Yn ôl

Hybu annibyniaeth drwy dechnoleg

Mae gan Eileen Rees, 87 oed, sawl cyflwr iechyd, gan gynnwys osteoporosis, diabetes, a hanes o dorri esgyrn, ac mae'n byw ar ei phen ei hun, ond mae'n benderfynol o fod yn annibynnol o hyd. Ar ôl cael codwm gartref a thorri ei phelfis, cafodd ei derbyn i Ysbyty Glangwili. Roedd hi'n awyddus iawn i ddychwelyd adref at ei chath annwyl ac ailddechrau gweithgareddau fel siopa a mynd i'w chanolfan gymunedol leol, ond roedd hi'n cydnabod bod angen cymorth ychwanegol o ran gofal personol a phrydau.

Chwaraeodd Llesiant Delta ran ganolog wrth hwyluso'r broses o'i rhyddhau'n ddiogel a'i hadferiad gan ddarparu cymorth pontio brys tra bod ei phecyn ailalluogi yn cael ei drefnu, a darparu gofal personol a phrydau bwyd dair gwaith y dydd. Roedd yr ymateb ar unwaith yn galluogi Mrs Rees i ddychwelyd adref yn ddiogel a dechrau adennill ei hannibyniaeth.

Cafodd linell gymorth hefyd, fel y gallai hi wasgu'r botwm coch ddydd a nos pe bai unrhyw bryderon neu broblemau a siarad â rhywun ar unwaith.

Rhoddodd Gofal trwy Gymorth Technoleg sicrwydd iddi, gan ei bod hi'n gwybod bod help bob amser wrth law rhag ofn bod codwm arall neu argyfwng. 

Hefyd datblygodd y tîm ymateb berthynas gref â Mrs Rees, gan gynnig nid yn unig cymorth ymarferol ond sicrwydd emosiynol oedd yn rhoi hwb i'w hyder.

Mae'r cymorth mae wedi'i gael gan Llesiant Delta wedi'i helpu i reoli tasgau bob dydd yn hyderus, teimlo'n ddiogel yn ei chartref, a pharhau i gymryd rhan yn y gweithgareddau mae'n eu mwynhau, yn ogystal â rhoi tawelwch meddwl i'w theulu.

Mae taith Mrs Rees yn dangos grym atebion gofal integredig trwy gymorth technoleg o ran gwella ansawdd bywyd pobl hŷn. Drwy gyfuno cymorth personol, ymateb cyflym, ac ymgysylltu cymunedol, mae Llesiant Delta yn gosod safon newydd ar gyfer byw'n annibynnol yn ddiweddarach mewn bywyd.