Yn ôl

Mae Delta CONNECT wedi cynnig "cymorth gwerthfawr" i Edward

Ar ôl i *Edward Jones, sy'n 82 oed ac yn ŵr gweddw ddychwelyd i'w gartref yn Llanymddyfri ar ôl cyfnod hir yn yr ysbyty ar ddiwedd 2019, byddai ei fab, a'i ferch yng nghyfraith a'u merch yn ymweld sawl gwaith y dydd i'w helpu â'i fywyd bob dydd a chadw llygad arno.

Fodd bynnag, newidiodd popeth pan ddechreuodd y cyfyngiadau symud. Dechreuodd Edward warchod ei hun a bellach nid oedd ymweliadau cyson mor hawdd.

Dechreuodd Edward ddefnyddio Gwasanaeth Delta CONNECT ym mis Mawrth 2020 ac mae wedi bod yn werth y byd iddo. Roedd e'n teimlo'n isel iawn ar ôl ei arhosiad hir yn yr ysbyty ac roedd wedi colli llawer o bwysau a olygodd ei fod yn teimlo'n fregus ac yn agored i niwed.

Fel rhan o'r gwasanaeth CONNECT, roedd Louise, sef y Swyddog Llesiant Cymunedol a benodwyd i Edward, yn ei ffonio bob wythnos i ofyn sut oedd e'n teimlo ac a oedd angen unrhyw help arno. Yn ogystal, roedd ganddo uned gartref Llinell Gymorth i'w gwisgo o amgylch ei wddf er mwyn galw am gymorth mewn argyfwng.

“Bues i yn yr ysbyty am bedwar mis ac roeddwn i'n teimlo'n ddigalon iawn.” Dywedodd Edward, "Roedd siarad â Louise yn gymaint o help. Rhoddodd Louise obaith newydd i mi."

I nifer o gleientiaid, mae'r gwasanaeth yn cynnwys bwyd neu gyflenwadau meddygol ond roedd Edward yn ddigon ffodus i gael ei deulu'n byw yn lleol i'w helpu â hyn.

“Rwy' mor lwcus i gael teulu gwych gerllaw ac maen nhw wir yn edrych ar fy ôl i, ond weithiau mae'n haws siarad â rhywun y tu allan i'ch teulu - mae rhai pethau nad ydych chi eisiau dweud wrthyn nhw oherwydd dydych chi ddim eisiau iddyn nhw boeni mwy nag y maen nhw ar hyn o bryd."

"Ni allaf ganmol gwasanaeth CONNECT ddigon. Roedd gwybod bod rhywun ar ben arall y ffôn i mi yn meddwl gymaint ac yn cynnig tawelwch meddwl i'm teulu hefyd."

Mae'r Swyddogion Llesiant Cymunedol wedi'u hyfforddi i adnabod cleientiaid a allai fod angen cymorth ychwanegol, hyd yn oed pan nad yw'r cleient wedi adnabod yr angen hwnnw ei hun - mae hyn wedi helpu teulu Edward i wybod ei fod yn ddiogel ac yn cael cefnogaeth yn y cartref hyd yn

oed pan nad ydynt yn gallu bod yno.

Dywedodd *Jonathan, mab Edward: “Mae gwasanaeth Delta yn golygu llawer i fy nhad ac mae'n teimlo'n wirioneddol freintiedig i allu cael mynediad iddo. Mae'r system Llinell Bywyd yn werthfawr tu hwnt iddo ac er ein bod ni'n byw'n agos, mae'n rhoi tawelwch meddwl i'r teulu i wybod bod help wrth law petai angen.

“Mae'r galwadau llesiant wedi bod yn wych - mae e'n mwynhau siarad â rhywun gwahanol ac mae'n edrych ymlaen at y galwadau bob wythnos. Mewn ychydig flynyddoedd, bydda' i siŵr o fod yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth fy hunan!"

*Mae’r enwau wedi'u newid