Yn ôl

Gwasanaeth CONNECT Sir Benfro wedi helpu person â chanser terfynol i gadw mewn cysylltiad ag anwylyn yn ystod Covid

Rhoddodd gwasanaeth CONNECT Sir Benfro gymorth digidol hanfodol i berson â chanser terfynol yn ystod Covid, gan sicrhau ei fod yn gallu cadw mewn cysylltiad yn rhithwir â'i annwyl wraig ar yr adeg bwysicaf.

Yn anffodus, cafodd *Mr Davies ddiagnosis o ganser 12 mis yn gynt ac o ganlyniad, cafodd ei symud i gartref nyrsio 55 milltir o le'r oedd y ddau yn byw gyda'u cathod.

Gan fod eu cartref mewn rhan anghysbell ac ynysig o Sir Benfro, penderfynodd y ddau ymuno â'r gwasanaeth CONNECT, lle byddent yn cael offer llinell gymorth, sy'n cael eu monitro 24/7 fel rhan o'r pecyn gofal trwy gymorth technoleg, gan gynnwys galwadau llesiant, a llechen GDS sy'n darparu cymorth digidol.

Yn dilyn sesiwn arddangos gydag un o Swyddogion Technoleg Llesiant Delta, dywedodd *Mrs Davies ei bod hi bellach yn teimlo'n "hyderus" wrth ddefnyddio'r llechen ddigidol yn annibynnol, gan mai ei gŵr oedd yn gyfarwydd â thechnoleg fel arfer.

Galluogodd hyn i'r ddau gadw mewn cysylltiad yn rhithwir pan oedd ei gŵr yn y cartref nyrsio, ar adeg pan nad oedd hawl gan y teulu i ymweld ag ef oherwydd Covid. Roedd y ddau wrth eu boddau'n defnyddio'r llechen a byddent yn ei defnyddio i siarad â'i gilydd yn ddyddiol.

 

Dywedodd Mrs Davies wrthyn ni, "Mae'r ddau ohonon ni mor ddiolchgar i chi a'r tîm i gyd. Mae bod gyda Llesiant Delta ar yr adeg hon wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Allwn ni ddim diolch digon i chi.”

 

Yn anffodus, yn fuan ar ôl hynny, gwaethygodd cyflwr Mr Davies ac yn dilyn sgan arall yn yr ysbyty, cadarnhawyd bod y canser wedi lledaenu a chafodd y ddau wybod fod ganddo ddisgwyliad oes o "wythnosau neu ddyddiau o bosibl."

Yn dilyn y newyddion torcalonnus, cafodd Mr Davies ei symud i ystafell fwy addas yn y cartref nyrsio, ond nid oedd mynediad Wi-Fi ar gael yno, gan olygu nad oedd yn gallu defnyddio ei liniadur na'i ffôn i gysylltu â'i wraig. Roedd yn teimlo'n isel ac yn unig.

Cafodd y sefyllfa hon ei dwyn i sylw'r tîm Delta drwy alwad llesiant gyda Mrs Davies. Arweiniodd hyn at y tîm yn cysylltu â'r cartref nyrsio i weld pa opsiynau oedd ar gael er mwyn parhau i roi cymorth i'r teulu ar yr adeg hollbwysig hon.

Cytunwyd i osod llwybrydd Wi-Fi CONNECT yn ystafell newydd Mr Davies a chafodd lechen ddigidol i ganiatáu i'r ddau barhau â'u galwadau fideo arbennig yn ystod ei wythnosau olaf. Aeth Swyddog Technoleg i'r cartref nyrsio i osod yr offer newydd a gweithiodd yn llwyddiannus.

Roedd y ddau "wrth eu boddau" ac yn ystod y penwythnos hwnnw, gwnaeth y ddau fwynhau eu sgyrsiau fideo dyddiol lle cafodd Mr Davies weld ei gathod hoff a'i ardd unwaith eto.

 

Dywedodd, "Alla i ddim credu eich bod wedi bod mor garedig. Does gyda chi ddim syniad beth mae hyn yn ei olygu i mi.”

 

Drwy'r cydweithrediad rhwng Cyngor Sir Penfro a Llesiant Delta, sicrhaodd hyn y gallai'r ddau gadw mewn cysylltiad yn ystod ei ddyddiau olaf a galluogodd i'r cartref nyrsio weithredu'r Polisi Diwedd Oes fel y'i nodwyd gan yr Awdurdod Lleol, gan ganiatáu i Mr Davies gael cyswllt wyneb yn wyneb yn ystod ei ddyddiau olaf.

*Mae’r enwau wedi'u newid