Yn ôl

Astudiaeth achos: Menyw 82 oed yn ddiogel ac yn iach ar ôl cael codwm

Y sefyllfa:

Cafodd ein rheolwr ymateb cymunedol, Sarah Vaughan, alwad gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru am alwad oedd wedi dod i mewn ynglŷn â menyw 82 oed oedd wedi cwympo y tu allan i'w chartref. Roedd y fenyw wedi amau ei bod wedi torri clun a doedd dim ambiwlans ar gael i'w anfon. Roedd hi'n bwrw cesair yn drwm, ac roedd y tymheredd yn gostwng islaw sero wrth iddi dywyllu. Roedd pryderon y gallai'r fenyw fod y tu allan am sawl awr allai arwain at hypothermia, oedd yn bryder enfawr.

Yr ateb:

Cytunodd Sarah i anfon dau o'n hymatebwyr cymunedol ar unwaith i gwrdd ag Ymarferydd Parafeddyg Uwch y gwasanaeth ambiwlans yn yr eiddo i gynnal asesiad i roi'r cyfle gorau posibl i'r claf wella'n gyflym ac yn llawn.

Y canlyniad:

Rhoddodd yr ymatebwyr sicrwydd a sgwrsio â'r claf oedd yn amlwg yn ofnus, yn oer ac yn dirywio. Gwnaethant gymryd ei harsylwadau sylfaenol a oedd yn peri pryder, ac roeddent yn gwybod bod amser yn ffactor pwysig i geisio diogelu'r claf cyn gynted â phosibl. Cynhaliodd yr Ymarferydd Parafeddyg Uwch asesiad o'r claf ac roedd yn gallu gweld nad oedd hi wedi torri clun felly roedd yn bosibl ei symud. Mae ein hymatebwyr yn cario offer codi arbenigol gyda nhw, sy'n golygu y gallai'r claf gael ei chodi'n ddiogel o'r ddaear a'i helpu yn ôl i'w chartref ac i mewn i ddillad sych i gael ei chynhesu, cyn cael ei chludo i'r ysbyty gan ei theulu i gael prawf iechyd. Heb yr ymyrraeth hon, byddai'r claf wedi bod yn gorwedd ar y ddaear am hyd anhysbys o amser yn aros am ambiwlans, a allai fod wedi costio ei bywyd.

Dywedodd Sarah:

"Ni allaf fynegi'r balchder yr oeddwn yn ei deimlo pan wnaeth yr ymatebwyr roi gwybod i fi fod y claf yn ddiogel ar ei ffordd i gael prawf iechyd ac yn ddiolchgar iawn i bawb oedd yn rhan o'r broses. Drwy weithio mor agos gyda'r gwasanaeth ambiwlans, rydym yn darparu canlyniadau gwell i gleifion, ac yn helpu i sicrhau bod ambiwlansys yn cael eu hanfon i ble mae eu hangen fwyaf.”