Gwasanaeth Bywydau Bodlon 2
Mae prosiect Bywydau Bodlon yn cefnogi'r rheiny sy'n byw gyda dementia a nam gwybyddol i gynnal eu hannibyniaeth a chadw mewn cysylltiad â'u cymunedau. Y nod yw rhoi pobl wrth wraidd y ddarpariaeth a sicrhau bod cefnogaeth wedi'i theilwra ar gyfer yr unigolyn, ond yn defnyddio asedau'r gymuned a rhwydweithiau cymorth ehangach ar gyfer dull cymorth cyfannol.
Mae gwasanaethau traddodiadol yn aml yn tueddu i ganolbwyntio ar ofal corfforol yn hytrach na llesiant emosiynol, cymdeithasol neu economaidd - mae'r prosiect hwn yn ymgorffori gwaith atal yn ganolog i'r cyfan ac yn hyrwyddo byw'n annibynnol drwy ddull strwythuredig sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Darllenwch ein hastudiaethau achos diweddaraf i gael gwybod sut y mae Gofal drwy Gymorth Technoleg (TEC) arloesol yn helpu i drawsnewid bywydau unigolion a'u cadw'n annibynnol am fwy o amser...
Stori Mair...
Mae *Mair, sy'n dioddef â dementia, yn 99 oed ac yn byw ar ei phen ei hun yn ei chartref ym Mhorth Tywyn. Mae hi'n dioddef â dementia a chyflyrau iechyd eraill gan gynnwys COPD (afiechyd llesteiriol cronig ar yr ysgyfaint), iselder a phroblemau â'i harennau. Mae Mair yn ysmygu'n drwm ac mae hi mewn perygl o gael codwm. Gan ei bod hi'n byw ar ei phen ei hun, mae hefyd yn profi unigrwydd o bryd i'w gilydd ac mae hi'n hoffi cymdeithasu gymaint â phosibl.
Oherwydd ei bod hi mewn perygl o gael codwm, rhoddwyd llinell gymorth a synhwyrydd codymau i Mair. Gall hi wisgo'r synhwyrydd codymau ar ei harddwn fel rhagofal rhag ofn y bydd hi'n anghofio gwasgu botwm safonol y llinell gymorth oherwydd ei bod hi'n colli cof yn y tymor byr.
Gan ei bod hi'n ysmygu, mae larymau mwg a larwm carbon monocsid hefyd wedi'u gosod yn ei chartref i wella'i diogelwch cyffredinol ymhellach, gan roi tawelwch meddwl i'w theulu.
Er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw unigrwydd y mae hi'n teimlo, mae Mair yn cael cymorth gan ei gofalwr Bywydau Bodlon, sy'n ei helpu gyda'i chinio, i fod yn rhan o'r gymuned a mynd allan i gymdeithasu drwy ddefnyddio tacsis. Mae Mair yn gallu gwneud hyn yn annibynnol os bydd hi'n dymuno, neu mae ei gofalwr wrth law bob amser i helpu pryd bynnag y bydd angen, gan sicrhau bod anghenion lles penodol Mair yn cael eu diwallu drwy'r amser.
Stori Tom...
Mae *Tom yn 87 oed ac yn byw ar ei ben ei hun yn Llanelli, mae'n colli ei gof oherwydd dementia. Mae gan Tom linell gymorth a larwm gwddf ar gyfer unrhyw argyfwng. Mae ganddo hefyd larymau diogelwch, larymau mwg, larwm carbon monocsid a synhwyrydd gwres yn ei gartref rhag ofn y bydd yn gadael unrhyw sosbenni i ferwi'n sych wrth goginio. Yn ogystal, mae'n defnyddio cloch dementia i'w gynorthwyo i ddweud yr amser a gwybod pa ddiwrnod a dyddiad yw hi, sy'n ddefnyddiol iawn iddo.
Er bod iechyd Tom wedi dirywio ymhellach yn ddiweddar, mae Tom yn parhau i gymdeithasu gymaint â phosibl gyda chymorth ei ofalwr Bywydau Bodlon gan ei bod hi'n ei helpu i fynd i Ganolfan Ddydd leol bob wythnos i weld ei ffrindiau, ac mae'n mwynhau hyn yn fawr. Mae Tom hefyd yn cael dau alwad bob dydd er mwyn i'r gofalwyr cartref sicrhau bod eu hanghenion personol a domestig yn cael eu diwallu bob wythnos, sy'n ei gadw'n annibynnol am fwy o amser yn y cartref y mae'n dwlu arno.
*Mae'r enwau wedi'u newid at ddiben yr astudiaethau achos hyn, ond mae'r holl straeon yn wir.