Yn ôl

Cymorth digidol CONNECT yn atal cleient rhag cael ei thwyllo gan sgamwyr ar-lein

Mae atal ein cleientiaid mwyaf agored i niwed rhag cael eu twyllo gan “sgamwyr” yn hanfodol.

Un o fanteision y llechi digidol drwy ein gwasanaeth CONNECT, sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yw nad ydynt yn caniatáu i apiau anhysbys gael eu lawrlwytho.

Mae ein holl dabledi yn cynnwys Rheolwr Dyfais Symudo, a brofodd yn allweddol yn ddiweddar wrth ddiogelu un cleient ar ôl iddi dderbyn galwad ffôn yn dweud wrthi fod "ei chyfrif banc yn cael ei ddefnyddio i wyngalchu arian" ac o ganlyniad, "bod angen i'r Swyddfa Twyll Difrifol drosglwyddo arian o'i chyfrif."

Yna gofynnwyd iddi lawrlwytho ap o'r enw Anydesk ar ei llechen, a fyddai wedi rhoi mynediad o bell i'w dyfais, gan alluogi'r sgamwyr i weld ar gyfer beth oedd y llechen yn cael ei defnyddio, gan gynnwys bancio a siopa ar-lein, a galluogi newidiadau i gael eu gwneud i'r llechen.

 

Yn ffodus, oherwydd y swyddogaeth ddiogelwch ar y llechen CONNECT, pan geisiodd ein cleient lawrlwytho'r ap fel y gofynnwyd iddi, cafodd yr ap ei wrthod, gan atal mynediad a galluogi ein cleient i rybuddio tîm Llesiant Delta.

 


Pa bai hwn wedi digwydd ar lechen safonol heb Reolwr Dyfais Symudol, sydd wedi'i osod ar bob un o'n llechi CONNECT, byddai'r ap wedi cael ei lawrlwytho'n
llwyddiannus, gan alluogi'r sgamwyr i gael mynediad i'r ddyfais.

Yn ogystal ag atal twyll ar-lein rhag digwydd, mae tîm Llesiant Delta wedi bod yn gweithio'n agos gyda thîm Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin i ddiogelu cleientiaid rhag twyll dros y ffôn drwy ddefnyddio dyfeisiau True Call.

Caiff y dyfeisiau hyn eu gosod gan dîm Llesiant Delta ac mae'r tîm yn helpu i fonitro galwadau i atal galwadau ffôn niwsans a sgamiau yn y dyfodol.

Fel rhan o ddarpariaeth gwasanaeth CONNECT, yn ogystal â thabledi digidol, sydd wedi bod yn helpu teuluoedd i aros yn gysylltiedig trwy gydol y pandemig covid, mae cleientiaid hefyd yn derbyn cefnogaeth trwy offer Gofal Technoleg Galluog pwrpasol wedi'i deilwra i anghenion unigol, mynediad at dîm ymateb cymunedol 24/7 i gynorthwyo gyda chwympiadau nad ydynt yn niweidiol a galwadau lles.

Am fanylion pellach am y gwasanaeth CONNECT
ffoniwch ein Cynghorwyr ar 0300 333 2222 neu ewch
i www.llesiantdelta.org.uk