Yn ôl

Gwasanaeth CONNECT yn helpu dyn o Geredigion sy'n dioddef â dementia i osgoi arosiadau diangen yn yr ysbyty ar ôl cwympo gartref

"Rydym mor ddiolchgar am y gwasanaeth gwych rydych chi'n ei ddarparu," - geiriau diymhongar gofalwr o Geredigion y mae ei gŵr â dementia wedi cwympo sawl gwaith gartref, gan arwain at ffonio'r ambiwlans.

*Ymunodd Mr a Mrs Evans â gwasanaeth CONNECT ym mis Rhagfyr 2020 oherwydd roedd dementia Mr Evans yn gwaethygu, ac yn peri iddo gwympo gartref, gan arwain at sawl trip i'r ysbyty. Mae gan Mrs Evans nifer o gyflyrau iechyd hefyd.

Drwy'r gwasanaeth, cafodd y cwpl fynediad i Dîm Ymateb Cymunedol 24/7 i'w cynorthwyo ag unrhyw gwympiadau yn y dyfodol, galwadau llesiant, cymorth digidol, cymorth i ailymgysylltu â'r gymuned ac offer Gofal trwy Gymorth Technoleg gan roi cymorth ychwanegol ddydd a nos, trwy wasgu botwm.

Wrth siarad am yr effaith yr oedd gorfod mynd i'r ysbyty ar ôl pob cwymp wedi ei chael ar ei gŵr, gan ei dynnu allan o amgylchedd cyfarwydd ei gartref, dywedodd fod hyn wedi effeithio ar ei lesiant, gan ei "ddrysu" ynghylch lle'r oedd ef ac achosi mwy o ofid.

Ers ymuno â CONNECT, mae Mr Evans wedi cwympo sawl gwaith gartref ac mae'r tîm Ymateb Cymunedol 24/7 wedi bod wrth law i gynorthwyo, gan osgoi unrhyw arosiadau diangen pellach yn yr ysbyty, oni bai bod angen.

 

Wrth siarad am y cymorth a gafwyd drwy'r gwasanaeth cymorth cofleidiol, dywedodd Mrs Evans, "Gan fod gennym y gwasanaeth CONNECT bellach, rwy'n teimlo'n gwbl dawel fy meddwl y gallem ddibynnu ar Lesiant Delta i gael cymorth cyn gynted â phosibl pe bai angen cymorth brys arnaf i neu fy ngŵr.

 

"Pan oedd angen eu cymorth arnom ar ôl i'm gŵr gwympo, nid oeddent yn gadael nes eu bod yn gwybod bod y ddau ohonom yn iawn. Mae'r tîm bob amser yn gwrtais iawn, yn gyfeillgar ac yn bwyllog a bob amser yn gwneud cwpanaid o de i mi, bob tro mae'n galw. Mae'r gefnogaeth rydym wedi'i chael hyd yma wedi bod yn
hollol wych ac mae bob amser gennym dawelwch meddwl o wybod bod y tîm ymateb ar gael 24/7, os oes ei angen arnom."

Mae Mr a Mrs Evans hefyd yn derbyn galwadau llesiant bob dydd Mercher. Mae Mrs Evans yn mwynhau'r galwadau wythnosol ac yn dweud ei bod hi'n "braf siarad â rhywun gwahanol" a bod y cwpl yn teimlo'n "dawel eu meddwl" o wybod bod y tîm bob amser yno iddyn nhw, os oedd ei angen.

Ychwanegodd, "Rydym yn ddiolchgar iawn am y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu, byddem ar goll hebddo. Rwy'n teimlo bod gan fy ngŵr bywyd o ansawdd da nawr
ac mae'n hapus fy mod yn gallu gofalu amdano gartref. Byddwn yn argymell CONNECT yn fawr gan ei fod yn helpu i bobl aros gartref yn annibynnol ac mae lefel y gwasanaeth yn wych."

*Mae’r enwau wedi'u newid