oes angen, sy'n rhoi iddo sicrwydd a thawelwch meddwl 24 awr y dydd. Mae hefyd yn golygu y gall ei ofalwr adael y tŷ am gyfnodau byr o amser, gan wybod bod cymorth ar gael i David os bydd ei angen arno.
Dywed David
“Gall Tele-ofal helpu pob math o bobl ac mae'r gwasanaeth mae'n ei roi ichi'n wych; tawelwch meddwl yw'r prif beth i mi. Mae gwybod y bydd cymorth yno pan fydd ei angen yn lleihau'r straen i mi a'm gofalwr."