Gwasanaeth Bywydau Bodlon 1
Mae prosiect Bywydau Bodlon yn cefnogi'r rheiny sy'n byw gyda dementia a nam gwybyddol i gynnal eu hannibyniaeth a chadw mewn cysylltiad â'u cymunedau. Y nod yw rhoi pobl wrth wraidd y ddarpariaeth a sicrhau bod cefnogaeth wedi'i theilwra ar gyfer yr unigolyn, ond yn defnyddio asedau'r gymuned a rhwydweithiau cymorth ehangach ar gyfer dull cymorth cyfannol.
Mae gwasanaethau traddodiadol yn aml yn tueddu i ganolbwyntio ar ofal corfforol yn hytrach na llesiant emosiynol, cymdeithasol neu economaidd - mae'r prosiect hwn yn ymgorffori gwaith atal yn ganolog i'r cyfan ac yn hyrwyddo byw'n annibynnol drwy ddull strwythuredig sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Darllenwch ein hastudiaethau achos diweddaraf i gael gwybod sut y mae Gofal drwy Gymorth Technoleg (TEC) arloesol yn helpu i drawsnewid bywydau unigolion a'u cadw'n annibynnol am fwy o amser...
Stori Raymond...
Mae *Raymond yn ddyn 81 oed o Rydaman sy'n dwlu ar gerdded. Mae'n hanfodol ei fod yn gallu parhau i fyw'n annibynnol i fwynhau ei ymarfer corff bob dydd. Er ei fod yn cael ei gynorthwyo gan ei ferch a'i ffrindiau, mae'n byw ar ei ben ei hun mewn fflat ac roedd yn anghofio cymryd ei feddyginiaeth yn rheolaidd. Roedd yn dibynnu ar ei deulu a'i ffrindiau i'w atgoffa i gymryd ei feddyginiaeth bob dydd, yn ogystal â choginio'i fwyd.
Oherwydd ei ddementia fasgwlaidd, roedd teulu Raymond yn pryderu y byddai'n mynd allan i gerdded gyda'r hwyr gan ei fod wedi ceisio gadael ei fflat yn hwyr yn y nos o'r blaen. Daeth hyn yn bryder mawr.
Fodd bynnag, er mwyn sicrhau ei ddiogelwch, mae larwm drws wedi'i osod yn ei fflat, ac os bydd hwn yn seinio ar unrhyw adeg, bydd gofalwr ar safle'r fflatiau'n gallu cynorthwyo a sicrhau bod Raymond yn ddiogel, gan roi tawelwch meddwl i'w deulu 24/7.
Gosodwyd system fonitro Canary yn fflat Raymond hefyd i helpu i roi syniad o'i arferion cyffredinol o ddydd i ddydd er mwyn sicrhau ei fod yn derbyn yr holl gymorth angenrheidiol i gadw byw'n annibynnol cyhyd â phosibl. Dangosodd y system y byddai'n mynd i'r gwely am 10pm ac yn codi am 5.30am bob dydd fel arfer. Roedd y system yn gyson dros y cyfnod llawn pan gafodd ei gosod. Ar ôl cael gwybod am ei arferion, roedd modd cael gwared ar y system fonitro.
Er mwyn galluogi Raymond i barhau i fwynhau ei deithiau cerdded yn ddiogel, mae Oysta Pearl+ wedi'i roi iddo, sy'n cynnwys system olrhain GPRS sy'n cysylltu â ffôn ei fab-yng-nghyfraith. Felly, petai'n mynd allan i gerdded ac yn cael codwm annisgwyl, neu'n drysu ynghylch ei leoliad, gallai Raymond wasgu'r botwm argyfwng ar yr uned, neu byddai'r swyddogaeth codymau awtomatig yn gweithredu ar unwaith, gan roi gwybod i'w fab-yng-nghyfraith bod angen cymorth arno.
Mae Raymond hefyd yn defnyddio dosbarthwr a thipiwr meddyginiaeth i sicrhau ei fod yn cymryd ei dabledi'n annibynnol a bod hyn mor hawdd â phosibl iddo.
*Mae'r enwau wedi'u newid at ddiben yr astudiaethau achos hyn, ond mae'r holl straeon yn wir.