Astudiaeth Achos: Tawelwch meddwl i deulu Eric
Mae Eric, sy'n dioddef â dementia fasgwlaidd, yn byw ar ei ben ei hun. Mae ganddo hefyd anawsterau clywed.
Ond er gwaethaf hynny, mae Eric, sy'n rhan o'r prosiect Bywydau Bodlon*, yn hoffi byw mor annibynnol â phosibl.
Mae'n iach ac yn ffit yn gorfforol, mae'n mwynhau cerdded, ac yn aml yn ymweld â'i ferch sy'n byw gerllaw. Mae hefyd yn mwynhau teithiau cerdded hir yn gynnar yn y bore pan mae'n deffro.
Er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel, mae gan Eric ddyfais tracio OYSTA Pearl+ y mae'n gwisgo am ei wddf ar gortyn. Mae'r ddyfais wedi'i chysylltu â ffonau symudol ei ferch a'i fab yng nghyfraith er mwyn eu galluogi i dracio lleoliad Eric ar unrhyw adeg, os bydd ganddynt unrhyw bryderon am ei leoliad. Mae'r teulu hefyd yn cael neges destun pan fydd y ddyfais yn cael ei diffodd - neu pan fydd y batri'n isel - er mwyn iddynt allu helpu Eric i'w defnyddio'n gywir. Hefyd, mae botwm 'SOS' ar y ddyfais os bydd angen cymorth ar Eric pan ei fod allan ar hyd y lle.
Oherwydd ei ddementia, mae Eric yn cael anhawster cofio gweithgareddau dyddiol, gan gynnwys cymryd ei feddyginiaeth. I gynorthwyo Eric, mae ei deulu yn defnyddio peiriannau meddyginiaeth i'w atgoffa pan fod angen iddo gymryd ei feddyginiaeth.
Yn ogystal â'r dyfeisiau uchod, mae teulu Eric hefyd yn defnyddio synwyryddion drws ar y drws ffrynt, sydd dim ond ar waith yn ystod y nos. Mae'r synhwyrydd wedi'i gysylltu ag un o linellau cymorth Llesiant Delta sy'n trosglwyddo i ganolfan fonitro 24/7 ein tîm. Os ar unrhyw adeg yn ystod y nos y mae'r synhwyrydd yn cael ei actifadu, mae un o ymgynghorwyr y tîm yn cysylltu â gofalwyr ar y safle er mwyn sicrhau ei fod yn iawn.
Drwy ddefnyddio y dyfeisiau gofal trwy gymorth technoleg, mae Eric wedi gallu parhau i fyw'n annibynnol, yn ogystal â rhoi tawelwch meddwl i'w deulu.
*Mae prosiect Bywydau Bodlon yn cefnogi'r rheiny sy'n byw gyda dementia a nam gwybyddol i gynnal eu hannibyniaeth a chadw mewn cysylltiad â'u cymunedau. Y nod yw rhoi pobl wrth wraidd y ddarpariaeth a sicrhau bod cefnogaeth wedi'i theilwra ar gyfer yr unigolyn, ond yn defnyddio asedau'r gymuned a rhwydweithiau cymorth ehangach ar gyfer dull cymorth cyfannol.