Cleient CONNECT Ceredigion yn dweud bod ei llechen ddigidol yn "wych" a'i bod yn ei defnyddio'n ddyddiol
Mae un o gleientiaid CONNECT Ceredigion yn dweud bod y llechen ddigidol a gafodd fel rhan o'r gwasanaeth wedi bod yn "gymorth gwych" iddi ac mae'n ei defnyddio bob dydd.
*Ymunodd Mrs Jones, 80 oed, sy'n byw ar ei phen ei hun, â Delta CONNECT ym mis Hydref 2020.
Yn ogystal â galwadau llesiant, mynediad i Dîm Ymateb Cymunedol 24/7 ac offer Gofal trwy Gymorth Technoleg, teimlai y byddai'n elwa'n fawr ar y cymorth digidol fel rhan o'r gwasanaeth, felly rhoddwyd llechen ei hun iddi.
Er bod technoleg o'r fath yn newydd iddi, ac roedd ychydig yn bryderus ar y dechrau, dywedodd Mrs Jones ei bod yn gallu defnyddio'r llechen yn "hawdd iawn" a'i bod yn ei ddefnyddio bob dydd.
"Nid wyf yn dda iawn gyda thechnoleg," meddai, "ond mae'r llechen yn hawdd iawn i'w defnyddio." Mae'r apiau'n ddigon mawr i'w gweld a dydyn nhw ddim yn rhy gymhleth i'w defnyddio o gwbl."
Dywedodd Mrs Jones ei bod yn gwneud yn siŵr ei bod yn gwefru'r llechen bob bore fel y gall ei defnyddio yn y prynhawn a gyda'r nos i wneud ei hoff groeseiriau. Dywedodd: "Drwy wneud fy nghroeseiriau ar y llechen, mae'n cadw fy meddwl yn brysur sy'n bwysig iawn i mi."
Wrth siarad am yr effaith y mae'r gwasanaeth wedi'i chael ar ei bywyd, ychwanegodd, "Rwy'n credu bod y gwasanaeth CONNECT yn wych a byddaf yn ei argymell yn fawr i bobl eraill."
*Mae’r enwau wedi'u newid